Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin
Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau […]
Sut mae WHIASU yn paratoi ar gyfer cyflwyno Rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)
Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliadau statudol asesiadau HIA Llywodraeth Cymru, sy’n dilyn ymlaen o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’n nodi: “Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu […]
Adroddiad newydd: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd
Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, […]
Nodwch y Dyddiad! Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Dydd Iau 8 Chwefror 2024 9:30am – 12.30pm (ar-lein) Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus y llynedd, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol a gefnogir gan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a chynllunio gofodol, neu sydd â […]
Digwyddiad: Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd
Ydych chi’n ymwneud â chynllunio asesiad lleol am risg hinsawdd? Hoffech chi ddysgu mwy am sut mae pobl a chymunedau yng Nghymru yn agored i newid yn yr hinsawdd? Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd ar-lein nesaf. Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus […]
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer Addasu Hinsawdd: Enghreifftiau o Ymarfer
Mae’r nodyn briffio hwn yn canolbwyntio ar addasu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghymru a chymhwyso Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd wrth gynllunio polisïau addasu. Mae’n cynnwys pum […]
Crynhoad o Gyhoeddiadau Cyfnodolion a Llyfrau Diweddar gan Dîm Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU):
Isod mae crynodeb o gyhoeddiadau gan aelodau o dîm WHIASU nad ydym wedi’u cyhoeddi o’r blaen a allai fod o ddiddordeb ichi. Exploring the social value of Public Health Institutes: An international scoping survey and expert interviews (Saesneg yn unig) Mae dadlau dros fuddsoddi mewn iechyd y cyhoedd ataliol trwy ddangos nid yn unig yr […]
Liz Green – Amddiffyn Traethawd Ymchwil PhD ym Mhrifysgol Maastricht
Ar 6 Medi, llwyddodd Liz Green, Cyfarwyddwr Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), i amddiffyn ei thesis PhD, “Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) fel adnodd i roi Iechyd ym Mhob Polisi ar waith”, ym Mhrifysgol Maastricht ac mae wedi ennill ei Doethuriaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed i HIA fod yn ffocws penodol […]
Adroddiad newydd: Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor […]