Ymunodd Louisa ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2018. Yn ei rôl bresennol mae Louisa yn rheoli’r tîm Polisi, sy’n hyrwyddo dull iechyd ym mhob polisi er mwyn gwella iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys cefnogi gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae Louisa’n goruchwylio partneriaeth gydweithredol gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar wreiddio’r ffordd hirdymor o weithio a nodir yn y Ddeddf yn y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn meddwl a chynllunio. Cyn y penodiad hwn, dylanwadodd Louisa ar bolisi ac ymarfer ers dros bum mlynedd ar ran elusennau iechyd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae ganddi radd mewn Bioleg Celloedd Moleciwlaidd o Brifysgol Efrog a PhD mewn Geneteg Ddatblygiadol o Goleg Prifysgol Llundain hefyd.