Mae iechyd da yn hawl sylfaenol, ond yng Nghymru, mae canlyniadau iechyd yn amrywio’n annheg ar draws cymunedau. Mae’r adroddiad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn atal i helpu pawb i fyw bywydau hirach ac iachach. Mae rhaglenni atal effeithiol yn cynnig gwerth gwych am arian ac yn hanfodol ar gyfer blaenoriaethu cyllid cyhoeddus. Gallant fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gwrthdroi dirywiad iechyd y genedl, a hybu llesiant.
Mae’r adroddiad yn integreiddio canfyddiadau blaenorol ag ymchwil ddiweddar ar raglenni iechyd y cyhoedd gwerth am arian, gan amlygu ymyriadau llwyddiannus ar draws tri cham bywyd: y blynyddoedd cynnar, oedolion iach, a heneiddio’n iach. Mae’n amlygu bod yn rhaid i atal fod yn rhan o strategaeth ehangach i leihau anghydraddoldebau iechyd, gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a lleihau tlodi, gyda gwariant wedi’i dargedu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.