Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Dulliau Polisi i Hyrwyddo Tegwch Rhywedd: Astudiaethau Achos o’r Ffindir a’r Alban

Mae gwledydd ledled y byd yn mabwysiadu gwahanol ddulliau polisi i wella tegwch iechyd rhywedd a mynd i’r afael â phenderfynyddion sylfaenol iechyd. Mae’r Erthygl Sbotolau hon yn archwilio enghreifftiau o’r Ffindir a’r Alban, gan dynnu sylw at sut y gall gweithredu ar feysydd fel gofal plant, absenoldeb rhieni, a chyllidebu sy’n ymateb i rywedd helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol annhegwch ar draws y cwrs bywyd. Mae’r astudiaethau achos rhyngwladol hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr a chyfleoedd dysgu i lywio gweithredu yn y dyfodol.

Awduron: Zuwaira Hashim, James Allen+ 1 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis)
Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol Dulliau o Fesur a Chynyddu Gwariant a Buddsoddiad mewn Gwaith Atalio

Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol: Dulliau o Fesur a Chynyddu Gwariant a Buddsoddiad mewn Gwaith Ataliol

Mae’r adroddiad Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol hwn yn archwilio tystiolaeth fyd-eang ar ymyriadau ataliol a mecanweithiau diogelu cyllidebau a’u symud tuag at atal.

Mae enghreifftiau o’r Almaen, Estonia, y Ffindir a De Korea yn dangos bod buddsoddiad cyson mewn gwaith ataliol yn bosibl pan gaiff ei gefnogi gan lywodraethu cryf, offerynnau ariannu pwrpasol, aliniad a chydweithio traws-sector, a systemau mesur cadarn.

Negeseuon Allweddol

* Mae mecanweithiau ariannu hirdymor, wedi’u diogelu, yn hanfodol i gynnal gwariant a buddsoddiad mewn gwaith ataliol.
* Gall mesur gwariant a chanlyniadau gwaith ataliol yn well gryfhau’r achos dros fuddsoddi.
* Mae gwaith ataliol yn darparu buddion y tu hwnt i iechyd, sy’n cynnwys enillion economaidd, cymdeithasol a thegwch.
* Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cyllid, deddfwriaeth a phartneriaethau traws-sector pwrpasol gynyddu cyllid a buddsoddiad mewn gwaith ataliol yn llwyddiannus.
* Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau bod gwariant ar waith ataliol yn tyfu ac yn parhau i fod yn gynaliadwy er mwyn gwella iechyd y boblogaeth a lleihau’r galw am wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae buddsoddi mewn atal yn hanfodol er mwyn gwella iechyd, lleihau anghydraddoldebau, a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy. Mae’r ffeithlun hwn yn cyflwyno gwersi rhyngwladol allweddol ar fesur, diogelu a chynyddu buddsoddi mewn atal.

Awduron: Serena Ryan, Keira Charteris+ 5 mwy
, Emma Begley, Mariana Dyakova, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Brendan Collins
Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Deall Sut Mae Anghydraddoldeb Rhywedd yn Dylanwadu ar Iechyd

Mae’r Blog Sbotolau hwn yn archwilio sut mae anghydraddoldeb rhywedd yn dylanwadu ar iechyd menywod ac yn cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, economaidd a strwythurol sy’n dylanwadu ar iechyd, yn arddangos gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Cynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru ac yn gyrru camau gweithredu tuag at Gymru decach ac iachach.

Awduron: Zuwaira Hashim, James Allen+ 1 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis)
Atal Dementia Gorchudd adroddiad

Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol: Atal Dementia

Mae’r adroddiad hwn, Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol, yn archwilio tystiolaeth fyd-eang ynghylch atal dementia a phwysigrwydd cefnogi iechyd yr ymennydd drwy gydol bywyd unigolyn.

Mae’r adroddiad yn adolygu’r arferion gorau yn rhyngwladol ac yn tynnu sylw at ddulliau llwyddiannus mewn gwledydd sy’n cynnwys y Ffindir, Japan, De Corea, Uruguay, a’r Deyrnas Unedig.

