« Cyfeiriadur staff

Gan adrodd i Gyfarwyddwr Rhaglen yr Uned, mae Jon yn rheoli’r tîm sy’n gyfrifol am y rhwydwaith academaidd, gan ddatblygu, gweithredu a chysylltu gwyddor, arbenigedd ac adnoddau ym maes ymddygiad lle gellir eu defnyddio i wella effaith gwasanaethau, polisïau neu ymyriadau sy’n gofyn am newid ymddygiad i gyflawni eu canlyniadau. Mae’n falch o fod yn Aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd trwy Ragoriaeth ac mae wedi bod yn gweithio mewn rolau iechyd y cyhoedd craidd yng Nghymru a Lloegr, ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol am y 25 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi gweithio ar nifer fawr o brosiectau newid ymddygiad poblogaeth a oedd yn cynnwys casglu mewnwelediadau, datblygu ymyriadau a’u gweithredu a’u gwerthuso. Mae’n hoffi cael hwyl gyda’i deulu ac mae Jon wrth ei fodd â rygbi Cymru. Chwaraeodd yn y cynghreiriau isaf ymhell ar ôl y cyfnod lle mae disgwyl i chi rhoi’r ffidl yn y to ac mae’n mwynhau’r ‘ochr gymdeithasol’ a’r cyfeillgarwch sy’n mynd law yn llaw â hynny.