Cyfres Dan Sbotolau: Sbotolau ar Ynys Môn a Sbotolau ar Home Start Cymru
Mae’r astudiaethau achos hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda sefydliadau a phobl ledled Cymru sy’n arwain mentrau ar lefel gymunedol sydd eisoes yn cyfrannu at y weledigaeth i Gymru ddod yn genedl sy’n ystyriol o drawma drwy weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar drawma. Pwrpas yr adroddiadau hyn yw taflu goleuni ar y dulliau presennol o weithredu, dathlu eu gwaith a pharhau i lywio a chefnogi’r gwaith o weithredu Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a datblygu ymhellach ein pecyn cymorth sefydliadol ar sail Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE).
Mae Sbotolau ar Ynys Môn yn archwilio taith Ynys Môn i ddod yn ynys sy’n ystyriol o drawma. Mae taith Ynys Môn i fod yn ynys sy’n ystyriol o drawma ar ddull sy’n seiliedig ar gryfderau sy’n creu amgylchedd seicogymdeithasol cadarnhaol a lefel uchel o wydnwch cymunedol.
Mae Sbotolau ar Home Start Cymru yn arddangos eu gwaith gwych gyda theuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, a sut y gall ymarfer sy’n ystyriol o drawma newid bywydau pobl trwy ymddiriedaeth a chefnogaeth ar y cyd. Mae eu hymagwedd sefydliadol sy’n ystyriol o drawma yn ddull systemau cyfan sy’n seiliedig ar gryfderau sydd hefyd yn cefnogi eu gweithlu a’u gwirfoddolwyr drwy gydnabod eu hiechyd meddwl a’u llesiant.