Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Chwefror 2024 Canfyddiadau Arolwg Panel, gan gynnwys sampl hwb rhieni

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Gofynnwyd i drigolion yng Nghymru am eu barn ar ystod o bynciau iechyd y cyhoedd. Roedd yr arolwg yn canolbwyntio ar bynciau’n ymwneud ag iechyd a llesiant plant, gan gynnwys cwestiynau sy’n berthnasol yn benodol i rieni. Er mwyn gwella cyfranogiad rhieni yn yr arolwg, recriwtiwyd sampl ychwanegol o rieni gymryd rhan yn yr arolwg yn ogystal â sampl arferol o’r boblogaeth gyffredinol. Canolbwyntiodd arolwg mis Chwefror ar y chwe phwnc a ganlyn: anghenion gwybodaeth magu plant, canfyddiadau o fwydo ar y fron, rôl lleoliadau addysg mewn iechyd plant, strategaethau ymddygiad plant, llesiant meddwl, a defnyddio technoleg gyda’r teulu a ffrindiau.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 2 mwy
, Lewis Brace, Emily Simms

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Rhagfyr 2023 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Rhagfyr2023 sy’n cwmpasu: Brechlynnau ffliw a COVID-19 Brechu a beichiogrwydd,Gwasanaeth 111 GIG Cymru, a Chlystyrau Gofal Sylfaenol.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 mwy
, Lewis Brace

Gwneud y mwyaf o iechyd a llesiant i bobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol: Canllaw i ddefnyddio’r Ddyletswydd Economaidd- Gymdeithasol mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru.

Mae cyflawni Cymru Fwy Cyfartal yn un o’r saith nod a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf yn rhoi’r pum ffordd o weithio i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru a fydd yn ein cefnogi i wneud gwell penderfyniadau heddiw ar gyfer Cymru Fwy Cyfartal yfory. Daeth Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol Llywodraeth Cymru i rym yn 2021 a’i nod yw sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Nod y Canllaw hwn yw helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gymhwyso’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol fel y gall weithredu fel ysgogiad pwerus i wella canlyniadau iechyd i bobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae gan gyrff cyhoeddus gyfle i ymgorffori’r Ddyletswydd yn eu systemau a’u dulliau gweithredu er mwyn sicrhau bod y Ddyletswydd yn gwneud gwahaniaeth systematig ac nad ymarfer ticio blychau yn unig mohono.
Mae animeiddiad cysylltiedig hefyd ar gael trwy’r dolenni isod.

Awduron: Sara Elias, Lewis Brace+ 1 mwy
, Jo Peden

Atal digartrefedd mewn unigolion sydd â phrofiad o ofal

Mae nifer a chyfradd y plant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae unigolion sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na phobl ifanc eraill.
Mae modelau ymarfer amrywiol i gefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal gyda’r nod o atal digartrefedd. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi a dadansoddi modelau ymateb Cymru, y Deyrnas Unedig (DU) a rhai rhyngwladol mewn perthynas ag unigolion â phrofiad o ofal (16- 25 oed) ac atal digartrefedd, a nodi arfer addawol yn y maes hwn a meysydd pellach ar gyfer gwelliant.
Ceisiodd yr astudiaeth dulliau cymysg newydd hon roi llais I bobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol a phrofiad byw unigolion sydd â phrofiad o ofal, ac yn rhoi awgrymiadau gan ddarparwyr gwasanaethau ar fodelau gofal newydd a’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith.
Bydd o ddiddordeb i lunwyr polisi, ymarferwyr tai ac ymarferwyr gofal cymdeithasol fel ei gilydd.

Awduron: Claire Beynon, Laura Morgan+ 5 mwy
, Laura Evans, Oliver Darlington, Louise Woodfine, Lewis Brace, Manon Roberts