Newid Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Barn y cyhoedd – Dadansoddiad demograffig o ddata

Mae’r adroddiad byr hwn yn cyflwyno dadansoddiad demograffig o ddata o arolwg cyhoeddus cenedlaethol ar ganfyddiadau o newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a gynhaliwyd yn 2021/22. Archwiliodd yr arolwg farn y boblogaeth am newid yn yr hinsawdd, ei berthynas ag iechyd, eu hymddygiad presennol sy’n helpu’r hinsawdd, eu parodrwydd i gymryd rhan mewn camau gweithredu, a safbwyntiau ar atebion polisi. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno data o gwestiynau allweddol yr arolwg wedi’u dadansoddi yn ôl grŵp oedran, rhywedd, cwintel amddifadedd, lleoliad (gwledig neu drefol) a chymhwyster uchaf. Gallai canfyddiadau helpu i deilwra ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a llywio’r gwaith o dargedu negeseuon allweddol a chamau gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Awduron: Natasha Judd, Sara Wood+ 1 mwy
, Karen Hughes

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma: Adnodd i weithwyr proffesiynol a sefydliadau

Gall hyn osod baich sylweddol ar gymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus. Nod yr adnodd newydd hwn yw cefnogi camau gweithredu ar ACEs drwy roi cyngor ymarferol ar atal ACEs, meithrin gwytnwch a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal ACEs a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.

Awduron: Sara Wood, Hayley Janssen+ 3 mwy
, Karen Hughes, Jonathon Passmore, Mark Bellis

Nodi tystiolaeth i gefnogi camau gweithredu i leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn iechyd: Adolygiad cwmpasu a mapio systematig

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r dystiolaeth lefel adolygiad sydd ar gael i arwain camau gweithredu ar leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn iechyd. Ceisiwyd tystiolaeth ar gyfer ymyriadau, rhaglenni a pholisïau iechyd y cyhoedd sy’n berthnasol i boblogaethau, grwpiau ac ardaloedd neu awdurdodaethau eraill a ddiffinnir yn ddaearyddol i archwilio a ydynt yn gwella canlyniadau iechyd pobl sy’n profi anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn ffafriol.

Awduron: Lisa Jones, Mark Bellis+ 3 mwy
, Rebecca Hill, Karen Hughes, Sara Wood

Mynd i’r Afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), y Sefyllfa Bresennol ac Opsiynau ar gyfer Gweithredu

Mae’r adroddiad newydd hwn yn dwyn ynghyd yr hyn sy’n hysbys am brofiadau ACE ledled Ewrop ac yn rhyngwladol, gan ddangos yr effaith wenwynig barhaus y gall y rhain ei chael drwy gydol oes unigolyn a sut y gellir atal y profiadau hyn a’u deilliannau. Mae’r adroddiad yn cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal profiadau ACE a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.

Awduron: Sara Wood, Mark Bellis+ 3 mwy
, Karen Hughes, Zara Quigg, Nadia Butler

Newid Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Barn y Cyhoedd

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol arolwg o oedolion sy’n byw yng Nghymru ynghylch eu canfyddiadau o ran newid hinsawdd ac iechyd. Er bod gwaith i ddeall a lliniaru newid hinsawdd yn magu momentwm yng Nghymru, prin yw’r wybodaeth o hyd am farn ac ymddygiad y boblogaeth. Mae data o’r fath yn hanfodol ar gyfer cyd-greu dulliau effeithiol a derbyniol o ymdrin â newid hinsawdd sy’n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd; targedu negeseuon a gwybodaeth allweddol; a sefydlu datrysiadau hirdymor ar draws Cymru a fydd yn parhau i gael eu cefnogi ar draws sawl cenhedlaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwn, datblygwyd arolwg cyhoeddus i geisio barn y boblogaeth am newid hinsawdd, ei berthynas ag iechyd, eu hymddygiad presennol sy’n ystyriol o’r hinsawdd, eu parodrwydd i gymryd rhan mewn camau gweithredu, a barn am ddatrysiadau polisi. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol yr arolwg, gan roi barn y boblogaeth ar newid hinsawdd ymhlith trigolion Cymru sy’n oedolion.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 3 mwy
, Rebecca Hill, Natasha Judd, Mark Bellis

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a’u perthynas â chanlyniadau iechyd rhywiol gwael: canlyniadau o bedwar arolwg trawstoriadol

Mae gwella dealltwriaeth o ffactorau risg ar gyfer ymddygiad rhywiol peryglus yn hanfodol i sicrhau gwell iechyd rhywiol ar gyfer y boblogaeth. Archwiliodd yr astudiaeth hon gysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a chanlyniadau iechyd rhywiol gwael yn y DU. Mae’r canfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen am ymyriadau effeithiol i atal a gwella effeithiau gydol oes ACEs. Gallai perthnasoedd wedi’u llywio gan drawma ac addysg rhyw, gwasanaethau iechyd rhywiol, a gwasanaethau cyn-enedigol ac ôl-enedigol, yn enwedig ar gyfer y glasoed a rhieni ifanc, roi cyfleoedd i atal ACEs a chefnogi’r rhai yr effeithir arnynt.

Awduron: Sara Wood, Kat Ford+ 4 mwy
, Hannah Madden, Catherine Sharp, Karen Hughes, Mark Bellis

Cysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, agweddau tuag at gyfyngiadau COVID-19 a phetruster o ran y brechlyn: astudiaeth drawsdoriadol

Dangoswyd bod trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â llesiant meddyliol gwaeth, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu y gall arwain at lai o ymddiriedaeth yng ngwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Nododd ymchwil a gynhaliwyd gydag oedolion yng Nghymru fod petruster brechu deirgwaith yn uwch ymhlith pobl a oedd wedi profi pedwar neu ragor o fathau o drawma yn ystod plentyndod nag ydoedd ymhlith y rhai nad oedd wedi profi unrhyw fath o drawma yn ystod plentyndod.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 mwy
, Kat Ford, Hannah Madden, Freya Glendinning, Sara Wood

Effaith ffactorau risg ymddygiadol ar glefydau trosglwyddadwy: adolygiad systematig o adolygiadau

Nod yr adolygiad hwn oedd cyfosod ymchwil sy’n archwilio effaith ffactorau risg ymddygiadol sy’n aml yn gysylltiedig â chlefydau nad ydynt yn heintus ochr yn ochr â’r risgiau o gael, neu o gael canlyniadau mwy difrifol, yn sgil clefydau heintus.

Awduron: Sara Wood, Sophie Harrison+ 4 mwy
, Natasha Judd, Mark Bellis, Karen Hughes, Andrew Jones

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 64

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 2 mwy
, Sara Wood, Mark Bellis

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 62

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Sara Wood+ 1 mwy
, Mark Bellis

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 48

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Sara Wood+ 1 mwy
, Mark Bellis

Asesiad cyflym o ailagor bywyd nos gan gyfyngu COVID-19 ac atal trais

Er mwyn cefnogi gwaith asiantaethau partner i ailagor bywyd nos yn ddiogel yn dilyn y cyfnod clo COVID-19 cyntaf, cynhaliodd Uned Atal Trais Cymru ymchwil cyflym i asesu’r dystiolaeth a’r arfer gorau byd-eang oedd yn dod i’r amlwg ar gyfer ailagor bywyd nos tra’n rheoli COVID-19 ac atal trais. Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau allweddol o sut mae bywyd nos wedi ailagor ledled y byd, sut y gall mesurau i leihau risgiau COVID-19 effeithio ar risgiau trais, ac yn darparu ystyriaethau allweddol ar gyfer agor bywyd nos yng Nghymru.

Awduron: Hayley Janssen, Katie Cresswell+ 7 mwy
, Natasha Judd, Karen Hughes, Lara Snowdon, Emma Barton, Daniel Jones, Sara Wood, Mark Bellis

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn poblogaethau plant sydd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches 

Nod yr adroddiad hwn yw dwyn ynghyd yr hyn a wyddom am ACE mewn plant sydd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches sydd yn cyrraedd ac yn ymgartrefu mewn gwledydd lletyol, gan amlygu eu natur, eu graddfa a’u heffaith.

