Datblygu Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad
Offeryn rhyngweithiol i’ch helpu i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ymddygiad wrth ddylunio’ch cyfathrebiadau
Offeryn rhyngweithiol i’ch helpu i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ymddygiad wrth ddylunio’ch cyfathrebiadau
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Ymgyrchoedd cyfathrebu er derbyn brechlynnau
Mae’r adroddiad newydd hwn yn dwyn ynghyd yr hyn sy’n hysbys am brofiadau ACE ledled Ewrop ac yn rhyngwladol, gan ddangos yr effaith wenwynig barhaus y gall y rhain ei chael drwy gydol oes unigolyn a sut y gellir atal y profiadau hyn a’u deilliannau. Mae’r adroddiad yn cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal profiadau ACE a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.
Mae Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd yn banel cynrychioliadol cenedlaethol newydd o drigolion Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd.
Roedd arolwg y mis hwn yn trafod llesiant meddyliol, brechlynnau, ymddygiad cymryd risg ac anghydraddoldebau iechyd.
Mae adroddiad Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a Nodi Atebion yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd o weminar y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (RHN) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ei hwyluso gan Ganolfan Gydweithredu WHO yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Medi 2022.
Nod yr asesiad hwn o anghenion iechyd yw adolygu anghenion pobl sy’n profi niwed oherwydd hapchwarae er mwyn llywio dull iechyd cyhoeddus o leihau niwed hapchwarae yng Nghymru. Mae’n cynnwys epidemioleg hapchwarae niweidiol, crynodeb o’r sylfaen dystiolaeth ynghylch ymyriadau ataliol a thriniaeth, crynodeb owasanaethau presennol, a themâu a nodwyd o ymchwil ansoddol, a archwiliodd yn fanwl farn pobl â phrofiadau bywyd o hapchwarae niweidiol, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid.
Mae Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd yn banel cynrychioliadol cenedlaethol newydd o drigolion Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno demograffeg y 2,000 o aelodau panel a recriwtiwyd yn ystod cam cyntaf y prosiect. Adroddir hefyd ar ganfyddiadau’r arolwg recriwtio cychwynnol, sy’n canolbwyntio ar gostau byw, coronafeirws a blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae caffael yn gostus. Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario £7 biliwn ar gaffael. Caffael achosodd 62% o ôl troed carbon GIG Cymru yn 2018/19.
Gall caffael cynaliadwy olygu peidio â phrynu pethau o gwbl, prynu nwyddau sy’n defnyddio ynni ac adnoddau yn effeithlon, nwyddau moesegol fel coffi Masnach Deg, neu gynhyrchion a gwasanaethau lleol sy’n cefnogi busnesau lleol. Gall hefyd helpu i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol ac amcanion llesiant, ac yn y pen draw wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Mae’r e-ganllaw yn rhoi cyngor ar sut y gallwn weithredu wrth brynu nwyddau a gwasanaethau gan ystyried yr hyn sydd ei angen arnom, o ble y daw, pa mor hir y bydd yn para a’r effaith a gaiff ar bobl, natur a’r blaned.
Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r dyletswydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus “gynnal a gwella bioamrywiaeth (cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir) a, thrwy wneud hynny, yn hybu cydnerthedd ecosystemau”.
Yn 2023 rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi’i ddiweddaru, sy’n amlinellu’r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, gan amlygu’r cynnydd a wnaed rhwng 2019 a 2022 gan gynnwys yn erbyn camau a nodwyd yn ein Cynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.
Mae deall a ffurfio ymddygiadau, gan gynnwys manteisio ar wasanaethau cymorth, yn hanfodol wrth ymateb i’r argyfwng costau byw. Mae’r ffeithlun hwn yn dangos sut y mae modd defnyddio gwyddor ymddygiad, gan gyfeirio at yr adroddiad a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r adnoddau a gynhyrchwyd gan Uned Gwyddor Ymddygiad Cyngor Sir Hertford.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Addysg a gofal plentyndod cynnar
Ar draws Cymru a’r byd, mae anghydraddoldeb iechyd yn parhau’n broblem sydd yn rhyng-gysylltiedig gyda deinameg cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a chymhleth. O ganlyniad, mae angen i weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn iechyd ddigwydd ar lefel strwythurol, gan gydnabod y cyfyngiadau sy’n effeithio ar allu a chyfle unigolyn (neu gymuned) i alluogi newid. Er bod ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd’ yn gysyniad sydd wedi ei sefydlu, mae deall cyfansoddiad y bwlch iechyd yn llawn yn dibynnu ar gipio cyfraniadau perthnasol myrdd o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn dadansoddiad meintiol. Ceisiodd y dadansoddiad dadgyfansoddi esbonio’r gwahaniaethau ym mynychder y canlyniadau hyn mewn grwpiau sydd wedi eu haenu yn ôl eu gallu i arbed o leiaf £10 y mis, a ydynt mewn amddifadedd materol, a phresenoldeb salwch, anabledd neu wendid hirsefydlog sy’n cyfyngu. Fe wnaeth y dadansoddiad nid yn unig feintioli’r bylchau iechyd arwyddocaol oedd yn bodoli yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig COVID-19, ond mae hefyd wedi dangos pa benderfynyddion iechyd oedd mwyaf dylanwadol. Mae deall y ffactorau sydd fwyaf cysylltiedig ag amrywiadau mewn iechyd yn allweddol i nodi ysgogwyr polisi i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant ar draws poblogaethau.
Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ar y naill law ac iechyd a llesiant ar y llaw arall.
Gan ddefnyddio sampl o boblogaeth gyffredinol y DU, mae’r astudiaeth hon wedi nodi perthnasoedd rhwng dod i gysylltiad ag ACEs a phrofiad oes o ddamweiniau ceir a llosgiadau; dau brif farciwr o anafiadau anfwriadol. Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen am ymyriadau effeithiol i atal ACEs a lleihau eu heffeithiau ar iechyd a llesiant. Gall dealltwriaeth well o’r berthynas rhwng ACEs ac anafiadau anfwriadol, a’r mecanweithiau sy’n cysylltu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod â risgiau anafiadau, fod o fudd i ddatblygu dulliau amlochrog o atal anafiadau.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn achosi baich amgylcheddol parhaus a chynyddol o glefydau, ynghyd â chanlyniadau iechyd y cyhoedd sylweddol. Mae mynd i’r afael â’r argyfwng trwy ddulliau lliniaru ac addasu yn gofyn am newid yn ein hymddygiad. Mae’r canllawiau hyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol/ymarferwyr sy’n gweithio ar bolisïau, gwasanaethau neu gyfathrebiadau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnig awgrymiadau defnyddiol ar ymgorffori mewnwelediadau ymddygiadol a chynyddu’r tebygolrwydd y bydd newid mewn ymddygiad yn cael ei fabwysiadu.
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau eang a hirdymor ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i gael effeithiau o’r fath.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ffyrdd y gall yr argyfwng costau byw effeithio ar iechyd a llesiant. Mae’n edrych ar y sefyllfa drwy lens iechyd cyhoeddus er mwyn nodi camau gweithredu ar gyfer llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddiogelu a hybu iechyd a llesiant pobl Cymru wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, gan amlinellu sut olwg fydd ar ddull iechyd cyhoeddus o ymdrin â’r argyfwng yn y tymor byr a’r tymor hwy.
Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd yn ymagwedd allweddol a ddefnyddir yn rhyngwladol i nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol polisïau, cynlluniau a chynigion ar iechyd a lles. Yn 2020, cynhaliwyd HIA yng Nghymru a’r Alban i nodi effeithiau posibl y mesurau ‘aros gartref’ a chadw pellter corfforol ar iechyd a lles a weithredwyd ar ddechrau pandemig clefyd coronafeirws (COVID-19). Ceir tystiolaeth brin wrth werthuso a yw’r effeithiau a ragfynegwyd mewn HIA yn digwydd ar ôl gweithredu polisi. Mae’r papur hwn yn gwerthuso’r effeithiau a ragwelwyd yn HIA COVID-19 yn erbyn tueddiadau a welwyd mewn gwirionedd.
Mae’r canllaw hwn i ymarferwyr a llunwyr polisi yn rhoi cyflwyniad byr i wyddor ymddygiad a phroses gam wrth gam ar gyfer datblygu ymyriadau newid ymddygiad – boed yn bolisi, gwasanaeth neu gyfathrebu. Fe’i cynlluniwyd i gefnogi arbenigwyr pwnc i wneud y gorau o’u hymyriadau – gan helpu i sicrhau ein bod yn aml yn ‘cael yr hyn yr ydym yn anelu ato’. Gwella iechyd a llesiant: canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer
Mae’r ffeithlun hon yn esbonio pam fod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sylweddol i iechyd. Mae’n cynnwys ffeithiau am newid hinsawdd ac yn awgrymu camau y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau ein heffaith i helpu i ddiogelu iechyd pobl yn ogystal ag iechyd y blaned.
Mae nifer a chyfradd y plant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae unigolion sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na phobl ifanc eraill.
Mae modelau ymarfer amrywiol i gefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal gyda’r nod o atal digartrefedd. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi a dadansoddi modelau ymateb Cymru, y Deyrnas Unedig (DU) a rhai rhyngwladol mewn perthynas ag unigolion â phrofiad o ofal (16- 25 oed) ac atal digartrefedd, a nodi arfer addawol yn y maes hwn a meysydd pellach ar gyfer gwelliant.
Ceisiodd yr astudiaeth dulliau cymysg newydd hon roi llais I bobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol a phrofiad byw unigolion sydd â phrofiad o ofal, ac yn rhoi awgrymiadau gan ddarparwyr gwasanaethau ar fodelau gofal newydd a’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith.
Bydd o ddiddordeb i lunwyr polisi, ymarferwyr tai ac ymarferwyr gofal cymdeithasol fel ei gilydd.
Yn y papur hwn, mae pwysigrwydd y sector gofal iechyd i economi Cymru’n cael ei archwilio. Rydym yn defnyddio nifer o ffynonellau data ar gyfer economi’r DU a Chymru ac yn deillio model economaidd ar gyfer 2017. Nod y modelu economaidd hwn yw meintioli cyfraniad y sector gofal iechyd (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y GIG) i’r economi ehangach yng Nghymru, ac edrych ar yr allbwn economaidd, incwm y boblogaeth, mewnforion gwerth ychwanegol, a chyflogaeth. Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod gan y sector gofal iechyd gyfraniad uwchlaw’r cyfartaledd mewn pedair agwedd economaidd a archwiliwyd o economi Cymru (cynnyrch, incwm, cyflogaeth, gwerth ychwanegol), yn ôl ei effaith ar yr ecosystem economaidd oddi amgylch. Mae crynodeb o’r adroddiad wedi’i ddatblygu i gefnogi a hysbysu rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol ar draws amrywiol sectorau, ac yn cynnwys economeg, cyllid, iechyd a pholisi. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n gweithio mewn perthynas â’r Economi Sylfaenol, Gwerth Cymdeithasol ac Effeithiau Llesiant ac Iechyd Seiliedig ar Werth.
Mae Cymunedau a Newid Hinsawdd mewn Cymru Dyfodol yn archwilio sut mae rhai cymunedau yn teimlo am effeithiau newid yn yr hinsawdd, a sut y gallai’r effeithiau hyn waethygu anghydraddoldebau presennol. Cynlluniwyd y prosiect ar y cyd, ac roedd yn cynnwys cyfranogwyr mewn meddwl am yr hir dymor am hinsawdd ac anghydraddoldebau, ystyried pa broblemau y gallai fod angen eu hatal, ac integreiddio’r canfyddiadau ag astudiaethau a phrosiectau eraill yn y maes.
Mae’r adroddiadau nid yn unig yn cynnwys canfyddiadau’r gwaith hwn, ond maent hefyd yn darparu adnoddau i lunwyr polisi weithredu technegau dydodolau creadigol tebyg er mwyn cynnwys cymunedau mewn meddwl hirndymor.
Cynhyrchwyd y llyfr stori gan FLiNT o dan Gytundeb Partneriaeth rhwng FLiNT a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Gwneud yr amgylchedd addysgu’n wydn yn erbyn COVID: 4-18 oed
Mae gan sefydliadau iechyd y cyhoedd rôl bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo a diogelu iechyd a llesiant poblogaethau. Ffocws allweddol sefydliadau o’r fath yw penderfynyddion ehangach iechyd, gan groesawu’r angen i hyrwyddo ‘Iechyd ym mhob Polisi’ (HiAP). Offeryn gwerthfawr i gefnogi hyn yw’r asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA). Mae’r astudiaeth gwmpasu hon yn anelu at gefnogi sefydliadau iechyd y cyhoedd i hyrwyddo’n fwy llwyddiannus ar gyfer defnyddio asesiadau o’r effaith ar iechyd a’r HiAP er mwyn hyrwyddo a diogelu iechyd, llesiant a thegwch. Mae’n tynnu sylw at y galluogwyr a’r rhwystrau ar gyfer defnyddio HIA yng nghyd-destunau’r cyfranogwyr ac mae’n awgrymu rhai camau y gall sefydliadau iechyd y cyhoedd eu cymryd a’r unedau y gallant ddysgu ohonynt. Gall canlyniadau’r astudiaeth hon fod yn blatfform i helpu i wella gwybodaeth, rhwydweithiau ac arbenigedd, er mwyn helpu i gefnogi dull ‘Iechyd ym mhob Polisi’ a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n bodoli ym mhob cymdeithas.
