Hyfforddiant Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i ymarferwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru: deall y ddarpariaeth bresennol a’r bylchau

Mae’r adroddiad yn archwilio’r hyfforddiant sydd ar gael yn ymwneud â thrawma ac anghenion ymarferwyr Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru. Daw dysgwyr ESOL o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches a brofodd drawma cymhleth. Mae’n hanfodol bod darparwyr ESOL yn derbyn hyfforddiant i gynnig cefnogaeth gwerthfawr i’r dysgwyr hynny. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o gyfweliadau gydag ymarferwyr ESOL ledled Cymru, gan archwilio eu profiadau o hyfforddiant a nodi anghenion hyfforddi ychwanegol. Bydd argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynyddu’r ddarpariaeth hyfforddiant sy’n seiliedig ar drawma yng Nghymru. Mae’r adroddiad wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferwyr ESOL a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn dulliau addysgu sy’n seiliedig ar drawma.

Awduron: Natasha Judd, Kat Ford+ 3 mwy
, Katie Cresswell, Rebecca Fellows, Karen Hughes

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn yr ysgol: astudiaeth drawstoriadol ôl-weithredol sy’n archwilio eu cysylltiadau ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd ac iechyd meddwl

Archwiliodd yr astudiaeth hon y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), profiadau yn yr ysgol a deilliannau iechyd mewn oedolaeth mewn sampl o boblogaeth gyffredinol oedolion Cymru. Canfu fod ACEs a phrofiadau negyddol yn yr ysgol (yn sgil cael eu bwlio ac ymdeimlad is o berthyn i’r ysgol) yn cael eu cysylltu’n annibynnol ag iechyd meddwl gwaeth mewn oedolaeth. Roedd profi ACEs a chael profiadau negyddol yn yr ysgol yn gwaethygu’r risg o iechyd meddwl gwaeth. Mae’r astudiaeth yn nodi’r rôl amddiffynnol y gall ysgolion ei chwarae wrth feithrin gwydnwch ymhlith plant sy’n profi adfyd yn eu cartrefi.

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 5 mwy
, Kat Ford, Catherine Sharp, Joanne C. Hopkins, Rebecca Hill, Katie Cresswell

Archwilio’r berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw gan ddefnyddio arolwg trawsadrannol cenedlaethol yng Nghymru, y DU

Mae (ACEs) yn ystod Plentyndod yn brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel cam-drin plant a dod i gysylltiad ag anawsterau yn y cartref a thrais domestig, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl ac aelodau o’r teulu yn y carchar. Dadansoddodd yr astudiaeth ddata a gasglwyd gan 1,880 o oedolion sy’n byw ledled Cymru. Canfu fod y rhai a adroddodd am fwy nag un Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod niferus yn llawer mwy tebygol o ganfod na fyddent yn gallu ymdopi’n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw, yn annibynnol ar ffactorau gan gynnwys lefel incwm y cartref, statws cyflogaeth ac amddifadedd preswyl.

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 4 mwy
, Katie Cresswell, Rebecca Hill, Kat Ford, Joanne C. Hopkins

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymgysylltiad â gwasanaethau gofal iechyd: Canfyddiadau o arolwg o oedolion yng Nghymru a Lloeger

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth ond nid yw eu cysylltiad ag ymgysylltu â gofal iechyd wedi’i archwilio’n ddigonol o hyd, yn enwedig yn y DU. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg ar-lein gydag oedolion sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, a ddatblygwyd i archwilio’r cysylltiad rhwng ACEs ac ymgysylltu â gofal iechyd, gan gynnwys bod yn gyfforddus o ran defnyddio gwasanaethau gofal iechyd.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 3 mwy
, Katie Cresswell, Rebekah Amos, Mark Bellis

Costau byw cynyddol ac iechyd a llesiant yng Nghymru: arolwg cenedlaethol

Mae cartrefi ledled Cymru a ledled y byd yn profi cynnydd mewn costau byw. Ers diwedd 2021,mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer eitemau sylfaenol fel bwyd ac ynni wedi bod yn fwy na’r cynnydd mewn cyflogau cyfartalog a thaliadau lles, gan arwain at ostyngiad mewn incwm gwario gwirioneddola. O ganlyniad, mae pwysau cynyddol ar gyllidebau cartrefi yn ei gwneud yn anoddach i bobl fforddio’r pethau sylfaenol a chyfeirir ato’n aml fel ‘argyfwng costau byw’. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a ddatblygwyd i ddeall sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd yng Nghymru; eu hymagweddau a’u penderfyniadau yn ymwneud â chostau byw cynyddol; a’u hymwybyddiaeth o gymorth a chynlluniau ariannol a mynediad iddynt.

Awduron: Rebecca Hill, Karen Hughes+ 3 mwy
, Katie Cresswell, Kat Ford, Mark Bellis

ACEtimation – Effaith Gyfunol Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar Drais, Ymddygiad sy’n Niweidio Iechyd, a Salwch Meddwl: Canfyddiadau ledled Cymru a Lloegr

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cwmpasu gwahanol fathau o brofiadau poenus, e.e. cam-drin corfforol a/neu emosiynol. Gall deall effeithiau gwahanol fathau o ACEs ar wahanol ganlyniadau iechyd arwain gwaith atal ac ymyrraeth wedi’i dargedu. Gwnaethom amcangyfrif y cysylltiad rhwng y tri chategori o ACEs ar eu pen eu hunain a phan oeddent yn cyd-ddigwydd. Yn benodol, y berthynas rhwng cam-drin plant, bod yn dyst i drais, a thrafferthion yn y cartref a’r risg o fod ynghlwm â thrais, cymryd rhan mewn ymddygiad sy’n niweidio iechyd, a phrofi salwch meddwl.

Awduron: Rebekah Amos, Katie Cresswell+ 2 mwy
, Karen Hughes, Mark Bellis

A yw Brexit wedi newid darganfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru?

Mae’r papur briffio hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y cymerodd y DU a Chymru ran ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Yna bydd yn archwilio sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a pha effaith bosibl y gallant ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.

Awduron: Katie Cresswell, Louisa Petchey+ 1 mwy
, Leah Silva

Cymharu perthnasoedd rhwng mathau unigol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau sy’n gysylltiedig ag iechyd mewn bywyd: astudiaeth data sylfaenol gyfunol o wyth arolwg

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn dangos cysylltiadau cronnol cryf ag afiechyd mewn bywyd. Gall niwed ddod i’r amlwg hyd yn oed yn y rhai sy’n dod i gysylltiad ag un math o ACE ond ychydig o astudiaethau sy’n archwilio cysylltiad o’r fath. Ar gyfer unigolion sy’n profi un math o ACE, rydym yn archwilio pa ACE sydd â’r cysylltiad cryfaf â’r gwahanol brofiadau sy’n achosi niwed i iechyd.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 2 mwy
, Katie Cresswell, Kat Ford

Cysylltiadau rhwng Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Phrofiad Oes o Ddamweiniau Ceir a Llosgiadau: Astudiaeth Drawsdoriadol

Gan ddefnyddio sampl o boblogaeth gyffredinol y DU, mae’r astudiaeth hon wedi nodi perthnasoedd rhwng dod i gysylltiad ag ACEs a phrofiad oes o ddamweiniau ceir a llosgiadau; dau brif farciwr o anafiadau anfwriadol. Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen am ymyriadau effeithiol i atal ACEs a lleihau eu heffeithiau ar iechyd a llesiant. Gall dealltwriaeth well o’r berthynas rhwng ACEs ac anafiadau anfwriadol, a’r mecanweithiau sy’n cysylltu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod â risgiau anafiadau, fod o fudd i ddatblygu dulliau amlochrog o atal anafiadau.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 3 mwy
, Katie Cresswell, Nel Griffith, Mark Bellis

A yw Brexit wedi newid sut mae Cymru’n cymryd rhan mewn atal, parodrwydd ac ymateb byd-eang o ran clefydau heintus?

Mae pandemig COVID-19 wedi gwthio clefydau heintus i frig agendâu llywodraethau ledled y byd. Ar yr un pryd, mae Brexit wedi dylanwadu ar sut mae’r Deyrnas Unedig a Chymru’n cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.
Mae llinellau amser ar gyfer Brexit a phandemig COVID-19 wedi gorgyffwrdd, roedd trefniadau ar gyfer y cyfnod wedi Brexit yn dal i gael eu datblygu. Yr argyfwng iechyd y cyhoedd rhyngwladol nesaf fydd yn profi’r systemau newydd yng Nghymru/y DU.
Dangoswyd bod gan Brexit y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru felly dylid eu ystyried yng nghyd-destun atal a pharodrwydd ar gyfer ymatebion i glefydau heintus.
Mae’r briff yn archwilio effaith ymadawiad y DU o’r UE ar pherthynas a’i phrosesau rhyngwladol ar gyfer ymdrin â clefydau heintus yn y dyfodol.

Awduron: Katie Cresswell, Louisa Petchey

Beth allai cytundebau masnach ar ôl Brexit ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Mae’r briff hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a swyddogion sy’n gweithio ar bolisi iechyd y cyhoedd sydd â diddordeb mewn sut y gall Brexit a hytundebau masnach effeithio ar eu gwaith, ac i swyddogion y DU a Chymru sy’n gweithio ym maes polisi masnach godi ymwybyddiaeth o berthnasedd masnach i iechyd a llesiant pobl Cymru.

Awduron: Louisa Petchey, Katie Cresswell