Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
Canolfan ESRC ar gyfer Polisi Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Dystiolaeth (wedi’i lleoli yn Uned Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd MRC ym Mhrifysgol Glasgow) (Saesneg yn unig) Sefydlwyd i 'ymateb i'r galw cynyddol am ymyriadau polisi rhesymegol ac effeithiol yn seiliedig ar ddealltwriaeth wybodus o'r "hyn sy'n gweithio". Mae nifer o astudiaethau ar y gweill ar hyn o bryd. Gweld tudalen we
Gostwng Troseddu (Saesneg yn unig) Yn anelu at ddarparu gwybodaeth a chyngor i ymarferwyr diogelwch cymunedol ac atal troseddu er mwyn lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardal leol. Yn cynnwys tystiolaeth ar amrywiaeth eang o bynciau o deledu cylch cyfyng i droseddau hiliol. Gweld tudalen we
Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi sawl HIA a gellir dod o hyd i fanylion a gwybodaeth ar y wefan hon. Gweld tudalen we
Labordy Ymchwil Trafnidiaeth (Saesneg yn unig) Ystod eang o waith ymchwil ar ddiogelwch ar y ffyrdd, effaith ar lif traffig a materion amgylcheddol fel swn ac allyriadau traffig. Gweld tudalen we
Llywodraeth Cymru Gwybodaeth o ran pob agwedd ar bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd a llesiant. Gweld tudalen we
Porth HIA (Saesneg yn unig) Gwybodaeth, adnoddau, astudiaethau achos, ffynonellau tystiolaeth a rhwydweithiau i gefnogi'r defnydd o HIA. Gweld tudalen we
Prif Swyddog Meddygol Cymru Yn cynnwys astudiaethau achos o HIA wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn darparu mynediad i ddogfennau polisi perthnasol a gwybodaeth am feysydd eraill o waith perthnasol ym maes iechyd cyhoeddus sy'n cael eu cynnal yng Nghymru. Gweld tudalen we
Sefydliad Cenedlaethol er Ragoriaeth Glinigol (NICE) (Saesneg yn unig) Yn cynnwys crynodebau o adolygiadau ac adroddiadau llawn a gomisiynwyd neu a gynhaliwyd gan NICE, yn ogystal â chysylltiadau â sefydliadau eraill. Gweld tudalen we
Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig) Yn darparu mynediad i astudiaethau achos, offer, ffynonellau tystiolaeth ar y berthynas rhwng penderfynyddion allweddol iechyd a gwybodaeth arall am ddatblygiadau cyfredol. Gweld tudalen we
Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau (Saesneg yn unig) Rhan o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau yn dwyn ynghyd gyngor, dadansoddiad a thystiolaeth arbenigol a datblygu a gweithredu polisi i lunio a sbarduno blaenoriaethau gwella iechyd a chydraddoldeb ar gyfer y llywodraeth. Gweld tudalen we
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Gwefan yn rhoi manylion cronfeydd yr UE yng Nghymru. Gweld tudalen we
Y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Polisi (Saesneg yn unig) Yn rhan o Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y byd, mae'n darparu gweithdai a chyfarfodydd i ddatblygu a lledaenu syniadau ac arfer da ar HIA. Gweld tudalen we
Y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Asesu Effaith (Saesneg yn unig) Yn darparu cefnogaeth a fforwm ar gyfer trafodaeth a syniadau ar gyfer unigolion a sefydliadau sy'n ymwneud â gwahanol fathau o asesu effaith. Gweld tudalen we
Y Sefydliad Ewropeaidd er Gwella Amodau Byw a Gweithio (Saesneg yn unig) Mae'n disgrifio'i hun fel corff teiran yr Undeb Ewropeaidd a sefydlwyd i gyfrannu at y gwaith o gynllunio a sefydlu amodau byw a gweithio gwell. Yn darparu gwybodaeth am y cysylltiadau rhwng amodau cyflogaeth ac iechyd. Gweld tudalen we