Arweiniad ar asesu effeithiau cloddio glo brig ar iechyd a llesiant (2012) (Saesneg yn unig) |
Chloe Chadderton, Eva Elliott a Gareth Williams (WHIASU) |
Dogfen ganllaw arfer gorau sy'n cynnwys cyngor ar gynnal HIA ar waith glo brig arfaethedig a chyflwyno canfyddiadau adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ar ffurf y gellir ei defnyddio ar gyfer y rhai sy'n dymuno ymgymryd ag HIA |
Gweld yr adnodd
|
Asesiad o’r Effaith ar Anghydraddoldeb Iechyd: Cynllunio ar gyfer Effaith Gadarnhaol (Saesneg yn unig) |
Awdurdod Iechyd Bro Taf |
Dogfen sy'n cynnwys ymarfer tasgu syniadau ar anghydraddoldebau iechyd. |
Gweld yr adnodd
|
Asesu ansawdd adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) |
Liz Green |
Canllaw i gefnogi adolygu a sicrhau ansawdd adroddiadau HIA a gomisiynwyd. |
Gweld yr adnodd
|
Asesu’r effaith ar iechyd wrth lunio polisi’r lywodraeth: Datblygiadau yng Nghymru, Cyfres Cromlin Ddysgu Polisi, Rhif 6 (Saesneg yn unig) |
Breeze C and Hall R (2002) |
|
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Adfywio – Llangeinwyr, Nantgarw (Saesneg yn unig) |
|
Yn 2002, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) ar gynllun arfaethedig i ailddatblygu tai yn Llangeinwyr, hen gymuned lofaol ddifreintiedig yn y Garw. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Coed Actif Cymru 2015 (Saesneg yn unig) |
Lee Parry Williams a Nerys Edmonds gyda diolch i Kate Hamilton a'r tîm Coed Actif |
Roedd Coed Actif yn adolygu ei dull gweithredu ac yn ystyried newid ffocws y prosiect i ddull ataliol yn hytrach na thargedu pobl â chyflyrau hirdymor presennol. Roeddent hefyd yn paratoi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac yn adolygu eu hymagwedd at werthuso. I ddeall effeithiau'r newid arfaethedig hwn ar iechyd, cynhaliwyd ymarfer sgrinio HIA gan ddefnyddio offeryn sgrinio HIA oedd newydd gael ei ddatblygu i'w ddefnyddio'n benodol gyda'r sector amgylcheddol. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Cynllunio Gwastraff Rhanbarthol (Saesneg yn unig) |
|
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 21 fod yn rhaid adolygu'r Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol bob tair blynedd, a bod yn rhaid cynnal HIA ar gyfer Strategaeth Wastraff Cymru a'r tri adolygiad 1af o asesiadau Llywodraeth Cymru (RWPRs). Felly, gwnaed HIA strategol cynhwysfawr i gefnogi a hysbysu'r RWPRs yng Nghymru, er mwyn sicrhau yr ystyriwyd ac y diogelwyd iechyd a llesiant yn ystod y broses cynllunio gwastraff rhanbarthol. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Gweithgarwch Corfforol – Canolfan Hamdden Bae Colwyn (Saesneg yn unig) |
|
Asesiad o'r effaith ar iechyd (HIA) ar y prosiect Canolfan Iechyd arfaethedig yng Nghanolfan Hamdden Colwyn. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth achos partneriaeth prosiect BRAND (Saesneg yn unig) |
|
Prosiect tair blynedd yw prosiect BRAND, gyda 75% yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Interreg IVA yr UE rhwng Iwerddon a Chymru 2007-2013. Menter gymunedol yw'r rhaglen sy'n ceisio cryfhau cydlyniad economaidd a chymdeithasol drwy hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol a thrawsffiniol. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd (taflen astudiaeth achos) (Saesneg yn unig) |
Jacobs |
Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd Adroddiad HIA Cam 1 (Saesneg yn unig) |
|
Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd.
