Sefydliadu asesu’r effaith ar iechyd. Adolygiad cwmpasu systematig a datblygu fframwaith cysyniadol disgrifiadol

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Liz Green a Kathryn Ashton o Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) erthygl o’r enw ‘Institutionalisation of health impact assessment. A systematic scoping review and development of a descriptive conceptual framework’ yn y cyfnodolyn Impact Assessment and Project Appraisal.

Y papur yw’r fframwaith ymarferol cyntaf i’r maes/gwladwriaethau/sefydliadau eraill ei ddefnyddio i fesur pa mor aeddfed ydynt (ai peidio) o ran HIA. Mae’n tynnu sylw at y galluogwyr a’r rhwystrau a’r 4 cam allweddol o sefydliadu HIA, sef: eirioli, mabwysiadu, gweithredu ac yn olaf, sefydliadu. Mae’r rhain wedi’u mapio yn erbyn ‘wal sefydliadu’ ymarferol sy’n cynnwys y gweithgareddau, y ffactorau a’r hwyluswyr hanfodol y mae eu hangen ar gyfer sefydliadu AEI. Gall gwladwriaethau a sefydliadau eraill ddefnyddio’r rhain i fesur eu hunain yn eu herbyn er mwyn nodi pa mor aeddfed ydynt (ai peidio) o ran y llwybr at sefydliadu a’r ffactorau hollbwysig sydd ganddynt ar hyn o bryd neu’r rhai y mae angen iddynt ymdrechu amdanynt.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 2 mwy
, Jordan Williams, Margaret Douglas

Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru

Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn:

• Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
• Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd.
• Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddeall y Rheoliadau, ond ni ddylid eu trin fel esboniad cynhwysfawr na llawn o’r gyfraith yn y maes hwn. O 6 Ebrill 2027 ymlaen, cyfrifoldeb y sefydliadau a’r unigolion perthnasol yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Dylech chi bob amser wirio’r ddeddfwriaeth lawn ac ystyried cael cyngor cyfreithiol neu broffesiynol annibynnol os ydych chi’n ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 3 mwy
, Lee Parry-Williams, Laura Evans, Sumina Azam

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru

Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn:
• Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau.
• Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau.
• Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa.
• Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 3 mwy
, Lee Parry-Williams, Laura Evans, Sumina Azam

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Taflen Cofnodi Sgrinio

Gellir defnyddio’r daflen cofnodi sgrinio ar Gam Sgrinio’r broses HIA i helpu i arwain a chofnodi’r trafodaethau. Dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.

Cynlluniwyd y ddogfen hon i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd angen agor y ddogfen yn Adobe Acrobat neu Adobe Acrobat Reader y gellir ei lawrlwytho am ddim oddi ar https://get.adobe.com/uk/reader/

Sylwch, heb Acrobat, byddwch yn gallu gweld y ddogfen ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich gwybodaeth eich hun na chadw’r ffeil.

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): Templed cwmpasu

Dylid defnyddio’r adnodd hwn yn ystod cam Cwmpasu’r broses HIA. Darperir nodiadau canllaw ar ddiwedd yr adnodd hwn i gefnogi’r gwaith o gwblhau’r cam hwn. Yn ddelfrydol, dylai mwy nag un unigolyn gwblhau’r cam cwmpasu.

Cynlluniwyd y ddogfen hon i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd angen agor y ddogfen yn Adobe Acrobat neu Adobe Acrobat Reader y gellir ei lawrlwytho am ddim oddi ar https://get.adobe.com/uk/reader/

Sylwch, heb Acrobat, byddwch yn gallu gweld y ddogfen ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich gwybodaeth eich hun na chadw’r ffeil.

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA): Templed Cofnodi’r Gweithdy Cyfranogol

Gellir defnyddio’r templed hwn ar y Cam Arfarnu Tystiolaeth o’r broses HIA i helpu i gofnodi trafodaethau yn ystod gweithdy cyfranogol. Dylid defnyddio hwn ochr yn ochr â’r adnodd Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Ehangach Iechyd a Llesiant.

Cynlluniwyd y ddogfen hon i’w lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd angen agor y ddogfen yn Adobe Acrobat neu Adobe Acrobat Reader y gellir ei lawrlwytho am ddim oddi ar https://get.adobe.com/uk/reader/

Sylwch, heb Acrobat, byddwch yn gallu gweld y ddogfen ond ni fyddwch yn gallu ychwanegu eich gwybodaeth eich hun na chadw’r ffeil.

