Newyddion Gwyddor Ymddygiad Chwefror 2026 | Rhifyn 06
Mae’r chweched rhifyn o e-fwletin Newyddion Gwyddor Ymddygiad yn cynnwys cyngor, astudiaethau achos ac adnoddau ar ddatblygu cyfathrebiadau sydd wedi’u llywio gan ymddygiad.
Mae’r chweched rhifyn o e-fwletin Newyddion Gwyddor Ymddygiad yn cynnwys cyngor, astudiaethau achos ac adnoddau ar ddatblygu cyfathrebiadau sydd wedi’u llywio gan ymddygiad.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn:
• Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
• Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd.
• Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder.
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn:
• Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau.
• Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau.
• Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa.
• Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol.
Mae’r Canllaw Gwirfoddol yn disodli’r ddogfen flaenorol, sef: Asesu’r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol, a gynhyrchwyd gan WHIASU yn 2012, ac mae’n amlinellu camau arferion gorau ar gyfer cynnal HIAs gwirfoddol.
Gellir defnyddio’r daflen cofnodi sgrinio ar Gam Sgrinio’r broses HIA i helpu i arwain a chofnodi’r trafodaethau. Dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.
Dylid defnyddio’r adnodd hwn yn ystod cam Cwmpasu’r broses HIA. Darperir nodiadau canllaw ar ddiwedd yr adnodd hwn i gefnogi’r gwaith o gwblhau’r cam hwn. Yn ddelfrydol, dylai mwy nag un unigolyn gwblhau’r cam cwmpasu.
Dyma enghraifft o agenda i’w defnyddio wrth gynnal gweithdy cyfranogol ar gam Sgrinio neu ar gam Arfarnu’r HIA.
Gellir defnyddio’r templed hwn ar y Cam Arfarnu Tystiolaeth o’r broses HIA i helpu i gofnodi trafodaethau yn ystod gweithdy cyfranogol. Dylid defnyddio hwn ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.
Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Blog Sbotolau newydd sy’n archwilio sut y bydd Rheoliadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) yn trawsnewid gwneud penderfyniadau strategol a chryfhau tegwch iechyd ledled Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio ar y cyd ag aelodau o Grŵp Llywio’r Cynllun Cyflenwi Llesiant Ariannol ar gyfer Cymru, gan gynnwys y Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Llywodraeth Cymru, i nodi’r cysylltiadau rhwng arian a chanlyniadau iechyd yng Nghymru. Mae llesiant ariannol yn un o flociau adeiladu allweddol iechyd a llesiant pobl oherwydd y gall arwain at straen cronig sy’n niweidiol i’n hiechyd corfforol a meddyliol pan fydd pobl yn pryderu am arian. Yma rydym yn tynnu sylw at bwy sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y materion hyn a sut y gall dull iechyd y cyhoedd wella iechyd a llesiant ariannol hirdymor.
Cydnabyddir fwyfwy fod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn heriau iechyd y cyhoedd. Nod yr adroddiad hwn yw cyflwyno unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru o safbwynt iechyd cyhoeddus. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol, y rhai sy’n llunio polisïau ac unigolion eraill sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ym maes cysylltiad cymdeithasol ac mae’n cynnwys data a thystiolaeth ar: gyffredinrwydd unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru a’r grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt fwyaf; ffactorau sy’n cynyddu’r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol; effeithiau ar iechyd a llesiant; tystiolaeth ar atebion; enghreifftiau o arfer da ledled Cymru; a meysydd allweddol i weithredu arnynt yn y dyfodol.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol genedlaethol o drigolion Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltu rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisi ac arferion iechyd y cyhoedd. Mae’r panel wedi’i ddylunio i fod yn gynrychioliadol yn fras o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg mis Hydref 2025 sy’n ymdrin â: Ffynonellau Gwybodaeth Iechyd, Polisi Iechyd, Iechyd a Llesiant ar ôl Beichiogrwydd, Rhagfarn ar sail Oedran ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Gweler y rhifyn diweddaraf yma.