Dangosodd ymchwil flaenorol a wnaed gan Hyb ACE Cymru fod prosiectau cymunedol ledled Cymru yn darparu cymorth i aelodau’r gymuned mewn perthynas ag ystod o adfydau. Gan adeiladu ar yr ymchwil hwn, nod y prosiect hwn yw nodi a mapio prosiectau cymunedol pellach; deall y dulliau mwyaf effeithiol o gefnogi’r prosiectau hyn yn ogystal â’r rhwystrau i ymgysylltu; ac yn olaf i archwilio effaith gwasanaethau ar grwpiau cymunedol.
Yn 2022, ymunodd Cymru â’r nifer cynyddol o wledydd i wahardd cosbi plant yn gorfforol ym mhob lleoliad. Gan ddefnyddio data a gasglwyd flwyddyn cyn y newid deddfwriaethol, mae’r astudiaeth hon yn archwilio’r berthynas rhwng amlygiad rhieni Cymru i ACEs wrth dyfu i fyny a’u defnydd o gosb gorfforol tuag at blant.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol arolwg o oedolion sy’n byw yng Nghymru ynghylch eu canfyddiadau o ran newid hinsawdd ac iechyd. Er bod gwaith i ddeall a lliniaru newid hinsawdd yn magu momentwm yng Nghymru, prin yw’r wybodaeth o hyd am farn ac ymddygiad y boblogaeth. Mae data o’r fath yn hanfodol ar gyfer cyd-greu dulliau effeithiol a derbyniol o ymdrin â newid hinsawdd sy’n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd; targedu negeseuon a gwybodaeth allweddol; a sefydlu datrysiadau hirdymor ar draws Cymru a fydd yn parhau i gael eu cefnogi ar draws sawl cenhedlaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwn, datblygwyd arolwg cyhoeddus i geisio barn y boblogaeth am newid hinsawdd, ei berthynas ag iechyd, eu hymddygiad presennol sy’n ystyriol o’r hinsawdd, eu parodrwydd i gymryd rhan mewn camau gweithredu, a barn am ddatrysiadau polisi. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol yr arolwg, gan roi barn y boblogaeth ar newid hinsawdd ymhlith trigolion Cymru sy’n oedolion.
Mae pandemig COVID-19 wedi gwthio clefydau heintus i frig agendâu llywodraethau ledled y byd. Ar yr un pryd, mae Brexit wedi dylanwadu ar sut mae’r Deyrnas Unedig a Chymru’n cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.
Mae llinellau amser ar gyfer Brexit a phandemig COVID-19 wedi gorgyffwrdd, roedd trefniadau ar gyfer y cyfnod wedi Brexit yn dal i gael eu datblygu. Yr argyfwng iechyd y cyhoedd rhyngwladol nesaf fydd yn profi’r systemau newydd yng Nghymru/y DU.
Dangoswyd bod gan Brexit y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru felly dylid eu ystyried yng nghyd-destun atal a pharodrwydd ar gyfer ymatebion i glefydau heintus.
Mae’r briff yn archwilio effaith ymadawiad y DU o’r UE ar pherthynas a’i phrosesau rhyngwladol ar gyfer ymdrin â clefydau heintus yn y dyfodol.
Mae anghydraddoldebau eang mewn iechyd a defnydd o wasanaethau gofal iechyd rhwng pobl sy’n byw mewn cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig yng Nghymru. Gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy gyfuniad o ymgyrchoedd hybu iechyd a pholisïau ymyrraeth gynnar wedi’u targedu at gymunedau difreintiedig arwain at welliant sylweddol mewn iechyd a lles, yn ogystal ag arbedion i GIG Cymru.
Pan gafodd ei sefydlu yn 2019, comisiynodd yr Uned Atal Trais ymyriad newydd dan arweiniad nyrsys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ar y ddealltwriaeth fod yr Adrannau Brys yn cael cyfle unigryw i ymyrryd yn gynnar ac atal dioddefwyr trais rhag cael niwed eto.
Mae’r gwerthusiad o’r Tîm Atal Trais yn ystyried y ffordd y cafodd y gwasanaeth yn yr Adran Achosion Brys ei ddatblygu a’i roi ar waith, a natur a lefel y cymorth a ddarperir i gleifion gydag anafiadau cysylltiedig â thrais. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys cyfweliadau â staff clinigol a gweithwyr proffesiynol eraill, er enghraifft, yr heddlu, yn ogystal â dadansoddiad o ddata’r gwasanaeth.