Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru

Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.
Mae’r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy’n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy’n gysylltiedig â’r termau hynny. Mae’r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol.
Bydd y tîm yn datblygu’r platfform dros amser er mwyn ychwanegu cynnwys a nodweddion ychwanegol.

Awduron: Rebecca Hill, Jo Peden+ 12 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova, Daniela Stewart, James Allen, Liz Green, Rebecca Masters, Leah Silva, Sara Cooklin-Urbano, Golibe Ezenwugo, Abigail Malcolm (née Instone), Jason Roberts, Rajendra Kadel

Deall anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru gan ddefnyddio dull dadgyfansoddi Blinder-Oaxaca

Ar draws Cymru a’r byd, mae anghydraddoldeb iechyd yn parhau’n broblem sydd yn rhyng-gysylltiedig gyda deinameg cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a chymhleth. O ganlyniad, mae angen i weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn iechyd ddigwydd ar lefel strwythurol, gan gydnabod y cyfyngiadau sy’n effeithio ar allu a chyfle unigolyn (neu gymuned) i alluogi newid. Er bod ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd’ yn gysyniad sydd wedi ei sefydlu, mae deall cyfansoddiad y bwlch iechyd yn llawn yn dibynnu ar gipio cyfraniadau perthnasol myrdd o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn dadansoddiad meintiol. Ceisiodd y dadansoddiad dadgyfansoddi esbonio’r gwahaniaethau ym mynychder y canlyniadau hyn mewn grwpiau sydd wedi eu haenu yn ôl eu gallu i arbed o leiaf £10 y mis, a ydynt mewn amddifadedd materol, a phresenoldeb salwch, anabledd neu wendid hirsefydlog sy’n cyfyngu. Fe wnaeth y dadansoddiad nid yn unig feintioli’r bylchau iechyd arwyddocaol oedd yn bodoli yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig COVID-19, ond mae hefyd wedi dangos pa benderfynyddion iechyd oedd mwyaf dylanwadol. Mae deall y ffactorau sydd fwyaf cysylltiedig ag amrywiadau mewn iechyd yn allweddol i nodi ysgogwyr polisi i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant ar draws poblogaethau.

Awduron: James Allen, Andrew Cotter-Roberts+ 4 mwy
, Oliver Darlington, Mariana Dyakova, Rebecca Masters, Luke Munford

Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ar ymyriadau’n ymwneud ag iechyd meddwl – Adolygiad cwmpasu

Mae Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) yn ddull methodolegol sydd yn ymgorffori pob un o’r dair agwedd o werthuso ymyriadau. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion salwch ac anabledd yn fyd-eang. Nod yr astudiaeth hon yw mapio tystiolaeth bresennol o werth cymdeithasol ymyriadau iechyd meddwl sy’n defnyddio methodoleg SROI. Yr adolygiad cwmpasu hwn yw’r cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar SROI o ymyriadau iechyd meddwl, yn canfod nifer dda o astudiaethau SROI sydd yn dangos adenillion cadarnhaol o fuddsoddi gyda’r ymyriadau a nodir. Mae’r adolygiad hwn yn dangos y gallai SROI fod yn offeryn defnyddiol ac yn ffynhonnell tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi ac ariannu ar gyfer buddsoddi mewn iechyd a lles meddwl, am ei fod yn rhoi cyfrif am fuddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach ymyriadau iechyd y cyhoedd.

Awduron: Rajendra Kadel, Anna Stielke+ 3 mwy
, Kathryn Ashton, Rebecca Masters, Mariana Dyakova

Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau eang a hirdymor ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i gael effeithiau o’r fath.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ffyrdd y gall yr argyfwng costau byw effeithio ar iechyd a llesiant. Mae’n edrych ar y sefyllfa drwy lens iechyd cyhoeddus er mwyn nodi camau gweithredu ar gyfer llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddiogelu a hybu iechyd a llesiant pobl Cymru wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, gan amlinellu sut olwg fydd ar ddull iechyd cyhoeddus o ymdrin â’r argyfwng yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Awduron: Manon Roberts, Louisa Petchey+ 4 mwy
, Aimee Challenger, Sumina Azam, Rebecca Masters, Jo Peden

Cost anghydraddoldeb iechyd i’r GIG yng Nghymru

Mae anghydraddoldebau eang mewn iechyd a defnydd o wasanaethau gofal iechyd rhwng pobl sy’n byw mewn cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig yng Nghymru. Gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy gyfuniad o ymgyrchoedd hybu iechyd a pholisïau ymyrraeth gynnar wedi’u targedu at gymunedau difreintiedig arwain at welliant sylweddol mewn iechyd a lles, yn ogystal ag arbedion i GIG Cymru.

