Cyfres Dan Sbotolau: Sbotolau ar Ynys Môn a Sbotolau ar Home Start Cymru

Mae’r astudiaethau achos hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda sefydliadau a phobl ledled Cymru sy’n arwain mentrau ar lefel gymunedol sydd eisoes yn cyfrannu at y weledigaeth i Gymru ddod yn genedl sy’n ystyriol o drawma drwy weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar drawma. Pwrpas yr adroddiadau hyn yw taflu goleuni ar y dulliau presennol o weithredu, dathlu eu gwaith a pharhau i lywio a chefnogi’r gwaith o weithredu Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a datblygu ymhellach ein pecyn cymorth sefydliadol ar sail Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE).  

Mae Sbotolau ar Ynys Môn yn archwilio taith Ynys Môn i ddod yn ynys sy’n ystyriol o drawma.   Mae taith Ynys Môn i fod yn ynys sy’n ystyriol o drawma ar ddull sy’n seiliedig ar gryfderau sy’n creu amgylchedd seicogymdeithasol cadarnhaol a lefel uchel o wydnwch cymunedol.   

Mae Sbotolau ar Home Start Cymru yn arddangos eu gwaith gwych gyda theuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, a sut y gall ymarfer sy’n ystyriol o drawma newid bywydau pobl trwy ymddiriedaeth a chefnogaeth ar y cyd.  Mae eu hymagwedd sefydliadol sy’n ystyriol o drawma yn  ddull systemau cyfan sy’n seiliedig ar gryfderau sydd hefyd yn cefnogi eu gweithlu a’u gwirfoddolwyr drwy gydnabod eu hiechyd meddwl a’u llesiant.  

Awduron: Huw Williams, Joanne C. Hopkins+ 1 mwy
, Samia Addis

Aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus: Adolygiad o’r Llenyddiaeth

Nod yr adolygiad hwn yw cydgrynhoi a gwella’r sylfaen dystiolaeth ar atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus, er mwyn deall y cyffredinrwydd, yr achosion ac ymyriadau effeithiol. Bydd yn llywio blaenoriaeth ffrwd waith y Glasbrint yn uniongyrchol: Aflonyddu ar sail Rhywedd ym mhob Man Cyhoeddus. Mae’r dull Glasbrint wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru.

Awduron: Samia Addis, Huw Williams+ 1 mwy
, Morgan Savoury

Beth Sy’n Gweithio gydag Atal ac Ymyrraeth Gynnar o ran ACEs ar Lefel Gymunedol? Nodi a Chefnogi Prosiectau ledled Cymru

Dangosodd ymchwil flaenorol a wnaed gan Hyb ACE Cymru fod prosiectau cymunedol ledled Cymru yn darparu cymorth i aelodau’r gymuned mewn perthynas ag ystod o adfydau. Gan adeiladu ar yr ymchwil hwn, nod y prosiect hwn yw nodi a mapio prosiectau cymunedol pellach; deall y dulliau mwyaf effeithiol o gefnogi’r prosiectau hyn yn ogystal â’r rhwystrau i ymgysylltu; ac yn olaf i archwilio effaith gwasanaethau ar grwpiau cymunedol.

Awduron: Samia Addis, Joanne C. Hopkins

Beth sy’n Gweithio o ran Atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) ar Lefel Gymunedol? Adolygiad o Dystiolaeth ac Ymarfer Mapio

Mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau dirdynnol sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n gwneud niwed uniongyrchol i blentyn (er enghraifft, camdriniaeth) neu sy’n effeithio arno drwy’r amgylchedd y mae’n byw ynddo (er enghraifft dod i gysylltiad â thrais domestig). Nod y prosiect hwn yw nodi ymyriadau effeithiol ar lefel gymunedol sy’n ymwneud ag atal ACEs a nodi mentrau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru.

Awduron: Samia Addis, Troy Wey+ 2 mwy
, Ellie Toll, Joanne C. Hopkins

‘Wedi’i Lywio gan Drawma’: Adnabod Iaith a Therminoleg Allweddol trwy Adolygiad o’r Llenyddiaeth

Er bod y cysylltiad rhwng digwyddiadau trawmatig a chanlyniadau iechyd gwael yn cael ei gofnodi’n gyson, mae terminoleg a chydrannau dulliau ac arferion sy’n gysylltiedig â thrawma a astudiwyd gan ymchwilwyr ac a ddefnyddir gan ymarferwyr wedi’u cyflwyno’n llai clir a chyson. Nod yr astudiaeth hon yw archwilio’r derminoleg a’r iaith a ddefnyddir mewn perthynas â’r cysyniad o wedi’i lywio gan drawma.

Awduron: Samia Addis, Tegan Brierley-Sollis+ 2 mwy
, Vicky Jones, Caroline Hughes