Cynhaliwyd yr adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (AEI) hwn gan Dîm y Prosiect Sgrinio Canser yr Ysgyfaint, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o’r GIG, a gefnogwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), drwy hwyluso gweithdy cyfranogol AEI. Sefydlwyd tîm y prosiect ym mis Ebrill 2024 ac fe gafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Medi 2025. Canolbwyntiodd yr AEI cyfranogol cyflym ar gasglu gwybodaeth a mewnwelediad rhanddeiliaid Cymru i’r cynlluniau arfaethedig i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth a’r rhai sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cefndir i’r prosiect ac i’r AEI ei hun, cyn edrych ar y gweithdy AEI Cyfranogol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024 yn fanylach. Mae’n dangos pa grwpiau poblogaeth a nodwyd a’r penderfynyddion iechyd yn unigol, gan ddefnyddio rhestrau gwirio Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd WHIASU. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai’r Rhaglen Sgrinio Canser yr Ysgyfaint Genedlaethol fod o fudd mawr i boblogaeth Cymru, drwy nodi canserau’r ysgyfaint yn gynnar a thrwy hyrwyddo gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu mewn ffordd integredig. Yn ogystal â hyn, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sy’n rhaid ei gwblhau i sicrhau bod rhaglen sgrinio hygyrch a theg yn cael ei chyflwyno.
Mae’r naratif arloesi cymdeithasol hwn yn cyflwyno sut y cydweithiodd y Tîm Atal Trais a’r Uned Gwyddor Ymddygiad ar ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais (2023). Drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad—ac yn benodol y model COM-B—bu’r Tîm Atal Trais yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau i archwilio’r hyn sy’n cefnogi ac yn dylanwadu ar eu gallu i wreiddio naw egwyddor atal trais y fframwaith mewn ymarfer bob dydd.
Mae’r erthygl yn amlinellu mewnwelediadau allweddol i’r ymddygiadau, y rhwystrau a’r hwyluswyr a nodwyd gan ymarferwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at sut y gall deall galluogrwydd, cyfle a chymhelliant gryfhau mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd ar draws sectorau. Mae hefyd yn myfyrio ar sut y gwnaeth y broses hon helpu’r Tîm Atal Trais i egluro ei rôl yng nghyd-destun y dirwedd atal ehangach yng Nghymru, gan gefnogi cydlynu a defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol.
Mae’r naratif arloesi cymdeithasol hwn yn cyflwyno model ymchwil cydweithredol, sy’n ystyriol o drawma, wedi’i gynllunio i ymgysylltu â menywod sydd mewn perygl o gael cyswllt â’r system cyfiawnder troseddol yng ngogledd Cymru. Mae’r naratif yn manteisio ar ymchwil empirig a gynhaliwyd yn wreiddiol gan y Women’s Justice Blueprint a Hyb ACE Cymru, a archwiliodd iechyd corfforol a meddyliol menywod, eu camddefnydd o sylweddau, a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth geisio cymorth. Mae’r naratif hwn yn ail-lunio’r gwaith hwn drwy lens methodolegol, ac yn dangos sut y gwnaeth dulliau arloesol, amlasiantaethol alluogi dealltwriaeth a chyfranogiad dyfnach.
Drwy ddangos sut y gall seilweithiau ymchwil cydweithredol wella ansawdd y data, mynediad a llais, mae’r naratif hwn yn dangos sut y gall arloesedd methodolegol gefnogi ymatebion mwy effeithiol a chynhwysol tuag at iechyd a chyfiawnder ar gyfer menywod.
Mae’r erthygl hon yn archwilio sut y gellir cefnogi dynion yn effeithiol i ymyrryd fel gwyliedyddion rhag-gymdeithasol mewn digwyddiadau o aflonyddu rhywiol yn economi nos de Cymru. Gan ddefnyddio cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda dynion 18–54 oed, datblygodd yr ymchwil bum “persona” ymddygiadol sy’n cipio’r amrywiol safbwyntiau seicolegol sy’n dylanwadu ar benderfyniadau i gamu i mewn.
Drwy’r model COM-B, mae’r astudiaeth yn nodi rhwystrau cyffredin—yn enwedig gwybodaeth gyfyngedig am dechnegau diogel o ymyrryd ac ansicrwydd ynghylch goblygiadau cyfreithiol—yn ogystal â ffactorau cymhellol a chyd-destunol pwysig. Mae’r dull sy’n seiliedig ar bersonâu yn dangos na ellir trin dynion fel un gynulleidfa; yn lle hynny, mae angen strategaethau wedi’u teilwra i ddiwallu gwahanol anghenion cymorth.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) i gefnogi bioamrywiaeth dros y tair blynedd diwethaf. Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ‘geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau’ gan sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried mewn cynllunio busnes, polisïau, cynlluniau a phrosiectau.