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cyfranogol Cyflym o Gyflwyno Rhaglen Sgrinio Canser yr Ysgyfaint Genedlaethol yng Nghymru

Cynhaliwyd yr adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (AEI) hwn gan Dîm y Prosiect Sgrinio Canser yr Ysgyfaint, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o’r GIG, a gefnogwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), drwy hwyluso gweithdy cyfranogol AEI. Sefydlwyd tîm y prosiect ym mis Ebrill 2024 ac fe gafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Medi 2025. Canolbwyntiodd yr AEI cyfranogol cyflym ar gasglu gwybodaeth a mewnwelediad rhanddeiliaid Cymru i’r cynlluniau arfaethedig i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth a’r rhai sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cefndir i’r prosiect ac i’r AEI ei hun, cyn edrych ar y gweithdy AEI Cyfranogol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024 yn fanylach. Mae’n dangos pa grwpiau poblogaeth a nodwyd a’r penderfynyddion iechyd yn unigol, gan ddefnyddio rhestrau gwirio Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd WHIASU. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai’r Rhaglen Sgrinio Canser yr Ysgyfaint Genedlaethol fod o fudd mawr i boblogaeth Cymru, drwy nodi canserau’r ysgyfaint yn gynnar a thrwy hyrwyddo gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu mewn ffordd integredig. Yn ogystal â hyn, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sy’n rhaid ei gwblhau i sicrhau bod rhaglen sgrinio hygyrch a theg yn cael ei chyflwyno.

Awduron: Catrin Lyddon, Jen Sharp

Dyfeisiau mewnanadlu mwy diogel: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd cyflym o gynllun peilot lleihau niwed i bobl sy’n ysmygu crac cocên

Mae’r astudiaeth hon yn archwilio sut y defnyddiwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (AEI) i werthuso rhaglen beilot lleihau niwed arfaethedig yng Nghymru sy’n darparu dyfeisiau mewnanadlu mwy diogel (SIDs) i bobl sy’n ysmygu crac cocên, grŵp sy’n wynebu risgiau iechyd sylweddol ac sydd heb wasanaethau lleihau niwed wedi’u targedu. Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, nododd yr AEI fanteision posibl megis llai o risg o heintiau, defnydd mwy diogel o offer, ac ymgysylltu gwell â gwasanaethau, ochr yn ochr â heriau fel pwysau ar adnoddau a phroblemau mynediad.

At ei gilydd, mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at y ffaith y gallai peilot SID helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a stigma, gan ddangos gwerth AEI wrth lunio ymyriadau iechyd y cyhoedd cynhwysol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arwain gweithredu a gwerthuso yn y dyfodol.

Awduron: Kathryn Ashton, Benjamin J. Gray+ 3 mwy
, Rick Lines, Daniel Harman, Liz Green

Masnach, Cytundebau Masnach a Thariffau a’r Effaith ar Iechyd, Llesiant a Thegwch yng Nghymru

Mae’r papur briffio hwn, a ddatblygwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (UGAEIC), yn trafod effeithiau posibl tariffau masnach ar iechyd, llesiant a thegwch ar boblogaeth Cymru. Mae wedi’i anelu at randdeiliaid yng Nghymru sy’n gweithio ym meysydd masnach, iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd i’w cefnogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl y gall tariffau masnach eu cael ar iechyd y boblogaeth.

Mae’n dechrau gyda chyflwyniad byr i gytundebau masnach, tariffau a rhwystrau masnach nad ydynt yn dariffau. Yna mae’n amlinellu’r cytundebau masnach diweddaraf y mae’r Deyrnas Unedig (DU) wedi ymrwymo iddynt cyn trafod sut y gall tariffau effeithio ar iechyd, llesiant a thegwch y boblogaeth yng Nghymru. Mae’n gorffen gyda rhai opsiynau ar sut y gellir ystyried iechyd a llesiant yn well mewn cytundebau masnach a nodi effeithiau tariffau. Yn olaf, mae’n cyflwyno dau enghraifft astudiaeth achos o sut y gall masnach effeithio ar bobl a’r economi yng Nghymru.

Awduron: Michael Fletcher, Liz Green

Cynllunio Lleoedd Iach: Canllaw i awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgorffori iechyd mewn polisi cynllunio lleol

Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol trefol a gwledig yng Nghymru i ystyried, cynnwys a hyrwyddo iechyd a lles drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) a’r system gynllunio. Mae’n rhoi tystiolaeth ac arweiniad ynghylch sut y gellir cyflawni hyn a pham mae’r cysylltiadau rhwng cynllunio ac iechyd mor bwysig. Gall y canllaw fod yn sail i bapur cefndir tystiolaeth ar gyfer CDLlau neu ganllawiau cynllunio atodol (CCA) ac mae’n cynnwys pum adran.

Awduron: Cheryl Williams, Sue Toner+ 1 mwy
, Liz Green

Cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant y cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’r dulliau a’r canfyddiadau allweddol o adolygiad o sut mae iechyd wedi’i gynnwys mewn astudiaethau achos Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru ac effeithiolrwydd Cynlluniau Datblygu Lleol wrth gefnogi cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant. Bwriad yr adroddiad yw llywio a chefnogi Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru.

Awduron: Neil Harris, Andrew Ivins+ 3 mwy
, Matthew Wargent, Liz Green, Cheryl Williams