Mae Catherine yn Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn y Tîm Prosiectau Arbenigol lle mae’n sefydlu a reoli panel poblogaeth i gyfleu llais Cymru er mwyn llywio polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.
Yn fras, mae ymchwil Catherine yn ystyried sut i atal ac amddiffyn unigolion bregus a phoblogaethau cyfan rhag niwed, a chefnogi newid ymddygiad cadarnhaol i hybu a gwella iechyd a lles yn effeithiol ar draws cwrs bywyd, gan ystyried y maes polisi hefyd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig ym meysydd plant a phobl ifanc, lleoliadau ysgolion a gweithgarwch corfforol, ond mae hefyd wedi gweithio ar bynciau ar draws y sbectrwm iechyd gan gynnwys bwyta’n iach, defnydd o dechnoleg, gamblo, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, iechyd meddwl a lles, a chysylltiad â’r cyhoedd.
Cwblhaodd Catherine ei chwrs PhD mewn Seicoleg lle cyfrannodd at ddatblygu a gwerthuso ymyrraeth bwyta’n iach ac ymyrraeth gweithgarwch corfforol (Super Dynamic Food Dudes) ar gyfer plant cyn-ysgol. Law yn llaw â’i hyfforddiant ôl-raddedig, bu’n cydweithio â menter gymdeithasol er mwyn helpu i drosi ymyriadau ymchwil yn rhaglenni a gyflwynir drwy ymarfer.