Asesu goblygiadau cytundebau masnach rydd ar iechyd y cyhoedd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Yn 2016, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi creu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach yn negodi ei chytundebau masnach ei hun, ac ym mis Mawrth 2023, cytunodd i ymuno â Chytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn 2022–23 i ragweld effaith bosibl Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd a llesiant Poblogaeth Cymru. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac yn amlygu gwerth y dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid a hysbysu llunwyr polisi. Roedd yr HIA hwn yn dilyn dull pum cam safonol a oedd yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth i nodi effeithiau posibl ar iechyd, cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid traws-sector a datblygu proffil iechyd cymunedol. Nododd yr HIA effeithiau posibl ar draws penderfynyddion ehangach iechyd a grwpiau poblogaeth agored i niwed penodol. Nodwyd mecanweithiau setlo anghydfod gwladwriaethau buddsoddwyr, ansicrwydd economaidd a cholli gofod polisi rheoleiddio fel llwybrau allweddol ar gyfer effeithiau iechyd. Mae’r canfyddiadau wedi bod yn fuddiol wrth hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i baratoi ar gyfer y CPTPP yng Nghymru gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r gwaith hwn wedi dangos gwerth dull HIA sy’n defnyddio proses dryloyw i gasglu ystod eang o dystiolaeth, gan arwain at ddysgu trosglwyddadwy.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 6 mwy
, Leah Silva, Courtney McNamara, Michael Fletcher, Louisa Petchey, Timo Clemens, Margaret Douglas

Pennu Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd y Cyhoedd: Astudiaeth Genedlaethol sy’n Defnyddio Dull Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru

Cydnabyddir mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd byd-eang yn yr 21ain ganrif ac mae’n effeithio ar iechyd a llesiant trwy amrywiaeth o ffactorau. Oherwydd hyn, mae’r angen i gymryd camau i ddiogelu iechyd a llesiant y boblogaeth yn dod yn fwyfwy brys.

Yn 2019, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) o newid hinsawdd trwy ddull cymysg cynhwysfawr. Yn wahanol i asesiadau risg eraill, gwerthusodd effaith bosibl newid hinsawdd ar iechyd ac anghydraddoldebau yng Nghymru drwy weithdai cyfranogol, ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, adolygiadau systematig o lenyddiaeth ac astudiaethau achos.

Mae canfyddiadau’r HIA yn nodi effeithiau posibl ar draws penderfynyddion ehangach iechyd a llesiant. Er enghraifft, ansawdd aer, gwres/oerni gormodol, llifogydd, cynhyrchiant economaidd, seilwaith, a gwydnwch cymunedol. Nodwyd ystod o effeithiau ar draws grwpiau poblogaeth, lleoliadau ac ardaloedd daearyddol.

Gall y canfyddiadau hyn lywio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i baratoi ar gyfer cynlluniau a pholisïau newid hinsawdd gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r gwaith wedi dangos gwerth dull HIA gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth trwy broses dryloyw, gan arwain at ddysgu trosglwyddadwy i eraill.

Mae’r papur ar gael yn Saesneg yn unig.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 6 mwy
, Nerys Edmonds, Michael Fletcher, Sumina Azam, Karen Hughes, Phil Wheater, Mark A Bellis

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau eraill, gall helpu i wella eich dealltwriaeth o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.

Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddarllenwyr weld methodoleg yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a ddefnyddiwyd gan y tîm.

Awduron: Michael Fletcher, Laura Evans+ 3 mwy
, Lee Parry-Williams, Kathryn Ashton, Liz Green

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer Addasu Hinsawdd: Enghreifftiau o Ymarfer

Mae’r nodyn briffio hwn yn canolbwyntio ar addasu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghymru a chymhwyso Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd wrth gynllunio polisïau addasu. Mae’n cynnwys pum astudiaeth achos – dwy ryngwladol a thair o Gymru, ac mae’n darparu enghreifftiau sy’n canolbwyntio ar weithredu o roi HIA ar waith.

Awduron: Mark Drane, Nerys Edmonds+ 3 mwy
, Kristian James, Liz Green, Sumina Azam

Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd

Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar iechyd (HIA) yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol agos i’r hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru. Mae’n darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu cyrff cyhoeddus, asiantaethau a sefydliadau yn eu paratoadau ar gyfer newid hinsawdd a digwyddiadau newid hinsawdd a’u hymatebion iddynt. Ei nod yw cefnogi mabwysiadu polisïau a chynlluniau a all hybu a diogelu iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru ac yn y grwpiau poblogaeth ac ardaloedd daearyddol hynny sydd mewn perygl arbennig o effeithiau negyddol.

Mae allbynnau’r gweithgarwch HIA yn cynnwys:
• Adroddiad Cryno HIA seiliedig ar dystiolaeth
• Penodau unigol ar dystiolaeth o effaith newid hinsawdd ar benderfynyddion ehangach iechyd a grwpiau poblogaeth yng Nghymru
• Set o 4 ffeithlun
• Dec sleidiau PowerPoint
• Adroddiad Technegol

Awduron: Nerys Edmonds, Liz Green

Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor hwy yn dilyn derbyniad y DU i’r CPTPP.