|
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd Adroddiad HIA Cam 2 (Saesneg yn unig) |
Jacobs |
Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth HIA dan Arweiniad y Gymuned – Pwll Glo Brig Margam (taflen astudiaeth achos) (Saesneg yn unig) |
Kenfig Hill |
Archwiliodd yr asesiad cynhwysfawr o'r effaith ar iechyd effaith yr estyniad arfaethedig i Bwll Glo Brig Margam. |
Gweld yr adnodd
|
Canllaw i adolygu tystiolaeth ar gyfer asesiadau o’r effaith ar iechyd (Saesneg yn unig) |
Dr J Biddulph, Coleg Prifysgol Llundain Ms A Boaz, Prifysgol Llundain y Frenhines Mary Ms A Boltong, Arsyllfa Iechyd Llundain yr Athro S Curtis, Prifysgol Llundain y Frenhines Mary Dr M Joffe, Coleg Imperial Llundain Dr K Lock, Ysgol Hylendid a Meddygaeth |
Mae'r canllaw hwn yn darparu fframwaith cam wrth gam i gynorthwyo ymarferwyr i adolygu llenyddiaeth i'w defnyddio mewn HIA |
Gweld yr adnodd
|
Comisiynu HIA a phenodi arbenigwr neu ymgynghorydd HIA (Saesneg yn unig) |
Liz Green |
Canllaw sy'n cynnwys cwestiynau i'w hystyried wrth gomisiynu HIA a phenodi arbenigwr neu ymgynghorydd HIA. |
Gweld yr adnodd
|
Cyflwr yr Undeb. Ailuno Iechyd â Chynllunio i Hyrwyddo Cymunedau Iach (Saesneg yn unig) |
Michael Chang, Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) |
Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi darlun o ba mor effeithiol yw'r cydweithio rhwng y sectorau cynllunio, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd wrth i ni gyrraedd 2019. |
Gweld yr adnodd
|
Cyfranogiad dinasyddion mewn HIA lleol: Llywio penderfyniadau ar ddyfodol safle tirlenwi yng Nghymru (Saesneg yn unig) |
Elliott E, Golby A, a Williams GH (2007) yn M Wismar Blau J a Ernst K (gol) |
The Effectiveness of Health Impact Assessment: Scope and limitations of supporting decision-making in Europe. Brwsel: Sefydliad Iechyd y Byd. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio ar gyfer iechyd a lles gwell yng Nghymru |
TCPA, WHIASU a Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Cafodd y Briff hwn ei ysgogi gan y ddyletswydd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyfrannu at gyflawni nodau lles cenedlaethol, a thrwy gryfhau’r system gynllunio sy’n cael ei harwain gan gynlluniau, eto gyda gofyniad i gyfrannu at nodau lles, a sefydlwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r newidiadau deddfwriaethol hyn yn gyfle amserol i ddatblygu arweiniad ymarferol ar gyfer ymarferwyr cynllunio ac iechyd y cyhoedd a gwneuthurwyr polisïau, i’w helpu i ystyried iechyd a lles wrth lunio cynlluniau lles lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant Gwell – Canllawiau Cynllunio Atodol |
Cyngor Dinas Caerdydd |
Mae’r CCA hwn yn ategu polisïau yn Cynllun Datblygu Lleol (CDLL) mabwysiedig Caerdydd yn ymwneud ag iechyd a chynllunio ac mae wedi'i ddatblygu ar y cyd rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. |
Gweld yr adnodd
|
Cynnwys cynllunio posibl yn ystod y broses datblygu cynllun tymor canolig integredig (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Cynnwys y Cyhoedd mewn Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Saesneg yn unig) |
Chloe Chadderton, Eva Elliott, Gareth Williams (WHIASU) |
Fel rhan o'i rôl ymchwil a gwerthuso, mae'r papur hwn yn adrodd ar astudiaeth ymchwil sy'n ymchwilio i ddulliau ac effaith aelodau o'r cyhoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan mewn Asesu'r Effaith ar Iechyd. Mae'r fethodoleg yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth, ac astudiaethau achos yng Nghymru gan ddefnyddio cyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws gydag aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a'r sector statudol. Mabwysiedir dull theori sylfaenol er mwyn nodi themâu sy'n ymddangos yn y data. |
Gweld yr adnodd
|
Datblygu cymdeithaseg gyhoeddus drwy asesu’r effaith ar iechyd (Saesneg yn unig) |
Elliott E a Williams GH (2008) |
Dim ar gael |
Gweld yr adnodd
|
Effaith y dirywiad economaidd ar iechyd yng Nghymru: Adolygiad ac astudiaeth achos. Crynodeb Gweithredol (2010) (Saesneg yn unig) |
Eva Elliott, Emily Harrop, Heather Rothwell, Michael Shepherd a Gareth Williams |
Nod yr adolygiad hwn oedd casglu'r hyn a ddysgwyd o ymchwil i ddirwasgiadau blaenorol tra'n gosod y canfyddiad yng nghyd-destun Cymru heddiw. Dylid pwysleisio nad oedd hon yn astudiaeth gynhwysfawr, ond mae'n cynnig man cychwyn lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr ddechrau rhoi ystyriaeth i gamau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'n darparu set o argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer sy'n cynnwys awgrymiadau ynghylch pa grwpiau o'r boblogaeth a allai fod yn arbennig o agored i ddirwasgiad; yr angen i gyfuno adnoddau a chyfuno atebion yn enwedig mewn ardaloedd lle mae seilwaith gwasanaethau cymorth yn debygol o fod yn wan; yr angen am raglenni marchnad lafur gweithredol sy'n rhoi cymorth, yn magu hunan-barch ac yn creu rhwydweithiau cymdeithasol/cymunedol cefnogol (yn ogystal â chymorth chwilio am swyddi) ac i'r rhain gynnwys gwerthusiad o'u heffaith ar iechyd; i strategaethau cymorth gael eu datblygu mewn gweithleoedd i gefnogi gweithwyr a allai fod yn bryderus am statws eu swydd; ac ystyried effaith bosibl penderfyniadau gwario yn y dyfodol ar iechyd o ganlyniad i lai o wariant cyhoeddus. Yn ogystal, dylid diogelu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, teuluoedd dan straen a phobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. |
Gweld yr adnodd
|
Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd – adroddiad technegol (Saesneg yn unig) |
Nerys Edmonds, Lee Parry-Williams, Liz Green (WHIASU) |
Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu. |
Gweld yr adnodd
|
Herio’r wyddoniaeth: gwybodaeth iechyd y cyhoedd a gweithredu mewn datblygiadau tir dadleuol, Cyfathrebu Risg ym maes Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) |
Elliott E, Harrop E a Williams GH (2010) yn Bennett P, Calman K, Curtis S, a Smith D (gol) |
Mae dadleuon am risgiau i iechyd y cyhoedd yn ymddangos yn y newyddion yn rheolaidd, p'un ai am ddiogelwch bwyd, materion amgylcheddol, ymyriadau meddygol, neu risgiau 'ffordd o fyw' megis yfed. I'r rheini sy'n ceisio rheoli neu reoleiddio risgiau, mae ymateb y cyhoedd weithiau'n ymddangos yn rhyfedd. I'r cyhoedd, gall ymddygiad y rheini sydd i fod 'wrth y llyw' ymddangos yr un mor rhyfedd. Mae ymddiriedaeth yn hollbwysig yn hyn o beth. Mae'r rhifyn newydd hwn o Risk Communication and Public Health yn cynnwys y cefndir damcaniaethol ac ymchwil, ac yn cyflwyno ystod eang o astudiaethau achos cyfoes a'r profiadau dysgu o 'r rhain, a'r materion gwleidyddol, sefydliadol a threfniadol y maent yn eu codi. Mae'n cloi gyda dadansoddiad o'r gwersi a ddysgwyd ac yn rhoi awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'r llyfr yn cynnig safbwyntiau rhyngwladol, ac mae'r cyfranwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau defnyddwyr yn ogystal ag ymarferwyr iechyd y cyhoedd ac academyddion. Mae'r rhifyn hwn wedi'i ddiweddaru'n sylweddol gyda deunydd newydd ac astudiaethau achos, ond mae'n cadw'r un ffocws: gwella cyfathrebu a hyrwyddo 'arfer da' mewn cyfathrebu risg, y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd ac mewn mannau eraill. |
Gweld tudalen we
|
HIA a gwblhawyd 1997-2015 (Saesneg yn unig) |
WHIASU |
HIA a gwblhawyd 1997-2015 |
Gweld yr adnodd
|
Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) |
Courtney L McNamara, Liz Green, Pepita Barlow, Mark A Bellis |
|
Gweld tudalen we
|
Profiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Cymru: cysyniadau, theori, technegau a chymwysiadau (Saesneg yn unig) |
Breeze C (2004) yn Kemm J, Parry J a Palmer S (gol) |
Caiff effeithiau ar iechyd yn aml eu hanwybyddu wrth gynllunio prosiectau datblygu yn amrywio o redfeydd newydd ar safleoedd meysydd awyr mawr i ddatblygu systemau cyflenwi d?r i wella glanweithdra. Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) yw'r asesiad o effeithiau ar iechyd, cadarnhaol neu negyddol, prosiect, rhaglen neu bolisi. Mae'n ymwneud felly ag iechyd poblogaethau ac ymdrechion i ragfynegi canlyniadau penderfyniadau nad ydynt wedi'u gweithredu eto ar gyfer iechyd yn y dyfodol. Mae HIA yn faes newydd sy'n tyfu gyda llawer o linynnau o syniadau a meysydd dadleuol. |
Gweld tudalen we
|
Profion iechyd rhywiol hunan-weinyddol mewn carchar agored yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a dadansoddiad o Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad |
Kathryn Ashton, Aimee Challenger, Andrew Cotter-Roberts, Christie Craddock, Jordan Williams, Liz Green |
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth sy’n ceisio deall yr effeithiau ar iechyd a’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad gwasanaeth hunan-samplu ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) mewn carchar agored yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn cymhwyso dull arloesol drwy ddefnyddio lens a dull Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), ar y cyd â’r fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI). |
Gweld tudalen we
|
Proses ar gyfer cynnwys iechyd y cyhoedd mewn cynllunio datblygu (polisi) (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Proses ar gyfer cynnwys iechyd ym maes rheoli datblygu (ceisiadau cynllunio) (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Rhestr wirio gydag ystyriaethau polisi ar gyfer alinio polisïau datblygu lleol a phenderfyniadau cynllunio gyda pholisi cynllunio Cymru (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA), WHIASU |
Mae'r rhestr wirio hon yn un o'r atodiadau o 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru' |
Gweld yr adnodd
|
Y broses i gynllunwyr sy’n ymgynghori ag iechyd y cyhoedd (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Yn llwyddo i greu’r amodau ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru: astudiaeth achos. Yn: Impact Assessment Outlook Journal Volume 21: Gorffennaf 2024. Impact Assessment Frontiers Part 2: People, Health and Equality. Darnau meddwl o ymarfer yn y DU a Rhyngwladol (Saesneg yn unig) |
Kathryn Ashton, Liz Green |
Myfyrdodau gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru. |
Gweld yr adnodd
|