Cynllunio Lleoedd Iach: Canllaw i awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgorffori iechyd mewn polisi cynllunio lleol

Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol trefol a gwledig yng Nghymru i ystyried, cynnwys a hyrwyddo iechyd a lles drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) a’r system gynllunio. Mae’n rhoi tystiolaeth ac arweiniad ynghylch sut y gellir cyflawni hyn a pham mae’r cysylltiadau rhwng cynllunio ac iechyd mor bwysig. Gall y canllaw fod yn sail i bapur cefndir tystiolaeth ar gyfer CDLlau neu ganllawiau cynllunio atodol (CCA) ac mae’n cynnwys pum adran.

Awduron: Cheryl Williams, Sue Toner+ 1 mwy
, Liz Green

Cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant y cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’r dulliau a’r canfyddiadau allweddol o adolygiad o sut mae iechyd wedi’i gynnwys mewn astudiaethau achos Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru ac effeithiolrwydd Cynlluniau Datblygu Lleol wrth gefnogi cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant. Bwriad yr adroddiad yw llywio a chefnogi Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru.

Awduron: Neil Harris, Andrew Ivins+ 3 mwy
, Matthew Wargent, Liz Green, Cheryl Williams

Iechyd ym maes Cynllunio: Rôl Iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru

Mae’r system cynllunio yng Nghymru yn gweithredu ar dair lefel: cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn llywio’r defnydd o dir a datblygiadau ar lefel yr Awdurdod Lleol. Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), yn rhoi adolygiad cryno o’r modd y caiff iechyd ei gynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) ledled Cymru. Prif nod yr adroddiad hwn yw llywio dull UGAEIC o gefnogi llywodraethau lleol i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn CDLlau. Bydd y canfyddiadau hefyd yn ychwanegu gwerth ar gyfer rhanddeiliaid eraill sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant wrth iddo amlygu cyfleoedd ar gyfer cryfhau’r broses o gynnwys iechyd mewn cynlluniau lleol. Bu i’r broses o adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ddatgelu nifer o gyfleoedd i atgyfnerthu eu rôl o ran hyrwyddo iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r CDLlau yn mynd i’r afael yn anuniongyrchol â f factorau sy’n ymwneud ag iechyd trwy bolisïau cynllunio megis tai, trafnidiaeth a’r ansawdd amgylcheddol. Nifer bach o’r cynlluniau sy’n diffinio iechyd neu anghydraddoldebau iechyd yn benodol, ac nid oes yr un ohonynt yn cynnwys dangosyddion neu fesurau iechyd penodol. Er bod pob CDLl yn ymgorffori elfennau sy’n dylanwadu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis mynediad at wasanaethau ac ansawdd tai, mae’r cysylltiadau hyn â chanlyniadau iechyd ymhlyg yn aml, yn hytrach nag wedi’u nodi’n glir. Canfu ein dadansoddiad fod CDLlau eisoes yn cynnwys nifer o elfennau a all gefnogi iechyd a llesiant y boblogaeth. Trwy sicrhau bod y goblygiadau iechyd hyn yn benodol, diffinio cysyniadau iechyd allweddol yn glir, ac ymgorffori dangosyddion iechyd mesuradwy, gallai CDLlau ddatblygu eu potensial i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled cymunedau Cymru mewn modd mwy effeithiol.

Awduron: Fiona Haigh, Amber Murphy+ 3 mwy
, Jinhee Kim, Liz Green, Cheryl Williams

20 mlynedd o Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) a datblygiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yng Nghymru

Mae 20 mlynedd ers sefydlu UGAEIC yn nodi dau ddegawd o ddatblygu HIA fel arf hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn 2004. Mae UGAEIC wedi arwain y ffordd wrth alluogi integreiddio HIA i mewn i bolisi ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’r llinell amser yn amlygu cerrig milltir, dogfennau, a chyhoeddiadau allweddol yn hanes UGAEIC ac arfer HIA yng Nghymru. Gan edrych i’r dyfodol, bydd UGAEIC yn parhau i hyrwyddo HIA ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP), ac yn cefnogi cyrff cyhoeddus i roi rheoliadau HIA sydd ar y ffordd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ar waith.

Awduron: Michael Fletcher, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Laura Evans, Cheryl Williams, Abigail Malcolm (née Instone), Catrin Lyddon, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Liz Green

Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19

Mae’r pandemig wedi amlygu’n echblyg, ac mewn rhai enghreifftiau, wedi gwaethygu’r effeithiau o ran iechyd, lles ac anghydraddoldebau ar draws y boblogaeth sy’n deillio o benderfynyddion fel yr amgylchedd, y defnydd o dir, trafnidiaeth, yr economi a thai. Nod yr adroddiad hwn yw amlygu effeithiau iechyd cadarnhaol a negyddol polisïau cynllunio gofodol yn ystod y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru, dysgu o’r rhain, unrhyw ymyriadau cadarnhaol a chyd-fanteision er mwyn siapio amgylchedd mwy iach i bawb yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Sue Toner+ 7 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Tom Johnson, Gemma Christian, Cheryl Williams, Sumina Azam, Mark Bellis