Mae’n ofynnol i awdurdodau adrodd ar gynnydd bob tair blynedd. Mae ICC wedi cyhoeddi adroddiadau yn 2019 a 2022, ac mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed rhwng 2023 a 2025.
Mae’r pumed rhifyn o Newyddion Gwyddor Ymddygiad yn cynnwys cyngor, astudiaethau achos ac adnoddau ar ymwreiddio gallu gwyddor ymddygiad o fewn timau a sefydliadau.
Mae’r papur briffio hwn, a ddatblygwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (UGAEIC), yn trafod effeithiau posibl tariffau masnach ar iechyd, llesiant a thegwch ar boblogaeth Cymru. Mae wedi’i anelu at randdeiliaid yng Nghymru sy’n gweithio ym meysydd masnach, iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd i’w cefnogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl y gall tariffau masnach eu cael ar iechyd y boblogaeth.
Mae’n dechrau gyda chyflwyniad byr i gytundebau masnach, tariffau a rhwystrau masnach nad ydynt yn dariffau. Yna mae’n amlinellu’r cytundebau masnach diweddaraf y mae’r Deyrnas Unedig (DU) wedi ymrwymo iddynt cyn trafod sut y gall tariffau effeithio ar iechyd, llesiant a thegwch y boblogaeth yng Nghymru. Mae’n gorffen gyda rhai opsiynau ar sut y gellir ystyried iechyd a llesiant yn well mewn cytundebau masnach a nodi effeithiau tariffau. Yn olaf, mae’n cyflwyno dau enghraifft astudiaeth achos o sut y gall masnach effeithio ar bobl a’r economi yng Nghymru.
Mae’r cynllun hwn yn disgrifio map llwybr o gamau gweithredu pwysig a all sicrhau’r amodau i alluogi’r defnydd mwy arferol a systematig o wyddor ymddygiad mewn gwasanaethau, gwelliant ac arloesi, cyfathrebu, dulliau polisi a systemau sy’n anelu at wella iechyd a lles.
Mae’r cynllun, a ddatblygwyd gyda grŵp cynghori technegol a strategol, a mewnbwn gan ein Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru, yn defnyddio dulliau rhanbarthol a rhyngwladol o gymhwyso gwyddor ymddygiad ym maes iechyd a lles, ac yn disgrifio sut, drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad yn ein gwaith, y gallwn gael yr hyn yr ydym yn anelu ato’n amlach, a thrwy wneud hynny wireddu difidend ymddygiadol sy’n optimeiddio ein heffaith er gwell iechyd a thegwch.
Ffeithlun yn crynhoi Polisi Teithio Busnes newydd ar gyfer staff Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’n cynnwys prif bwyntiau’r polisi, Coeden Penderfyniadau Teithio symlach, gwybodaeth am allyriadau carbon trwy wahanol ddulliau trafnidiaeth ar gyfer taith enghreifftiol o Bontypridd i Gaerdydd, effeithiau gwahanol ddulliau trafnidiaeth ar iechyd, a’r costau cysylltiedig i’r GIG.
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol trefol a gwledig yng Nghymru i ystyried, cynnwys a hyrwyddo iechyd a lles drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) a’r system gynllunio. Mae’n rhoi tystiolaeth ac arweiniad ynghylch sut y gellir cyflawni hyn a pham mae’r cysylltiadau rhwng cynllunio ac iechyd mor bwysig. Gall y canllaw fod yn sail i bapur cefndir tystiolaeth ar gyfer CDLlau neu ganllawiau cynllunio atodol (CCA) ac mae’n cynnwys pum adran.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y gall gwahanol gydrannau gwasanaethau gofal brys helpu i leihau’r pwysau ar adrannau brys a chefnogi annibyniaeth cleifion. Gan alw ar yr ymchwil ddiweddaraf drwy adolygiad gwib systematig a mewnwelediadau rhyngwladol, mae’n tynnu sylw at arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn fyd-eang er mwyn llywio dyluniad gwasanaethau gofal brys yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn cynnwys ystod o elfennau gwasanaeth gofal brys, gan gynnwys:
• Strategaethau newid tasgau i optimeiddio capasiti ac effeithlonrwydd y gweithlu
• Gwell mynediad at wasanaethau diagnostig, fel radioleg
• Offer clyfar fel brysbennu digidol a systemau cynorthwyo penderfyniadau i staff
• Ehangu canolfannau gofal/triniaeth frys ar gyfer gofal amserol a phriodol
• Gofal brys rhithwir, gan gynnwys ymgynghoriadau ffôn a fideo am gyngor brys
Ynglŷn â’r adolygiad:
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall gwasanaethau gofal brys a ddylunnir yn dda ddarparu gofal mwy diogel, cyflym ac effeithiol. Er bod angen rhagor o ymchwil, mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at gyfle addawol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
Gwaith ar y cyd yw hwn rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth (Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol) a’r tîm Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol (Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant).
