Ymunodd Sara ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2017 ac mae’n gysylltiedig ag ymchwil ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ymysg plant sydd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd, a datblygiad ac effaith tyrbinau gwynt cymunedol. Yn flaenorol mae Sara wedi bod yn gysylltiedig ag ymchwil ar atal trais, yn arbennig yn ymwneud â cham-drin plant ac atal trais mewn ysgolion. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd Sara’n gweithio fel ymchwilydd iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.