Gwerthusiad Uned Atal Trais Cymru yn Rhannu’r Gwersi ar Gefnogi Partneriaethau Atal Trais

Mae gwerthusiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn archwilio’r dull system gyfan Uned Atal Trais Cymru o atal trais, sy’n darparu gwersi allweddol ac ystyriaethau ar gyfer datblygu partneriaethau atal trais lleol.

Wedi’i gynnal gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, mae’r gwerthusiad yn darparu gwersi pwysig ar sut i roi gweithgarwch atal trais ar waith yn lleol er mwyn diwallu anghenion lleol wrth adeiladu strwythurau sy’n galluogi’r gwaith hwn i ddylanwadu ar y system ehangach.

Mae’r gwerthusiad yn cynnwys dwy ran, gydag un gwerthusiad yn canolbwyntio ar y dull system gyfan yn Abertawe, ac un yng Nghaerdydd, sy’n gyfanswm o bedwar adroddiad llawn. Er mwyn cefnogi partneriaid i dynnu o’r gwerthusiadau hyn, gwnaeth yr Uned Atal Trais grynhoi’r prif ganfyddiadau ac argymhellion mewn un adroddiad crynhoi.

Awduron: Ellie McCoy, Chloe Smith+ 5 mwy
, Rebecca Harrison, Alice-Booth Rosamond, Hannah Timpson, Zara Quigg, Alex Walker

Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais

Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio’r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.

Fel rhan o’r broses o roi Fframwaith Cymru Heb Drais ar waith, bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i ddatblygu er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth hygyrch er mwyn deall, cefnogi a chynnal asesiad beirniadol o’r rhan y gall rhaglenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi dynion a bechgyn ei chwarae wrth atal trais. Ar hyn o bryd, mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dau adroddiad a ffeithlun:

-“Rydych chi wedi rhoi’r hyder i mi herio’r ffordd y mae bechgyn yn trin merched” Canfyddiadau Allweddol o Brosiectau ‘Profi a Dysgu’ yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau o grwpiau ffocws a gynhaliwyd fel rhan o brosiectau Profi a Dysgu Plan International UK. Yn bennaf, mae’n archwilio tystiolaeth o ymarfer ac o lenyddiaeth sy’n ymdrin â’r ffactorau galluogi a’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â dynion a bechgyn wrth atal trais.

-Buddsoddi mewn cynghreiriaid a chenhadon – ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais: Adolygiad o Raglenni yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhaglenni yng Nghymru sy’n anelu at ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais. Nodwyd y rhaglenni hyn gan weithwyr proffesiynol fel rhan o arolwg, ac mae’r adroddiad hwn yn darparu ystyriaethau i ymarferwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chomisiynwyr mewn perthynas â datblygu prosiectau, gan gynnwys gwerthuso, a rhoi prosiectau ar waith.

-Ffeithlunsy’n nodi’r ystyriaethau allweddol sy’n deillio o’r ddau adroddiad wrth gynllunio a gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.

Cliciwch yma i edrych ar y Pecyn Cymorth: https://cymruhebdrais.com/adnoddau

Awduron: Alex Walker, Lara Snowdon+ 4 mwy
, Shauna Pike, Bryony Parry, Emma Barton, Anne-Marie Lawrence

Atal trais rhywiol yn economi’r nos: Annog dynion i fod yn wylwyr gweithredol

Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy’n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu’n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu’r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.

Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .

Mae’r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o’r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau’r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.

Awduron: Alex Walker, Bryony Parry+ 2 mwy
, Emma Barton, Lara Snowdon

Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc

Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc yn dwyn ynghyd y cyfraniadau hyn, sy’n rhoi cipolwg anghyffredin ar y materion sy’n cael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â’u blaenoriaethau er mwyn atal trais.

Dylid darllen yr adroddiad ar y cyd â Fframwaith Cymru Ddi-drais

Awduron: Alex Walker

Cymru Heb Drais: Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.

Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.

Awduron: Alex Walker, Bryony Parry+ 2 mwy
, Emma Barton, Lara Snowdon

Ymchwiliad i’r derminoleg a’r dulliau wedi’u llywio gan drawma sy’n cael eu defnyddio gan brosiectau, rhaglenni ac ymyriadau arwyddocaol yng Nghymru

Mae cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol o bwysigrwydd gweithio mewn ffordd wedi’i llywio gan drawma wrth ryngweithio ag eraill, a datganiadau cyhoeddus i’r perwyl hwnnw gan wasanaethau a sefydliadau yng Nghymru. Mae Hyb Cymorth ACE yn gweithio gyda Straen Trawmatig Cymru i ddatblygu “Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Cenedlaethol i Ymateb i Drawma”. Fel rhan o’r fframwaith hwn, ac yn unol â’r argymhelliad gan Lywodraeth Cymru, mae’r Hyb Cymorth ACE wedi nodi angen i ddeall yn well y defnydd o derminoleg wedi’i llywio gan drawma, gyda’r diffiniadau’n cael eu priodoli i’r derminoleg a’r dulliau sy’n cael eu gweithredu ar draws rhaglenni, prosiectau ac ymyriadau (PPIs) yng Nghymru.

Awduron: Alex Walker, Vicky Jones+ 1 mwy
, Joanne C. Hopkins