Mae’r cynllun hwn yn disgrifio map llwybr o gamau gweithredu pwysig a all sicrhau’r amodau i alluogi’r defnydd mwy arferol a systematig o wyddor ymddygiad mewn gwasanaethau, gwelliant ac arloesi, cyfathrebu, dulliau polisi a systemau sy’n anelu at wella iechyd a lles.
Mae’r cynllun, a ddatblygwyd gyda grŵp cynghori technegol a strategol, a mewnbwn gan ein Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru, yn defnyddio dulliau rhanbarthol a rhyngwladol o gymhwyso gwyddor ymddygiad ym maes iechyd a lles, ac yn disgrifio sut, drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad yn ein gwaith, y gallwn gael yr hyn yr ydym yn anelu ato’n amlach, a thrwy wneud hynny wireddu difidend ymddygiadol sy’n optimeiddio ein heffaith er gwell iechyd a thegwch.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’r dulliau a’r canfyddiadau allweddol o adolygiad o sut mae iechyd wedi’i gynnwys mewn astudiaethau achos Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru ac effeithiolrwydd Cynlluniau Datblygu Lleol wrth gefnogi cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant. Bwriad yr adroddiad yw llywio a chefnogi Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru.
Archwiliodd yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMC Public Health, rôl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (profiadau ACE) a thlodi plentyndod mewn iechyd a ffyniant yn ystod bywyd.
Defnyddiodd yr astudiaeth sampl o 5,330 o oedolion o bum awdurdod lleol yn Lloegr a chanfu fod gan brofiadau ACE gysylltiad sylweddol â thlodi plentyndod. Roedd profiadau ACE a thlodi plentyndod yn gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwaeth, gan gynnwys ar gyfer iechyd hunan-raddedig, cyflyrau iechyd cronig, llesiant meddyliol, cyflogaeth ac incwm.
Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu bod angen buddsoddi mewn ymyriadau a pholisïau i atal cylchoedd rhyng-genedlaethol o gam-drin a thlodi.
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Gweler y rhifyn diweddaraf yma.
Mae’r blog sbotolau hwn yn archwilio’r her hollbwysig o gynllunio ymyriadau iechyd. Mae’n cyflwyno cysyniadau gwyddor ymddygiad allweddol ac yn dangos sut mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn cefnogi pobl i’w rhoi ar waith. Mae hefyd yn cyfeirio at gyfres o adnoddau i gefnogi gweithredu iechyd y cyhoedd mwy teg.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf, mewnwelediadau ymddygiadol ac offer ymarferol i gefnogi cydweithwyr a gwasanaethau iechyd a gofal i baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.
Mae’r adroddiad sy’n dwyn y teitl, Llesiant yn ystod y Gaeaf: Camau Gweithredu ac Effaith a Rennir, wedi’i gynllunio i ategu fframweithiau cynllunio ar gyfer y gaeaf presennol y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi canllawiau ymarferol a rhestrau gwirio i helpu timau i gryfhau gwydnwch y system, cynnal iechyd y boblogaeth, a lleihau’r galw am wasanaethau.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith atal, yn cynnwys diogelu rhag feirysau’r gaeaf trwy gael eich brechu yn erbyn y ffliw, RSV a COVID-19, aros yn egnïol, bwyta prydau cynnes, cadw golwg ar ein cymdogion, a chymryd fitamin D bob dydd i aros yn iach yn ystod y misoedd oerach.