Negeseuon allweddol:

Nid yw dementia yn rhan anochel o heneiddio. Gallai mynd i’r afael â’r ffactorau risg y gellir eu haddasu drwy gydol bywyd unigolyn atal hyd at 45% o’r achosion. Mae gwaith atal effeithiol yn gofyn am gamau gweithredu integredig ar dair lefel:

1. Mae ymyriadau mewn perthynas â newid ymddygiad ar un elfen yn parhau’n seiliau hanfodol, ac yn targedu ffactorau risg unigol fel anweithgarwch corfforol, ysmygu, ynysigrwydd cymdeithasol, camddefnyddio alcohol a cholli clyw neu olwg heb ei drin.

2. Mae ymyriadau mewn perthynas â nifer o elfennau sy’n targedu ffactorau risg lluosog, wedi’u clystyru, yn cynrychioli’r strategaeth fwyaf addawol.

3. Mae mesurau strwythurol ar lefel y boblogaeth fel polisïau ariannol, deddfwriaeth, cyfyngiadau marchnata, ac addasiadau amgylcheddol yn hanfodol i ategu dulliau sy’n seiliedig ar ffordd o fyw.

Awduron: Keira Charteris, Daniela Stewart+ 2 mwy
, Zuwaira Hashim, Mariana Dyakova
Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Y Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) Newydd: Fframwaith ar gyfer Hyrwyddo Tegwch Iechyd yng Nghymru

Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Blog Sbotolau newydd sy’n archwilio sut y bydd Rheoliadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) yn trawsnewid gwneud penderfyniadau strategol a chryfhau tegwch iechyd ledled Cymru.

Awduron: Zuwaira Hashim, Lauren Couzens (née Ellis)+ 2 mwy
, Liz Green, Cheryl Williams

Elfennau gofal brys a’u heffeithiolrwydd: Adolygiad cyflym o dystiolaeth a mewnwelediadau rhyngwladol

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y gall gwahanol gydrannau gwasanaethau gofal brys helpu i leihau’r pwysau ar adrannau brys a chefnogi annibyniaeth cleifion. Gan alw ar yr ymchwil ddiweddaraf drwy adolygiad gwib systematig a mewnwelediadau rhyngwladol, mae’n tynnu sylw at arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn fyd-eang er mwyn llywio dyluniad gwasanaethau gofal brys yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn cynnwys ystod o elfennau gwasanaeth gofal brys, gan gynnwys:
• Strategaethau newid tasgau i optimeiddio capasiti ac effeithlonrwydd y gweithlu
• Gwell mynediad at wasanaethau diagnostig, fel radioleg
• Offer clyfar fel brysbennu digidol a systemau cynorthwyo penderfyniadau i staff
• Ehangu canolfannau gofal/triniaeth frys ar gyfer gofal amserol a phriodol
• Gofal brys rhithwir, gan gynnwys ymgynghoriadau ffôn a fideo am gyngor brys

Ynglŷn â’r adolygiad:
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall gwasanaethau gofal brys a ddylunnir yn dda ddarparu gofal mwy diogel, cyflym ac effeithiol. Er bod angen rhagor o ymchwil, mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at gyfle addawol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
Gwaith ar y cyd yw hwn rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth (Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol) a’r tîm Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol (Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant).

Awduron: Anamica Patel, Keira Charteris+ 8 mwy
, Kate Shiells, Laura Johnson, Helen Morgan, Hannah Shaw, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Kirsty Little, Mariana Dyakova

Cryfhau Iechyd gyda Phartneriaethau Rhyngwladol Teg: Dysgu Allweddol ac Arferion Gorau

Mae gan Gymru gyd-destun deddfwriaethol a pholisi galluogol. Dangosir hyn gan nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu ‘Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang’.

Defnyddiodd y papur trafod hwn adolygiad cwmpasu i archwilio sut mae Cymru a chymunedau rhyngwladol yn cael budd o bartneriaethau cydweithredol. Yr amcanion oedd nodi gwybodaeth bresennol, gwerthuso’r manteision a phennu arferion gorau.

Awduron: James Rees, Joshua Yawo Malcolm+ 2 mwy
, Jo Peden, Zuwaira Hashim
Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 7 Gorffennaf 2025

Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 7: Gorffennaf 2025

Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.

Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Awduron: Laura Holt, Jo Harrington+ 4 mwy
, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Dr Stanley Upkai, Malek Mhd Al Dali

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Ysgogwyr Cyllidol i Fynd i’r Afael â Gordewdra Adroddiad 51 Ionawr 2025

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Ysgogwyr cyllidol i fynd i’r afael â gordewdra.

Awduron: Keira Charteris, Ilona Johnson+ 8 mwy
, Mariana Dyakova, Zuwaira Hashim, Morgan Savoury, Anna Howells, Josh Levett, Leonor Gonzalez de Mendoza Cremades, Sumina Azam, Emily Finney
Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Penderfynyddion Masnachol Iechyd:  Plant a Phobl Ifanc Adroddiad 49

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Penderfynyddion Masnachol Iechyd:  Plant a Phobl Ifanc Adroddiad 49

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Penderfynyddion Masnachol Iechyd:  Plant a Phobl Ifanc

Awduron: Leah Wargent, Daniela Stewart+ 5 mwy
, Zuwaira Hashim, Bastien Soto, Aleksandra (Ola) Kreczkiewicz, Abigail Malcolm (née Instone), Mariana Dyakova

Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu Calendr Cryno Ebrill 2023 i Fawrth 2024

Mae’r calendr cryno hwn, y pedwerydd i’w gyhoeddi, yn cyflwyno trosolwg byr a rhyngweithiol o’r pum Adroddiad Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu o 2023-2024. Mae’r themâu’n cynnwys:

• Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
• Iechyd a Llesiant Meddwl Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
• Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd
• Gwreiddio Atal mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
• Effaith tlodi ar fabanod, plant a phobl ifanc

Awduron: Leah Wargent, Daniela Stewart+ 9 mwy
, Zuwaira Hashim, Lauren Couzens (née Ellis), Rachel Bennett, Georgia Saye, Sara Cooklin-Urbano, Rhiannon Griffiths, Abigail Malcolm (née Instone), Emily Clark, Jo Peden

Penderfynyddion Cymdeithasol ac Economaidd tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol llewyrchus i fenywod yng Nghymru

Mae menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) wedi cyhoeddi blog erthygl sbotolau i goffau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar degwch rhwng y rhywiau yng Nghymru, gan bwysleisio’r penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar lesiant menywod. Mae’n amlygu anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau ar draws meysydd amrywiol, gan gynnwys iechyd, cyflogaeth, a thrais, sy’n cael eu gwaethygu gan ffactorau fel hil, anabledd a statws economaidd. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen polisïau sy’n ymateb i rywedd, cyllidebu sy’n gynhwysol o ran rhywedd a fframwaith Economi Llesiant i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol a grymuso menywod tuag at ddyfodol iachach a mwy llewyrchus yng Nghymru.

Awduron: Zuwaira Hashim, Jo Peden

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Effaith Tlodi ar Fabanod, Plant a Phobl Ifanc Adroddiad 48

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Effaith Tlodi Ymhlith Babanod, Plant a Phobl Ifanc

Awduron: Leah Wargent, Lauren Couzens (née Ellis)+ 5 mwy
, Rachel Bennett, Zuwaira Hashim, Rhiannon Griffiths, Jo Peden, Mariana Dyakova

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Ymgorffori Ataliaeth mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol Adroddiad 47

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Ymgorffori Ataliaeth mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Awduron: Leah Wargent, Daniela Stewart+ 5 mwy
, Rachel Bennett, Zuwaira Hashim, Sara Cooklin-Urbano, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova