Mae’r naratif arloesi cymdeithasol hwn yn cyflwyno sut y cydweithiodd y Tîm Atal Trais a’r Uned Gwyddor Ymddygiad ar ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais (2023). Drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad—ac yn benodol y model COM-B—bu’r Tîm Atal Trais yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau i archwilio’r hyn sy’n cefnogi ac yn dylanwadu ar eu gallu i wreiddio naw egwyddor atal trais y fframwaith mewn ymarfer bob dydd.
Mae’r erthygl yn amlinellu mewnwelediadau allweddol i’r ymddygiadau, y rhwystrau a’r hwyluswyr a nodwyd gan ymarferwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at sut y gall deall galluogrwydd, cyfle a chymhelliant gryfhau mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd ar draws sectorau. Mae hefyd yn myfyrio ar sut y gwnaeth y broses hon helpu’r Tîm Atal Trais i egluro ei rôl yng nghyd-destun y dirwedd atal ehangach yng Nghymru, gan gefnogi cydlynu a defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol.
Awduron: Bryony Parry, Lara Snowdon+ 5 mwy
, Emma Barton, Alex Walker, Joanne C. Hopkins, Alice Cline, Nicky Knowles
Mae’r erthygl hon yn archwilio sut y gellir cefnogi dynion yn effeithiol i ymyrryd fel gwyliedyddion rhag-gymdeithasol mewn digwyddiadau o aflonyddu rhywiol yn economi nos de Cymru. Gan ddefnyddio cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda dynion 18–54 oed, datblygodd yr ymchwil bum “persona” ymddygiadol sy’n cipio’r amrywiol safbwyntiau seicolegol sy’n dylanwadu ar benderfyniadau i gamu i mewn.
Drwy’r model COM-B, mae’r astudiaeth yn nodi rhwystrau cyffredin—yn enwedig gwybodaeth gyfyngedig am dechnegau diogel o ymyrryd ac ansicrwydd ynghylch goblygiadau cyfreithiol—yn ogystal â ffactorau cymhellol a chyd-destunol pwysig. Mae’r dull sy’n seiliedig ar bersonâu yn dangos na ellir trin dynion fel un gynulleidfa; yn lle hynny, mae angen strategaethau wedi’u teilwra i ddiwallu gwahanol anghenion cymorth.
Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio’r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.
Fel rhan o’r broses o roi Fframwaith Cymru Heb Drais ar waith, bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i ddatblygu er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth hygyrch er mwyn deall, cefnogi a chynnal asesiad beirniadol o’r rhan y gall rhaglenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi dynion a bechgyn ei chwarae wrth atal trais. Ar hyn o bryd, mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dau adroddiad a ffeithlun:
-“Rydych chi wedi rhoi’r hyder i mi herio’r ffordd y mae bechgyn yn trin merched” Canfyddiadau Allweddol o Brosiectau ‘Profi a Dysgu’ yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau o grwpiau ffocws a gynhaliwyd fel rhan o brosiectau Profi a Dysgu Plan International UK. Yn bennaf, mae’n archwilio tystiolaeth o ymarfer ac o lenyddiaeth sy’n ymdrin â’r ffactorau galluogi a’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â dynion a bechgyn wrth atal trais.
-Buddsoddi mewn cynghreiriaid a chenhadon – ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais: Adolygiad o Raglenni yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhaglenni yng Nghymru sy’n anelu at ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais. Nodwyd y rhaglenni hyn gan weithwyr proffesiynol fel rhan o arolwg, ac mae’r adroddiad hwn yn darparu ystyriaethau i ymarferwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chomisiynwyr mewn perthynas â datblygu prosiectau, gan gynnwys gwerthuso, a rhoi prosiectau ar waith.
-Ffeithlunsy’n nodi’r ystyriaethau allweddol sy’n deillio o’r ddau adroddiad wrth gynllunio a gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.
Cliciwch yma i edrych ar y Pecyn Cymorth: https://cymruhebdrais.com/adnoddau
Awduron: Alex Walker, Lara Snowdon+ 4 mwy
, Shauna Pike, Bryony Parry, Emma Barton, Anne-Marie Lawrence
Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy’n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu’n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu’r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.
Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .
Mae’r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o’r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau’r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.
Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.
Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.
Datblygodd Uned Atal Trais Cymru ymgyrch atal trais, #DiogelDweud, mewn cydweithrediad ag Ymgyrch Good Night Out a gyda chefnogaeth gan Cymorth i Ferched Cymru. Nod yr ymgyrch oedd atal achosion o aflonyddu rhywiol a thrais yn yr economi liw nos wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio yng Nghymru.
Mae’r gwerthusiad hwn yn adrodd ar Gam Un yr ymgyrch, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Dangosodd y gwerthusiad, ar y cyfan, bod yr ymgyrch wedi bodloni ei bedwar amcan drwy annog tystion i ymddwyn mewn modd cymdeithasol gadarnhaol wrth ymateb i aflonyddu rhywiol yn yr economi liw nos.
Mae’r astudiaeth hon, a gyflawnwyd gan Uned Atal Trais Cymru (VPU) a Phrifysgol Caerwysg, yn archwilio profiadau ac ymddygiad rhai sy’n sefyll gerllaw trais a cham-drin domestig yn ystod y pandemig COVID-19.
Awduron: Alex Walker, Rachel A Fenton+ 5 mwy
, Lara Snowdon, Bryony Parry, Emma Barton, Catherine Donovan, Mark Bellis
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a/neu gael mynediad at wybodaeth. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn ein galluogi i brosesu data megis ymddygiad pori neu IDau unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl gael effaith andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.