Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Deall Sut Mae Anghydraddoldeb Rhywedd yn Dylanwadu ar Iechyd

Mae’r Blog Sbotolau hwn yn archwilio sut mae anghydraddoldeb rhywedd yn dylanwadu ar iechyd menywod ac yn cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, economaidd a strwythurol sy’n dylanwadu ar iechyd, yn arddangos gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Cynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru ac yn gyrru camau gweithredu tuag at Gymru decach ac iachach.

Awduron: Zuwaira Hashim, James Allen+ 1 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis)
Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru

Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.
Mae’r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy’n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy’n gysylltiedig â’r termau hynny. Mae’r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol.
Bydd y tîm yn datblygu’r platfform dros amser er mwyn ychwanegu cynnwys a nodweddion ychwanegol.

Awduron: Rebecca Hill, Jo Peden+ 12 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova, Daniela Stewart, James Allen, Liz Green, Rebecca Masters, Leah Wargent, Sara Cooklin-Urbano, Golibe Ezenwugo, Abigail Malcolm (née Instone), Jason Roberts, Rajendra Kadel

Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu 2022/23

Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu hwn yw’r trydydd yn y gyfres, yn dilyn y Calendrau Cryno o 2020/21 a 2021/22. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, cyfosod a chyflwyno crynodeb clir a chryno o’r pum Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023. Yn ogystal, mae’r ddau adroddiad cryno (a gyhoeddwyd yn 2022) wedi’u cynnwys. Mae’r llif gwaith Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pynciau iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg, sydd wedi ceisio gwella a llywio gweithredoedd a dulliau o’r fath yng Nghymru.

Nod y crynodeb yw llywio trosolwg cryno o weithredu polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, mwy cyfartal, cydnerth, llewyrchus a chyfrifol yn fyd-eang, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalennau synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol.

Mae’r themâu’n cynnwys:
• Gofal canolraddol
• Yr argyfwng costau byw
• Diogelu’r amgylchedd addysgol rhag COVID: 4-18 oed
• Addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar
• Ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechlynnau
• Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol
• Effaith COVID-19 ar ehangu’r bwlch iechyd a bregusrwydd

Awduron: Mariana Dyakova, Emily Clark+ 14 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Abigail Malcolm (née Instone), Golibe Ezenwugo, Leah Wargent, Anna Stielke, Sara Cooklin-Urbano, Lauren Couzens (née Ellis), James Allen, Aimee Challenger, Claire Beynon, Mark Bellis, Mischa Van Eimeren, Angie Kirby, Benjamin Bainham

Deall anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru gan ddefnyddio dull dadgyfansoddi Blinder-Oaxaca

Ar draws Cymru a’r byd, mae anghydraddoldeb iechyd yn parhau’n broblem sydd yn rhyng-gysylltiedig gyda deinameg cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a chymhleth. O ganlyniad, mae angen i weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn iechyd ddigwydd ar lefel strwythurol, gan gydnabod y cyfyngiadau sy’n effeithio ar allu a chyfle unigolyn (neu gymuned) i alluogi newid. Er bod ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd’ yn gysyniad sydd wedi ei sefydlu, mae deall cyfansoddiad y bwlch iechyd yn llawn yn dibynnu ar gipio cyfraniadau perthnasol myrdd o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn dadansoddiad meintiol. Ceisiodd y dadansoddiad dadgyfansoddi esbonio’r gwahaniaethau ym mynychder y canlyniadau hyn mewn grwpiau sydd wedi eu haenu yn ôl eu gallu i arbed o leiaf £10 y mis, a ydynt mewn amddifadedd materol, a phresenoldeb salwch, anabledd neu wendid hirsefydlog sy’n cyfyngu. Fe wnaeth y dadansoddiad nid yn unig feintioli’r bylchau iechyd arwyddocaol oedd yn bodoli yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig COVID-19, ond mae hefyd wedi dangos pa benderfynyddion iechyd oedd mwyaf dylanwadol. Mae deall y ffactorau sydd fwyaf cysylltiedig ag amrywiadau mewn iechyd yn allweddol i nodi ysgogwyr polisi i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant ar draws poblogaethau.

Awduron: James Allen, Andrew Cotter-Roberts+ 4 mwy
, Oliver Darlington, Mariana Dyakova, Rebecca Masters, Luke Munford

Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu Gwneud yr amgylchedd addysgu’n wydn yn erbyn COVID: 4-18 oed

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.

Mewn ffocws: Gwneud yr amgylchedd addysgu’n wydn yn erbyn COVID: 4-18 oed

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 5 mwy
, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Lauren Couzens (née Ellis), Emily Clark

Cost anghydraddoldeb iechyd i’r GIG yng Nghymru

Mae anghydraddoldebau eang mewn iechyd a defnydd o wasanaethau gofal iechyd rhwng pobl sy’n byw mewn cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig yng Nghymru. Gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy gyfuniad o ymgyrchoedd hybu iechyd a pholisïau ymyrraeth gynnar wedi’u targedu at gymunedau difreintiedig arwain at welliant sylweddol mewn iechyd a lles, yn ogystal ag arbedion i GIG Cymru.

