Gwyddor Ymddygiad Ar Waith: Uned Gwyddor Ymddygiad (BeSci) Iechyd Cyhoeddus Cymru – Cynnydd tuag at Effaith 2025–26

Mae’r adroddiad effaith hwn ar gyfer staff Iechyd Cyhoeddus Cymru, a rhanddeiliaid sy’n gweithio ar draws system iechyd y cyhoedd ehangach Cymru. Mae’n nodi’r ystod o waith y mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad wedi’i wneud yn ystod 2025-2026, gan ganolbwyntio ar gynnydd yr Uned yn erbyn y meysydd a amlinellir yng Nghynllun Galluogi Gwyddor Ymddygiad Cymru. Mae’n cydnabod y partneriaid sydd wedi gweithio gyda’r Uned, yn rhoi mewnwelediad i’r rhai sy’n ystyried cydweithio yn y dyfodol, ac yn myfyrio ar gyfraniad gweithgareddau ar y cyd tuag at gymhwyso gwyddor ymddygiad er gwell iechyd a thegwch.

Awduron: Jason Roberts, Jennifer Thomas+ 8 mwy
, Jonathan West, Ashley Gould, Nicky Knowles, Alice Cline, Melda Lois Griffiths, Paulina Kuczynska, Khudayja Datoo-Jaffer, James Smolinski
Journal of Community Safety and Wellbeing - Building a Wales without violence

Adeiladu Cymru Heb Drais Defnyddio Gwyddor Ymddygiad i Weithredu Dull Iechyd y Cyhoedd

Mae’r naratif arloesi cymdeithasol hwn yn cyflwyno sut y cydweithiodd y Tîm Atal Trais a’r Uned Gwyddor Ymddygiad ar ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais (2023). Drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad—ac yn benodol y model COM-B—bu’r Tîm Atal Trais yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau i archwilio’r hyn sy’n cefnogi ac yn dylanwadu ar eu gallu i wreiddio naw egwyddor atal trais y fframwaith mewn ymarfer bob dydd.

Mae’r erthygl yn amlinellu mewnwelediadau allweddol i’r ymddygiadau, y rhwystrau a’r hwyluswyr a nodwyd gan ymarferwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at sut y gall deall galluogrwydd, cyfle a chymhelliant gryfhau mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd ar draws sectorau. Mae hefyd yn myfyrio ar sut y gwnaeth y broses hon helpu’r Tîm Atal Trais i egluro ei rôl yng nghyd-destun y dirwedd atal ehangach yng Nghymru, gan gefnogi cydlynu a defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol.

Awduron: Bryony Parry, Lara Snowdon+ 5 mwy
, Emma Barton, Alex Walker, Joanne C. Hopkins, Alice Cline, Nicky Knowles

Nodi a Chymhwyso Technegau Newid Ymddygiad

Offeryn ymarferol, rhyngweithiol sy’n cyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, a ystyrir yn ‘gynhwysion gweithredol’ ymyriadau newid ymddygiad. Mae’r offeryn yn eich tywys trwy sut i nodi a chyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, gan ddefnyddio’r model COM-B a’r Olwyn Newid Ymddygiad.

Awduron: Alice Cline, Nicky Knowles+ 2 mwy
, Jonathan West, Ashley Gould

Gwerthuso Ymyraethau Newid Ymddygiad

Wedi’i ysgrifennu mewn cydweithrediad â’r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy’n nodi pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth i chi gynllunio sut i brofi a gwerthuso eich ymyriad newid ymddygiad.

Awduron: Alice Cline, Nicky Knowles+ 5 mwy
, Jonathan West, Lucia Homolova, Dr Charlotte Grey, Dr Esther Mugweni, Ashley Gould