Awduron: Rajendra Kadel, James Allen+ 8 mwy
, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Brendan Collins, Joanna M. Charles, Miqdad Asaria, Mariana Dyakova, Mark Bellis, Richard Cookson

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu

Nod y papur trafod yw helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’n rhoi cipolwg ar yr anghydraddoldebau iechyd a brofwyd gan grwpiau gwahanol o’r boblogaeth yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig Coronafeirws (COVID-19), gan ddefnyddio methodoleg ystadegol arloesol, ‘Dadansoddi dadgyfansoddiad’.

Mae’r papur yn ceisio meintioli’r bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi dealltwriaeth well o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau ffyniannus i bawb, gan ddefnyddio fframwaith newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n defnyddio tri mesur iechyd hunangofnodedig: 1) mynychder iechyd gweddol/gwael; 2) mynychder lles meddwl isel; a 3) mynychder bodlonrwydd bywyd isel, gan gymharu’r rhain rhwng:
• Y rheiny sydd yn gallu gwneud arbediad o £10/mis o leiaf a’r rheiny nad ydynt yn gallu gwneud hynny;
• Y rheiny sydd yn nodi amddifadedd materol a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny; a
• Y rheiny sydd yn nodi salwch, anabledd neu eiddilwch cyfyngus hirdymor a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny.

Mae’r dadansoddiad wedi creu mewnwelediad i ysgogwyr annhegwch iechyd, gan nodi’r rheiny sy’n cyfrannu fwyaf, sef ‘Cyfalaf Cymdeithasol a Dynol’ a ‘Diogelwch Incwm ac Amddiffyniad Cymdeithasol’; tra bod ‘Gwasanaethau Iechyd’ wedi rhoi cyfrif am y lleiaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau systematig yn gallu esbonio llai na hanner (<50%) y bylchau iechyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd, yn seiliedig ar y modelau ystadegol.

Mae’r papur yn amlygu’r angen am fasged o benderfyniadau polisi a buddsoddi, gan flaenoriaethu prif ysgogwyr annhegwch iechyd, mewn cytundeb ar draws sectorau. Mae archwilio ac ymgysylltu pellach gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, grwpiau a chymunedau perthnasol yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r bwlch tegwch iechyd a’i ysgogwyr.

Mae’n gobeithio llywio’r rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol canlynol:
• Gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol
• Gwneuthurwyr polisïau a deiliaid cyllidebau ar lefelau cenedlaethol a lleol
• Ystadegwyr, gwyddonwyr iechyd a dadansoddwyr data
• Pawb sydd â rôl yn dylanwadu ar y bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt

Awduron: James Allen, Mariana Dyakova+ 4 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Mark Bellis

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i GIG Cymru. Adroddiad 1: Cost sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb wrth ddefnyddio gwasanaeth ysbyty

Nod yr adroddiad hwn yw amcangyfrif y gost ariannol sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn y defnydd o wasanaethau ysbyty i’r GIG yng Nghymru er mwyn helpu i lywio penderfyniadau a blaenoriaethu adnoddau tuag at atal ac ymyrryd yn gynnar drwy lens tegwch, gan gyfrannu at adferiad COVID-19 cynaliadwy a chynhwysol.
Mae dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyd-fynd â’r adroddiad, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio’n fanwl y costau sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn ôl categori gwasanaeth, rhyw, oedran a lefel amddifadedd.
Noder, mae’r dangosfwrdd wedi’i optimeiddio i’w ddefnyddio ar ddyfeisiau bwrdd gwaith.

Awduron: Rajendra Kadel, Oliver Darlington+ 5 mwy
, James Allen, Benjamin Bainham, Rebecca Masters, Mariana Dyakova, Mark Bellis