Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy’n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt: Crynodeb o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid

Gall ein cartrefi lunio ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol yn sylweddol.
Mae’r papur hwn yn nodi’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud ochr yn ochr â rhanddeiliaid tai eraill i ddychmygu dyfodol o gartrefi iachach, yn enwedig i’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae’n crynhoi mewnwelediadau a gafwyd o sgyrsiau â rhanddeiliaid a gweithdy yn canolbwyntio ar y dyfodol, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024.
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar ddau adroddiad blaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – sef adroddiad cyffredinol, cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant, ac ail adroddiad ar fforddiadwyedd. Yma, rydym yn mynd gam ymhellach ac yn taflu goleuni ar ansawdd tai, fforddiadwyedd a diogelwch, a’r effaith y mae hyn yn ei chael yn benodol ar lesiant plant a theuluoedd.

Awduron: Joe Rees, Menna Thomas

Gadael neb ar ôl

Mae’r darn hwn o waith yn canolbwyntio ar effeithiau posibl tueddiadau’r dyfodol ar ein cysylltedd cymdeithasol a’n rhwydweithiau cymunedol (ein ‘cyfalaf cymdeithasol’) dros yr hanner can mlynedd nesaf. Ei nod yw archwilio rhai o’r ffactorau a all gefnogi a chryfhau cyfranogiad cymdeithasol a rhwydweithiau mewn cymunedau Cymreig, fel nodwedd ganolog o gymdeithas iach a llewyrchus, a’r rhai a all fod mewn perygl o ddieithrio, pegynu ac ynysu unigolion a grwpiau. Nid yw’r adroddiad hwn yn anelu at ragweld y dyfodol ond yn hytrach ysgogi pobl i feddwl am yr heriau, y cyfleoedd, a’r posibiliadau hirdymor y gall tueddiadau’r dyfodol eu cyflwyno.

Awduron: Menna Thomas, Sara Elias+ 3 mwy
, Petranka Malcheva, Louisa Petchey, Jo Peden

Meithrin perthnasoedd cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru: heriau a chyfleoedd

Mae cyfalaf cymdeithasol yn factor amddiffynnol i iechyd a lles, mae gwahaniaethau yn cyfrannu’n sylweddol at anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r papur yn darparu adolygiad cyflym o ddylanwad perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn ar iechyd a sut mae COVID-19 a’r heriau costau byw presennol yn effeithio arno. Mae’n tynnu sylw at bolisïau ac arferion sy’n cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn gyda’r bwriad o wella llesiant, dod dros heriau ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau hŷn y presennol a’r dyfodol.

Awduron: Menna Thomas, Louisa Petchey+ 2 mwy
, Sara Elias, Jo Peden