Mae'r clawr blaen yn cynnwys teitl y adroddiad a ffotograff o dirwedd Cymreig gyda draenen a mynyddoedd

Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau 2025

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) i gefnogi bioamrywiaeth dros y tair blynedd diwethaf. Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ‘geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau’ gan sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried mewn cynllunio busnes, polisïau, cynlluniau a phrosiectau.

Mae’n ofynnol i awdurdodau adrodd ar gynnydd bob tair blynedd. Mae ICC wedi cyhoeddi adroddiadau yn 2019 a 2022, ac mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed rhwng 2023 a 2025.

Awduron: Helen Bradley, Eurgain Powell

Hyrwyddo Byd Natur er budd Dyfodol Iach – Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru 2024 – 2027

Mae’r adroddiad yn nodi sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau. Fel rhan o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, adran 6, mae gennym ddyletswydd i gyhoeddi cynllun ac adrodd ar ein cynnydd. Mae ein gwaith i gefnogi bioamrywiaeth yn cyfrannu at nod llesiant sef ‘Cymru gydnerth’ yn ogystal â’n blaenoriaethau strategol eraill. Er bod y cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud, mae hefyd yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth ar draws y system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru a chyda chydweithwyr mewn sectorau eraill.

Mae’r adroddiad yn cwmpasu:
• Pwysigrwydd bioamrywiaeth i iechyd a llesiant a’r heriau a gyflwynir gan yr argyfwng natur presennol
• Crynodeb o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth diwethaf yn 2019
• Amlinelliad o sut y datblygwyd y cynllun newydd
• Y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y 3 blynedd nesaf a sut y byddwn yn adrodd ar ein cynnydd

Awduron: Helen Bradley, Eurgain Powell