Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
20 mlynedd o Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) a datblygiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yng Nghymru Michael Fletcher, Kathryn Ashton, Laura Evans, Cheryl Williams, Abigail Malcolm, Catrin Lyddon, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Liz Green Mae 20 mlynedd ers sefydlu UGAEIC yn nodi dau ddegawd o ddatblygu HIA fel arf hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn 2004. Mae UGAEIC wedi arwain y ffordd wrth alluogi integreiddio HIA i mewn i bolisi ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r llinell amser yn amlygu cerrig milltir, dogfennau, a chyhoeddiadau allweddol yn hanes UGAEIC ac arfer HIA yng Nghymru. Gan edrych i’r dyfodol, bydd UGAEIC yn parhau i hyrwyddo HIA ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP), ac yn cefnogi cyrff cyhoeddus i roi rheoliadau HIA sydd ar y ffordd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ar waith. Gweld yr adnodd
Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol: Pecyn cymorth ar gyfer llesiant (ar gael yn Saesneg yn unig) Anthea Cooke, Inukshuk Consultancy Lynne Friedli, Arbenigwr Hybu Iechyd Meddwl Tony Coggins, Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley Nerys Edmonds, Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley Juliet Michaelson, Sylfaen economeg n Mae'r pecyn cymorth MWIA hwn ar gyfer llesiant yn darparu fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella llesiant drwy brosesau comisiynu, cynllunio a darparu prosiectau a gwasanaethau, ymgysylltu â'r gymuned ac asesu effaith. Mae'n galluogi pobl a sefydliadau i asesu a gwella polisi, rhaglen, gwasanaeth neu brosiect i sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf teg ar lesiant meddyliol pobl, ac i nodi ffyrdd o fesur yr effeithiau hynny. Gweld yr adnodd
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn: • Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau. • Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau. • Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa. • Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol. Gweld yr adnodd
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau eraill, gall helpu i wella eich dealltwriaeth o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd. Gweld tudalen we
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer Liz Green, Lee Parry-Williams, Edwin Huckle Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader cyn agor yr adnodd hwn er mwyn cael elwa ar ei swyddogaethau’n llawn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, teg a chydlynus. Gweld yr adnodd
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Enghraifft o agenda gweithdy cyfranogol Dyma enghraifft o agenda i’w defnyddio wrth gynnal gweithdy cyfranogol ar gam Sgrinio neu ar gam Arfarnu’r HIA Gweld yr adnodd
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant Mae’r Canllaw Gwirfoddol yn disodli'r ddogfen flaenorol, sef: Asesu’r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol, a gynhyrchwyd gan WHIASU yn 2012, ac mae’n amlinellu camau arferion gorau ar gyfer cynnal HIAs gwirfoddol. Gweld yr adnodd
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Taflen Cofnodi Sgrinio Gellir defnyddio’r daflen cofnodi sgrinio ar Gam Sgrinio’r broses HIA i helpu i arwain a chofnodi’r trafodaethau. Dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant. Gweld yr adnodd
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Templed Cofnodi’r Gweithdy Cyfranogol Gellir defnyddio’r templed hwn ar y Cam Arfarnu Tystiolaeth o’r broses HIA i helpu i gofnodi trafodaethau yn ystod gweithdy cyfranogol. Dylid defnyddio hwn ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant. Gweld yr adnodd
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Templed cwmpasu Dylid defnyddio’r adnodd hwn yn ystod cam Cwmpasu’r broses HIA. Darperir nodiadau canllaw ar ddiwedd yr adnodd hwn i gefnogi’r gwaith o gwblhau’r cam hwn. Yn ddelfrydol, dylai mwy nag un unigolyn gwblhau’r cam cwmpasu. Gweld yr adnodd
Atodiad Dau – Nodiadau Esboniadol Green L, Parry Williams L, Edmonds N Atodiad Dau - Nodiadau esboniadol ar gyfer maen prawf penodol yn unig. Gweld yr adnodd
Atodiad Un – Matrics Adolygu Green L, Parry Williams L, Edmonds N Atodiad Un – Matrics Adolygu Gweld yr adnodd
Cyflwyniad Gweithdy Enghreifftiol Uned Cymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) Yn ymwneud â chanllawiau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (Saesneg yn unig) Gweld yr adnodd
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: Astudiaethau Achos Tom Johnson, Liz Green Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. Gweld yr adnodd
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: Templed Canllaw Cynllunio Atodol Tom Johnson, Liz Green Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. Gweld yr adnodd
Cynllunio ar gyfer iechyd a lles gwell yng Nghymru TCPA, WHIASU a Iechyd Cyhoeddus Cymru Cafodd y Briff hwn ei ysgogi gan y ddyletswydd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyfrannu at gyflawni nodau lles cenedlaethol, a thrwy gryfhau’r system gynllunio sy’n cael ei harwain gan gynlluniau, eto gyda gofyniad i gyfrannu at nodau lles, a sefydlwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r newidiadau deddfwriaethol hyn yn gyfle amserol i ddatblygu arweiniad ymarferol ar gyfer ymarferwyr cynllunio ac iechyd y cyhoedd a gwneuthurwyr polisïau, i’w helpu i ystyried iechyd a lles wrth lunio cynlluniau lles lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Gweld yr adnodd
Dan Sylw – Iechyd, Llesiant a Thegwch gan Ddefnyddio Asesu’r Effaith ar Iechyd: Astudiaethau Achos o Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru Mark Drane, Liz Green, Kathryn Ashton, Michael Fletcher, Sumina Azam Mae’r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau a’r rhai sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (2017). Gweld yr adnodd
Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) Liz Green, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Gyda chyfraniadau gan Steinthora Jonsdottir Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru’n parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r ymagweddau pwysig sydd wedi bod yn sylfaenol i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yn hyn. Gweld yr adnodd
Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) – Cyfan Liz Green, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds Mae'r dogfen yma yn cynnwys y tri dogfen QA gwahannol mewn un. Gweld yr adnodd
Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) (2020 – rhyngweithiol) Liz Green, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Gyda chyfraniadau gan, Steinthora Jonsdottir I’w ddefnyddio fel ffurflen electronig yn unig. Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru’n parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r ymagweddau pwysig sydd wedi bod yn sylfaenol i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yn hyn. Mae’r Fframwaith wedi cael ei ysgrifennu i gefnogi a rhoi arweiniad i unigolion a sefydliadau i gynnal adolygiad sicrhau ansawdd o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac mae wedi ei ddylunio fel dogfen annibynnol. Ei nod yw rhoi arweiniad i gomisiynwyr ac adolygwyr HIA. Gweld yr adnodd
Mannau agored cyhoeddus hamdden CCA (terfynol) (Cyngor Sir Ddinbych) (Saesneg yn unig) Mae'r ddogfen hon yn un o gyfres o nodiadau canllawiau cynllunio atodol (CCA) sy'n ymhelaethu ar gynllun datblygu lleol Sir Ddinbych 2006 – 2021 (CDLl) polisïau mewn fformat sy'n anelu at lywio proses, dyluniad ac ansawdd datblygiadau newydd. Saesneg ar gael yn unig Gweld yr adnodd
Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn: • Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. • Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd. • Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder. Gweld yr adnodd
Rhestr Wirio Lles Meddyliol (Saesneg yn unig) Cooke, A., Friedli, L., Coggins, T., Edmonds, N., Michaelson, J., O’Hara, K., Snowden, L., Stansfield, J., Steuer, N., Scott-Samuel, A. Mae'r rhestr wirio yma yn gweithio fel fframwaith cyflym i helpu pobl meddwl am lles meddyliol mewn fwy o manylder pan yn creu neu darparu polisi, strategaeth neu wasanaeth. Gweld yr adnodd
Trosolwg o Asesiad yr Effaith ar Iechyd (HIA) (2020) Uned Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) Mae'n darparu trosolwg ar Asesiad Effaith ar Iechyd (HIA). Gweld yr adnodd