Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg panel trawsadrannol a gwblhawyd ym mis Chwefror 2026 gan 1,656 o bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru. Cwblhawyd yr arolwg gan ddefnyddio Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus (TTPH), panel a redir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd yn fras yn gynrychioliadol o’r boblogaeth i ymgysylltu’n rheolaidd â’r cyhoedd ar amrywiaeth o bynciau iechyd y cyhoedd.
Y pynciau yn yr arolwg hwn oedd:
– Cartrefi oer
– Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol
– Ysmygu ail-law
– Tlodi plant.
Os oes gennych ddiddordeb yn nata’r dadansoddiad demograffig sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn, cysylltwch â [email protected].