Awduron: Sara Wood, Kat Ford+ 4 mwy
, Katie Hardcastle, Jo Hopkins, Karen Hughes, Mark Bellis

Gwella iechyd a lles y gaeaf a lleihau pwysau’r gaeaf yng Nghymru – Adroddiad Technegol

Mae’r adroddiad technegol hwn yn cydnabod effeithiau ffactorau tymhorol traddodiadol sy’n achosi iechyd gwael fel y ffliw ac anafiadau oherwydd cwympiadau, yn ogystal â dod o hyd i faterion ehangach fel tlodi, tai gwael ac ymddygiadau afiach sy’n cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y gaeaf.

Awduron: Sumina Azam, Thomas Jones+ 4 mwy
, Sara Wood, Emily Bebbington, Louise Woodfine, Mark Bellis

Cysylltiadau rhwng marwolaethau plentyndod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Archwiliad o ddata gan banel trosolwg marwolaethau plant.

Astudiaeth i archwilio a ellid defnyddio data a gesglir yn arferol gan baneli trosolwg marwolaethau plant (CDOPs) i fesur amlygiad i ACE ac archwilio unrhyw gysylltiadau rhwng ACEs a chategorïau marwolaethau plant. Astudiwyd data yn cwmpasu pedair blynedd (2012-2016) o achosion o CDOP yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Awduron: Hannah Grey, Kat Ford+ 3 mwy
, Mark Bellis, Helen Lowey, Sara Wood

Gamblo fel mater iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Mae gamblo’n cael ei gydnabod fwyfwy fel blaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd twf cyflym yn argaeledd a hysbysebu gamblo, wedi ei ysgogi gan ffactorau yn cynnwys rheoliadau gamblo llac a datblygiad technolegol.

Awduron: Robert D. Rogers, Heather Wardle+ 6 mwy
, Catherine Sharp, Sara Wood, Karen Hughes, Timothy J. Davies, Simon Dymond, Mark Bellis

Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol

Mae’r adnodd hwn: Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol, yn ymwneud ag ysgolion, addysg ac atal trais. Mae’n rhoi canllawiau i swyddogion ysgolion ac awdurdodau addysg ar sut y gall ysgolion ymgorffori atal trais yn eu gweithgareddau arferol ac ar draws y mannau rhyngweithio y mae ysgolion yn eu darparu gyda phlant, rhieni ac aelodau eraill o’r gymuned. Os caiff ei weithredu, bydd y llawlyfr yn cyfrannu llawer at helpu i gyflawni’r Grwpiau Datblygu Cynaliadwy a nodau iechyd a datblygu byd-eang eraill.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 1 mwy
, Mark Bellis

A yw yfed alcohol ymysg oedolion yn cyfuno â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gynyddu ymwneud â thrais ymysg dynion a menywod? Astudiaeth drawsdoriadol yng Nghymru a Lloegr.

Astudiaeth i archwilio a yw hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cyfuno ag yfed alcohol ymysg oedolion i ragfynegi cyflawni trais ac erledigaeth yn ddiweddar, ac i ba raddau.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 5 mwy
, Kat Ford, Sara Edwards, Olivia Sharples, Katie Hardcastle, Sara Wood

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a ffynonellau gwydnwch plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol o’u cydberthnasau ag iechyd plant a phresenoldeb addysgol

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), gan gynnwys cam-drin ac amlygiad i straenachosyddion yn y cartref, effeithio ar iechyd plant. Gall ffactorau cymunedol sy’n darparu cymorth, cyfeillgarwch a chyfleoedd ar gyfer datblygiad feithrin gwydnwch plant a’u hamddiffyn rhag rhai o effeithiau niweidiol ACEs. Mae’r papur hwn yn archwilio a yw hanes o ACEs yn gysylltiedig ag iechyd a phresenoldeb yn yr ysgol gwael yn ystod plentyndod ac i ba raddau y mae asedau cadernid cymunedol yn gwrthweithio canlyniadau o’r fath.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 6 mwy
, Kat Ford, Katie Hardcastle, Catherine Sharp, Sara Wood, Lucia Homolova, Alisha Davies