Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
Bandoiler (Saesneg yn unig) Mae'r adran dystiolaeth yn casglu gwybodaeth o dan nifer o bynciau iechyd. Mae'r rhan fwyaf ohoni'n feddygol ond mae'r adran Byw'n Iach yn darparu tystiolaeth ar ymyriadau ffordd o fyw ac iechyd. Gweld tudalen we
Canolfan Adolygiadau a Lledaenu’r GIG (CRD), Prifysgol Caerefrog (Saesneg yn unig) Yn darparu crynodebau o adolygiadau a gynhaliwyd gan CRD am yr hyn sydd eisoes yn hysbys am effeithiolrwydd ymyriadau i wella iechyd a mynd i'r afael ag afiechyd. Mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â thriniaethau meddygol ond mae'n cynnwys yr Evidence from Systematic Reviews of Research Relevant implementing the Wider Public Health Agenda cynhwysfawr (gweler yr adolygiadau a gynhaliwyd yn 2000). Mae hefyd yn cynnwys y Database of Abstracts of Reviews of Effects (DARE) sy'n darparu crynodebau o adolygiadau systematig a aseswyd o ran ansawdd. Mae rhai o'r rhain yn ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd. Gweld tudalen we
Cronfa ddata Trip (Saesneg yn unig) Chwilio dros 55 o safleoedd gyda gwybodaeth ac ymchwil o ansawdd da yn ymwneud â'r meddygol ac iechyd. Darparu mynediad i ddeunydd 'seiliedig ar dystiolaeth' ar y we yn ogystal ag erthyglau o gylchgronau meddygol ar-lein uchel eu parch megis y British Medical Journal. Er ei fod yn canolbwyntio ar y meddygol, mae'n bosibl cael gafael ar dystiolaeth sy'n ymwneud â phenderfynyddion ehangach iechyd. Gweld tudalen we
Cydweithrediad Campbell (Saesneg yn unig) Yn rhoi mynediad i dystiolaeth am effeithiau nifer o ymyriadau cymdeithasol, addysgol a chyfiawnder troseddol. Gweld tudalen we
Cynnwys y Cyhoedd mewn Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Saesneg yn unig) Chloe Chadderton, Eva Elliott, Gareth Williams (WHIASU) Fel rhan o'i rôl ymchwil a gwerthuso, mae'r papur hwn yn adrodd ar astudiaeth ymchwil sy'n ymchwilio i ddulliau ac effaith aelodau o'r cyhoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan mewn Asesu'r Effaith ar Iechyd. Mae'r fethodoleg yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth, ac astudiaethau achos yng Nghymru gan ddefnyddio cyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws gydag aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a'r sector statudol. Mabwysiedir dull theori sylfaenol er mwyn nodi themâu sy'n ymddangos yn y data. Gweld yr adnodd
Effaith y dirywiad economaidd ar iechyd yng Nghymru: Adolygiad ac astudiaeth achos. Crynodeb Gweithredol (2010) (Saesneg yn unig) Eva Elliott, Emily Harrop, Heather Rothwell, Michael Shepherd a Gareth Williams Nod yr adolygiad hwn oedd casglu'r hyn a ddysgwyd o ymchwil i ddirwasgiadau blaenorol tra'n gosod y canfyddiad yng nghyd-destun Cymru heddiw. Dylid pwysleisio nad oedd hon yn astudiaeth gynhwysfawr, ond mae'n cynnig man cychwyn lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr ddechrau rhoi ystyriaeth i gamau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'n darparu set o argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer sy'n cynnwys awgrymiadau ynghylch pa grwpiau o'r boblogaeth a allai fod yn arbennig o agored i ddirwasgiad; yr angen i gyfuno adnoddau a chyfuno atebion yn enwedig mewn ardaloedd lle mae seilwaith gwasanaethau cymorth yn debygol o fod yn wan; yr angen am raglenni marchnad lafur gweithredol sy'n rhoi cymorth, yn magu hunan-barch ac yn creu rhwydweithiau cymdeithasol/cymunedol cefnogol (yn ogystal â chymorth chwilio am swyddi) ac i'r rhain gynnwys gwerthusiad o'u heffaith ar iechyd; i strategaethau cymorth gael eu datblygu mewn gweithleoedd i gefnogi gweithwyr a allai fod yn bryderus am statws eu swydd; ac ystyried effaith bosibl penderfyniadau gwario yn y dyfodol ar iechyd o ganlyniad i lai o wariant cyhoeddus. Yn ogystal, dylid diogelu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, teuluoedd dan straen a phobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Gweld yr adnodd
Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) Courtney L McNamara, Liz Green, Pepita Barlow, Mark A Bellis Gweld tudalen we
Prifysgol Llundain Y Frenhines Mary – Grwp Ymchwil Iechyd, Adran Ddaearyddiaeth (Saesneg yn unig) Yn cynnwys ‘The East London Guide to Health Impact Assessment of Regeneration Projects'. Mae'r gwaith tair cyfrol yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth ar bedwar maes sy'n berthnasol i adfywio a sut maent yn ymwneud ag iechyd. Gweld tudalen we
Sefydliad Iechyd Gwledig (IRH) Yn cynnal ymchwil eang ei chwmpas i faterion sy'n ymwneud ag iechyd a'r amgylchedd gwledig. Gweld tudalen we
System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan Mae System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan (AWISS) yn system arolygu anafiadau aml-ffynhonnell sy'n seiliedig ar y boblogaeth ac a gynlluniwyd i fesur cyfraddau a phatrymau anafiadau, er mwyn cefnogi'r broses o ddylunio a gwerthuso mentrau lleihau, ymyriadau a pholisïau anafiadau ledled Cymru. Gweld tudalen we
Uned Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd MRC, Prifysgol Glasgow (Saesneg yn unig) Nod yr Uned yw 'hyrwyddo iechyd dynol drwy astudio dylanwadau cymdeithasol ac amgylcheddol ar iechyd'. O ddiddordeb arbennig fydd yr adran sy'n gwerthuso effeithiau ymyriadau cymdeithasol ar iechyd. Maent yn canolbwyntio ar feysydd yn y sector nad ydynt yn rhai gofal iechyd megis tai ac adfywio, yn ogystal â chynnal Canolfan ESRC ar gyfer Polisi Iechyd y Cyhoedd Sy'n Seiliedig Ar Dystiolaeth. Gweld tudalen we
Yr hyn sy’n gweithio i Lesiant (Saesneg yn unig) BETA banc gwybodaeth tystiolaeth. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae'r Ganolfan wedi cwblhau 16 o adolygiadau systematig ar lesiant a diwylliant a chwaraeon, gwaith a dysgu a llesiant cymunedol. Y 'banc gwybodaeth' yw cam cynnar iawn y ganolfan i ddod â'r holl brif ganfyddiadau, y datganiadau tystiolaeth a'r bylchau o'r adolygiadau hyn at ei gilydd i mewn i un daenlen Excel chwiliadwy. Y bwriad yw gwneud y data mor hygyrch a defnyddiol â phosibl. Gweld tudalen we