Awduron: Rajendra Kadel, James Allen+ 8 mwy
, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Brendan Collins, Joanna M. Charles, Miqdad Asaria, Mariana Dyakova, Mark Bellis, Richard Cookson

Effaith unigrwydd ar iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig COVID 19

Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi bod yn effeithiol wrth leihau lledaeniad COVID-19; fodd bynnag, maent wedi gosod baich sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth. Sefydlodd yr astudiaeth hon gysylltiad rhwng unigrwydd ac iechyd yn gwaethygu yn ystod y pandemig yn cael ei hunan-gofnodi, a nododd ffactorau sy’n cynyddu’r risg o unigrwydd. Dylai’r effaith y mae mesurau rheoli cymdeithasol yn ei gael ar unigrwydd ddylanwadu ar ddylunio polisi iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.

Awduron: James Allen, Oliver Darlington+ 2 mwy
, Karen Hughes, Mark Bellis

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol Yr Argyfwng Costau Byw

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Yr argyfwng costau byw

Awduron: Emily Clark, Anna Stielke+ 3 mwy
, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Mariana Dyakova

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd yng Nghymru: Papur trafod dadansoddiad dadelfennu

Nod y papur trafod yw helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’n rhoi cipolwg ar yr anghydraddoldebau iechyd a brofwyd gan grwpiau gwahanol o’r boblogaeth yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig Coronafeirws (COVID-19), gan ddefnyddio methodoleg ystadegol arloesol, ‘Dadansoddi dadgyfansoddiad’.

Mae’r papur yn ceisio meintioli’r bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi dealltwriaeth well o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau ffyniannus i bawb, gan ddefnyddio fframwaith newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n defnyddio tri mesur iechyd hunangofnodedig: 1) mynychder iechyd gweddol/gwael; 2) mynychder lles meddwl isel; a 3) mynychder bodlonrwydd bywyd isel, gan gymharu’r rhain rhwng:
• Y rheiny sydd yn gallu gwneud arbediad o £10/mis o leiaf a’r rheiny nad ydynt yn gallu gwneud hynny;
• Y rheiny sydd yn nodi amddifadedd materol a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny; a
• Y rheiny sydd yn nodi salwch, anabledd neu eiddilwch cyfyngus hirdymor a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny.

Mae’r dadansoddiad wedi creu mewnwelediad i ysgogwyr annhegwch iechyd, gan nodi’r rheiny sy’n cyfrannu fwyaf, sef ‘Cyfalaf Cymdeithasol a Dynol’ a ‘Diogelwch Incwm ac Amddiffyniad Cymdeithasol’; tra bod ‘Gwasanaethau Iechyd’ wedi rhoi cyfrif am y lleiaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau systematig yn gallu esbonio llai na hanner (<50%) y bylchau iechyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd, yn seiliedig ar y modelau ystadegol.

Mae’r papur yn amlygu’r angen am fasged o benderfyniadau polisi a buddsoddi, gan flaenoriaethu prif ysgogwyr annhegwch iechyd, mewn cytundeb ar draws sectorau. Mae archwilio ac ymgysylltu pellach gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, grwpiau a chymunedau perthnasol yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r bwlch tegwch iechyd a’i ysgogwyr.

Mae’n gobeithio llywio’r rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol canlynol:
• Gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol
• Gwneuthurwyr polisïau a deiliaid cyllidebau ar lefelau cenedlaethol a lleol
• Ystadegwyr, gwyddonwyr iechyd a dadansoddwyr data
• Pawb sydd â rôl yn dylanwadu ar y bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt

Awduron: James Allen, Mariana Dyakova+ 4 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Oliver Darlington, Rebecca Masters, Mark Bellis

Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu er mwyn Llywio Ymateb ac Adferiad Iechyd Cyhoeddus COVID-19 Cymru Calendr Cryno DIWEDDARIAD Ebrill 2020 – Mawrth 2021

Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu: calendr Cryno DIWEDDARIAD
Mae’r Calendr Cryno Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu hwn yn ddiweddariad o’r Calendr Cryno blaenorol sydd i’w weld yma a fu’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, syntheseiddio a chyflwyno crynodeb clir a chryno o Adroddiadau Sganio’r Gorwel Rhyngwladol COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, ers mis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022. Mae ffrwd waith Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu wedi’i brofi i arddangos ymchwil llawn gwybodaeth ac effaith wrth gywain data o wledydd eraill ac wedi darparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur ac ansicrwydd y pandemig COVID-19 esblygol, gan geisio gwella a chyfeirio’r fath gamau gweithredu ac ymagweddau yng Nghymru. Nod y crynodeb yw cyfeirio trosolwg cryno o gamau polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi ac yn parhau i gefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, fwy cyfartal, gwydn, ffyniannus a chyfrifol yn fyd-eang. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalen synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio’r Gorwel Rhyngwladol.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 7 mwy
, Claire Beynon, Anna Stielke, James Allen, Abigail Malcolm (née Instone), Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: gofal canolraddol

Cychwynnwyd y ffrwd waith Dysgu a Sganio Gorwel Rhyngwladol fel cynnyrch ac i lywio’r ymateb iechyd cyhoeddus a chynlluniau adfer esblygol COVID-19 yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd cyhoeddus â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd, iechyd y cyhoedd. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ofal canolraddol.

