Asesu goblygiadau cytundebau masnach rydd ar iechyd y cyhoedd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Yn 2016, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi creu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach yn negodi ei chytundebau masnach ei hun, ac ym mis Mawrth 2023, cytunodd i ymuno â Chytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn 2022–23 i ragweld effaith bosibl Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd a llesiant Poblogaeth Cymru. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac yn amlygu gwerth y dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid a hysbysu llunwyr polisi. Roedd yr HIA hwn yn dilyn dull pum cam safonol a oedd yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth i nodi effeithiau posibl ar iechyd, cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid traws-sector a datblygu proffil iechyd cymunedol. Nododd yr HIA effeithiau posibl ar draws penderfynyddion ehangach iechyd a grwpiau poblogaeth agored i niwed penodol. Nodwyd mecanweithiau setlo anghydfod gwladwriaethau buddsoddwyr, ansicrwydd economaidd a cholli gofod polisi rheoleiddio fel llwybrau allweddol ar gyfer effeithiau iechyd. Mae’r canfyddiadau wedi bod yn fuddiol wrth hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i baratoi ar gyfer y CPTPP yng Nghymru gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r gwaith hwn wedi dangos gwerth dull HIA sy’n defnyddio proses dryloyw i gasglu ystod eang o dystiolaeth, gan arwain at ddysgu trosglwyddadwy.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 6 mwy
, Leah Silva, Courtney McNamara, Michael Fletcher, Louisa Petchey, Timo Clemens, Margaret Douglas

Y tu hwnt i’r presennol: Sut i gymhwyso meddwl yn hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd

Nod yr adnodd hwn yw ein hysbrydoli ni i gyd i leihau anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru a thu hwnt ym mhopeth a wnawn, trwy archwilio dulliau i alluogi meddwl hirdymor a rhannu astudiaethau achos sy’n dangos sut mae’r dulliau hynny wedi’u cymhwyso yng Nghymru. Mae’n arwain defnyddwyr trwy nodi tueddiadau perthnasol, cynhyrchu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a gosod cwrs ar gyfer dyfodol dymunol. Ymhlith y dulliau a drafodwyd mae sganio gorwelion, triongl y dyfodol, echelinau ansicrwydd, a chynllunio senarios, ymhlith eraill.

Awduron: Petranka Malcheva, Louisa Petchey+ 1 mwy
, Sara Elias

Cartrefi fforddiadwy ar gyfer iechyd a llesiant

Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant.

Mae’r papur briffio hwn yn dilyn ein papur briffio cryno ‘Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant’ ar ddyfodol cartrefi iach yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cartrefi fforddiadwy i iechyd a llesiant.

Drwy amlygu’r cysylltiadau rhwng pa mor fforddiadwy yw tai ac iechyd, a thrwy rannu enghreifftiau o’r hyn y mae ‘da’ yn ei olygu, rydym yn gobeithio y bydd y papur briffio hwn yn helpu rhanddeiliaid yn y system dai i wneud cynnydd tuag at ddyfodol lle mae tai fforddiadwy yn helpu i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pawb yng Nghymru.

Awduron: Manon Roberts, Louisa Petchey

Sut y gallai cytundebau masnach rhyngwladol helpu neu lesteirio llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru?

Nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn negodi cytundebau masnach ryngwladol ar ran gweddill y DU am y tro cyntaf ers bron i hanner degawd. Mae gan gytundebau masnach ryngwladol y potensial i gael effaith gadarnhaol a negyddol ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru.

Yma rydym yn darparu methodoleg weledol ar gyfer archwilio’r ffyrdd y gallai cytundebau masnach rhyngwladol penodol gael yr effaith hon drwy lens y nodau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn yr adroddiad ffeithlun hwn, rydym yn crynhoi effeithiau posibl y DU yn ymuno â Chytundeb Masnach Rydd y Bartneriaeth Traws-Môr Tawel Gynhwysfawr a Chynyddol (CPTPP).

Awduron: Leah Silva, Louisa Petchey

Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor hwy yn dilyn derbyniad y DU i’r CPTPP.

Awduron: Liz Green, Leah Silva+ 6 mwy
, Michael Fletcher, Louisa Petchey, Laura Morgan, Margaret Douglas, Sumina Azam, Courtney McNamara

A yw Brexit wedi newid darganfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru?

Mae’r papur briffio hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y cymerodd y DU a Chymru ran ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Yna bydd yn archwilio sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a pha effaith bosibl y gallant ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.

Awduron: Katie Cresswell, Louisa Petchey+ 1 mwy
, Leah Silva

Meithrin perthnasoedd cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru: heriau a chyfleoedd

Mae cyfalaf cymdeithasol yn factor amddiffynnol i iechyd a lles, mae gwahaniaethau yn cyfrannu’n sylweddol at anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r papur yn darparu adolygiad cyflym o ddylanwad perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn ar iechyd a sut mae COVID-19 a’r heriau costau byw presennol yn effeithio arno. Mae’n tynnu sylw at bolisïau ac arferion sy’n cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn gyda’r bwriad o wella llesiant, dod dros heriau ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau hŷn y presennol a’r dyfodol.

Awduron: Menna Thomas, Louisa Petchey+ 2 mwy
, Sara Elias, Jo Peden

Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau eang a hirdymor ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i gael effeithiau o’r fath.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ffyrdd y gall yr argyfwng costau byw effeithio ar iechyd a llesiant. Mae’n edrych ar y sefyllfa drwy lens iechyd cyhoeddus er mwyn nodi camau gweithredu ar gyfer llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddiogelu a hybu iechyd a llesiant pobl Cymru wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, gan amlinellu sut olwg fydd ar ddull iechyd cyhoeddus o ymdrin â’r argyfwng yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Awduron: Manon Roberts, Louisa Petchey+ 4 mwy
, Aimee Challenger, Sumina Azam, Rebecca Masters, Jo Peden

A yw Brexit wedi newid sut mae Cymru’n cymryd rhan mewn atal, parodrwydd ac ymateb byd-eang o ran clefydau heintus?

Mae pandemig COVID-19 wedi gwthio clefydau heintus i frig agendâu llywodraethau ledled y byd. Ar yr un pryd, mae Brexit wedi dylanwadu ar sut mae’r Deyrnas Unedig a Chymru’n cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.
Mae llinellau amser ar gyfer Brexit a phandemig COVID-19 wedi gorgyffwrdd, roedd trefniadau ar gyfer y cyfnod wedi Brexit yn dal i gael eu datblygu. Yr argyfwng iechyd y cyhoedd rhyngwladol nesaf fydd yn profi’r systemau newydd yng Nghymru/y DU.
Dangoswyd bod gan Brexit y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru felly dylid eu ystyried yng nghyd-destun atal a pharodrwydd ar gyfer ymatebion i glefydau heintus.
Mae’r briff yn archwilio effaith ymadawiad y DU o’r UE ar pherthynas a’i phrosesau rhyngwladol ar gyfer ymdrin â clefydau heintus yn y dyfodol.

Awduron: Katie Cresswell, Louisa Petchey

Beth allai cytundebau masnach ar ôl Brexit ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Mae’r briff hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a swyddogion sy’n gweithio ar bolisi iechyd y cyhoedd sydd â diddordeb mewn sut y gall Brexit a hytundebau masnach effeithio ar eu gwaith, ac i swyddogion y DU a Chymru sy’n gweithio ym maes polisi masnach godi ymwybyddiaeth o berthnasedd masnach i iechyd a llesiant pobl Cymru.

Awduron: Louisa Petchey, Katie Cresswell

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Mae’r HIA yn amlinellu effeithiau posibl y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (a elwir yn gyffredin yn ‘Gyfnod Clo’) ar iechyd a lles poblogaeth Cymru yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae’n defnyddio’r hyn a ddysgwyd o dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf a barn rhanddeiliaid arbenigol

Awduron: Liz Green, Laura Morgan+ 5 mwy
, Sumina Azam, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Louisa Petchey, Mark Bellis

Pecyn Cymorth Tri Gorwel

Gall pecyn cymorth Gorwelion helpu cyrff cyhoeddus a phobl yn gyffredinol i feddwl a chynllunio ar gyfer y tymor hwy yn hytrach na bod mewn rhigol yn y presennol fel eu bod yn colli’r cyfleoedd, ddim yn gweld risg neu’n gwneud penderfyniadau nad ydynt yn sefyll dros amser.

Awduron: Louisa Petchey

Pobl Ifanc a Brexit

Yn y blynyddoedd sydd wedi dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2016, anaml y mae Brexit wedi bod allan o’r newyddion. Er gwaethaf cryn weithgarwch, roedd ansicrwydd o hyd ynghylch Brexit ar adeg y gwaith ymchwil hwn; nid yn unig o ran ei logisteg, os, pryd a sut byddai’r DU yn gadael yr UE ond hefyd beth allai goblygiadau Brexit fod i’r DU ac i Gymru – neu hyd yn oed pa effaith y gallai’r blynyddoedd diwethaf fod wedi ei gael yn barod.

Awduron: Louisa Petchey, Angharad Davies+ 3 mwy
, Samuel Urbano, Sumina Azam, Alisha Davies

Goblygiadau Brexit yng Nghymru i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd – Adolygiad Cyflym a Diweddariad

Mae hwn yn adroddiad ategol byr ac mae’n adeiladu ar ddadansoddiad manwl o Oblygiadau Brexit yng Nghymru i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2019, sy’n archwilio effeithiau posibl Brexit ar iechyd a lles tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru.

Awduron: Louisa Petchey, Liz Green+ 5 mwy
, Nerys Edmonds, Mischa Van Eimeren, Laura Morgan, Sumina Azam, Mark Bellis