Awduron: Liz Green, Leah Silva+ 6 mwy
, Michael Fletcher, Louisa Petchey, Laura Morgan, Margaret Douglas, Sumina Azam, Courtney McNamara

Effeithiau a ragwelir ac a arsylwyd o ganlyniad i gloi COVID-19: dau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru a’r Alban

Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd yn ymagwedd allweddol a ddefnyddir yn rhyngwladol i nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol polisïau, cynlluniau a chynigion ar iechyd a lles. Yn 2020, cynhaliwyd HIA yng Nghymru a’r Alban i nodi effeithiau posibl y mesurau ‘aros gartref’ a chadw pellter corfforol ar iechyd a lles a weithredwyd ar ddechrau pandemig clefyd coronafeirws (COVID-19). Ceir tystiolaeth brin wrth werthuso a yw’r effeithiau a ragfynegwyd mewn HIA yn digwydd ar ôl gweithredu polisi. Mae’r papur hwn yn gwerthuso’r effeithiau a ragwelwyd yn HIA COVID-19 yn erbyn tueddiadau a welwyd mewn gwirionedd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 3 mwy
, Mark Bellis, Timo Clements, Margaret Douglas

Hwyluswyr, Rhwystrau a Safbwyntiau ar Rôl Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd wrth Hyrwyddo a Defnyddio Asesiadau Effaith ar Iechyd – Arolwg Cwmpasu Rhithwir Rhyngwladol a Chyfweliadau Arbenigol

Mae gan sefydliadau iechyd y cyhoedd rôl bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo a diogelu iechyd a llesiant poblogaethau. Ffocws allweddol sefydliadau o’r fath yw penderfynyddion ehangach iechyd, gan groesawu’r angen i hyrwyddo ‘Iechyd ym mhob Polisi’ (HiAP). Offeryn gwerthfawr i gefnogi hyn yw’r asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA). Mae’r astudiaeth gwmpasu hon yn anelu at gefnogi sefydliadau iechyd y cyhoedd i hyrwyddo’n fwy llwyddiannus ar gyfer defnyddio asesiadau o’r effaith ar iechyd a’r HiAP er mwyn hyrwyddo a diogelu iechyd, llesiant a thegwch. Mae’n tynnu sylw at y galluogwyr a’r rhwystrau ar gyfer defnyddio HIA yng nghyd-destunau’r cyfranogwyr ac mae’n awgrymu rhai camau y gall sefydliadau iechyd y cyhoedd eu cymryd a’r unedau y gallant ddysgu ohonynt. Gall canlyniadau’r astudiaeth hon fod yn blatfform i helpu i wella gwybodaeth, rhwydweithiau ac arbenigedd, er mwyn helpu i gefnogi dull ‘Iechyd ym mhob Polisi’ a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n bodoli ym mhob cymdeithas.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 4 mwy
, Lee Parry-Williams, Mariana Dyakova, Timo Clemens, Mark Bellis

Diogelu lles meddyliol cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru.

Cynhaliwyd y MWIA gydag ymgysylltiad pobl ifanc, athrawon a darlithwyr a chefnogaeth Grŵp Cynghori Strategol gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru.

Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio at adferiad o’r pandemig, argyfyngau yn y dyfodol a gwella lles meddwl y boblogaeth yn y tymor hir.

Awduron: Nerys Edmonds, Laura Morgan+ 7 mwy
, Huw Arfon Thomas, Michael Fletcher, Lee Parry-Williams, Laura Evans, Liz Green, Sumina Azam, Mark Bellis

Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy

Mae’r adroddiad – ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a thrwy hynny leihau llygredd aer, lleihau’r risg o ddigwyddiadau tywydd eithafol, cynhyrchu mwy o fwyd yn gynaliadwy a gwella iechyd meddwl a llesiant.

Awduron: Rachel Andrew, Mark Drane+ 3 mwy
, Liz Green, Richard Lewis, Angharad Wooldridge

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru, Pwyslais ar: Gymunedau Gwledig

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Adam Jones, Mark Bellis

Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19

Mae’r pandemig wedi amlygu’n echblyg, ac mewn rhai enghreifftiau, wedi gwaethygu’r effeithiau o ran iechyd, lles ac anghydraddoldebau ar draws y boblogaeth sy’n deillio o benderfynyddion fel yr amgylchedd, y defnydd o dir, trafnidiaeth, yr economi a thai. Nod yr adroddiad hwn yw amlygu effeithiau iechyd cadarnhaol a negyddol polisïau cynllunio gofodol yn ystod y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru, dysgu o’r rhain, unrhyw ymyriadau cadarnhaol a chyd-fanteision er mwyn siapio amgylchedd mwy iach i bawb yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Sue Toner+ 7 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Tom Johnson, Gemma Christian, Cheryl Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch

Mae’r Asesiad o Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol hwn yn archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai a thai heb ddiogelwch, ac yn edrych ar bwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac sy’n teimlo’n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, a gallu cynnal to uwch eich pen ac atal digartrefedd yn y pen draw. Dyma’r trydydd mewn cyfres, sy’n canolbwyntio ar effaith y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru gan gynnwys y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’ ac effaith gweithio gartref ac ystwyth. Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â’r rhain a’r adrannau ar dai a gweithio gartref oddi mewn iddynt.

Awduron: Louise Woodfine, Liz Green+ 9 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Christian Heathcote-Elliott, Charlotte Grey, Yoric Irving-Clarke, Matthew Kennedy, Catherine May, Sumina Azam, Mark Bellis

Ffeithlun Effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau.

Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a’r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt.

Awduron: Nerys Edmonds, Liz Green