Defnyddiwyd yr adroddiadau hyn yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 er mwyn llywio ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly maen nhw ar gael yn Saesneg yn unig.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 4 mwy
, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Emily Clark

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno ar Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl

Mae pandemig COVID-19 wedi gosod heriau i gymdeithasau, systemau iechyd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled y byd ac wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd a llesiant hirdymor. Effeithiwyd yn negyddol ar iechyd meddwl ar draws grwpiau o bob oed gan waethygu anghydraddoldebau iechyd presennol.
Mae’r adroddiad hwn yn adolygu ac yn crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol o adroddiadau Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol ar effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 ar iechyd meddwl, gwasanaethau iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 7 mwy
, Claire Beynon, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol – Adroddiad Cryno Ar effaith COVID-19 ar gynyddu’r Bwlch Iechyd a Bod yn Agored i Niwed

Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth ryngwladol o’r adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol ar effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 yn cynyddu’r bwlch iechyd. Mae’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau a grwpiau agored i niwed i ddeall a mynd i’r afael yn well â dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy’n deillio o’r pandemig.
Mae pandemig COVID-19 wedi achosi heriau digynsail i boblogaethau, systemau iechyd a llywodraethau ledled y byd sydd wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd parhaus. Mae anghydraddoldebau iechyd wedi gwaethygu, gyda lefelau heintiad, mynd i’r ysbyty a marwolaethau o COVID-19 yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau poblogaeth. At hynny, mae rhai grwpiau hefyd wedi profi effeithiau anuniongyrchol anghyfartal sy’n deillio o’r pandemig a’r mesurau a gymerwyd i’w atal. Ymhlith y ffactorau sylfaenol sy’n cyfrannu at effaith anghyfartal y pandemig COVID-19 mae lefel amddifadedd, addysg, statws iechyd ac adnoddau ariannol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt.

Awduron: Mariana Dyakova, Claire Beynon+ 9 mwy
, Mark Bellis, Anna Stielke, Abigail Malcolm (née Instone), James Allen, Andrew Cotter-Roberts, Mischa Van Eimeren, Benjamin Bainham, Angie Kirby, Lauren Couzens (née Ellis)

Cost Anghydraddoldeb Iechyd i GIG Cymru. Adroddiad 1: Cost sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb wrth ddefnyddio gwasanaeth ysbyty

Nod yr adroddiad hwn yw amcangyfrif y gost ariannol sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn y defnydd o wasanaethau ysbyty i’r GIG yng Nghymru er mwyn helpu i lywio penderfyniadau a blaenoriaethu adnoddau tuag at atal ac ymyrryd yn gynnar drwy lens tegwch, gan gyfrannu at adferiad COVID-19 cynaliadwy a chynhwysol.
Mae dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyd-fynd â’r adroddiad, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio’n fanwl y costau sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb yn ôl categori gwasanaeth, rhyw, oedran a lefel amddifadedd.
Noder, mae’r dangosfwrdd wedi’i optimeiddio i’w ddefnyddio ar ddyfeisiau bwrdd gwaith.

Awduron: Rajendra Kadel, Oliver Darlington+ 5 mwy
, James Allen, Benjamin Bainham, Rebecca Masters, Mariana Dyakova, Mark Bellis

Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu er mwyn Llywio Ymateb ac Adferiad Iechyd Cyhoeddus COVID-19 Cymru – Calendr Cryno

Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, syntheseiddio a chyflwyno crynodeb clir a chryno o Adroddiadau Sganio’r Gorwel Rhyngwladol COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2020 hyd at Fawrth 2021. Mae’r llif gwaith Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data
o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pandemig COVID-19.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 6 mwy
, Claire Beynon, Charlotte Bowles, Anna Stielke, James Allen, Abigail Malcolm (née Instone), Lauren Couzens (née Ellis)

Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru – WHESRi

Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio a chefnogi ymateb ac adferiad cynaliadwy o Coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru, gan roi tegwch iechyd wrth ei wraidd.
Mae’n atgyfnerthu ein dealltwriaeth o ba mor gyd-ddibynnol yw llesiant unigol a chymdeithasol, a’r economi ehangach, tuag at sicrhau ffyniant i bawb. Mae’r adroddiad hefyd yn cyfrannu at gryfhau rôl arweiniol.

Awduron: Mariana Dyakova, Lauren Couzens (née Ellis)+ 10 mwy
, James Allen, Mischa Van Eimeren, Anna Stielke, Andrew Cotter-Roberts, Rajendra Kadel, Benjamin Bainham, Kathryn Ashton, Daniela Stewart, Karen Hughes, Mark Bellis