Mae anafiadau a thrais yn broblem iechyd y cyhoedd fawr yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Trais yw un o brif achosion marwolaeth a chydag anafiadau, mae’n cyfrannu’n fawr at gostau gofal iechyd. Gall nodi baich a chostau anafiadau a thrais i’r system gofal iechyd fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer dangos ‘maint y broblem’ i lunwyr polisi ac o ran dylanwadu ar benderfyniadau. Nod y prosiect hwn oedd amcangyfrif costau anafiadau a thrais i’r systemau gofal iechyd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Yr amcanion oedd adolygu dulliau costio a ddefnyddir yn y llenyddiaeth bresennol, nodi data i alluogi amcangyfrifon cadarn o gostau anafiadau a thrais a datblygu fframwaith dadansoddol y gellir ei gymhwyso’n unffurf ar draws gwledydd Rhanbarth Ewropeaidd WHO.