Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau ym maes datblygu polisi, gwasanaeth neu gyfathrebu yn cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr gwyddor ymddygiad, ac nid oes angen iddynt fod felly. Fodd bynnag, gall gwyddor ymddygiad ychwanegu gwerth at ymdrechion bron pob ymarferydd a lluniwr polisi – mae cefnogi’r datblygiad hwnnw yn nod mawr i’r Uned. Mae datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gwyddor ymddygiad a sut i alluogi ei gymhwyso o fewn prosiect, tîm, neu sefydliad yn allweddol i gynyddu ei defnydd ar draws y system.


Mae diddordeb mewn gwyddor ymddygiad yn cynyddu’n gyflym, mae yna adnoddau, offer ac arweiniad gwych eisoes ar gael i chi ddysgu oddi wrthynt a’u cymhwyso yn eich ymarfer bob dydd. Yn ogystal â rhannu ein hadnoddau ein hunain, rydym wedi coladu’r hyn yr ydym wedi’i ganfod yn ddefnyddiol yn y tudalennau isod.


Rydyn ni wedi eu rhannu yn dibynnu ar ba gam yn y broses gwyddor ymddygiad rydych chi wedi’i gyrraedd, mae mwy o fanylion am y camau i’w cael yma.

Sylwer fod rhai o’r dolenni i wybodaeth bellach yn mynd â chi at wybodaeth gan sefydliadau eraill, lle nad oes fersiwn Gymraeg ar gael yn anffodus.  Ymddiheurwn am hyn.

Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
Cyflwyniad Byr i Fodel Ymddygiad COM-B a Damcaniaeth Cymhelliant PRIME (Saesneg yn unig) Robert West a Susan Michie Erthygl cyfnodolyn yn cyflwyno'r model COM-B a theori cymhelliant PRIME Gweld yr adnodd
Diagnosis Ymddygiadol: Sut i gasglu mewnwelediadau ymddygiadol Uned Gwyddor Ymddygiad Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i ddatblygu dealltwriaeth systematig o'r hyn sy'n dylanwadu ar eich ymddygiad targed, yn eich poblogaeth darged. Gweld yr adnodd
Gwella Lechyd a Llesiant: Canllaw i Ddefnyddio Gwyddor Ymddygiad mewn Polisi ac Ymarfer (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi yn egluro sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad a’i chymhwyso’n ymarferol Gweld yr adnodd
Offeryn Adnabod Rhwystrau (Saesneg yn unig) Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad Offeryn rhyngweithiol i nodi a chategoreiddio'r rhwystrau i ymddygiad yr ydych yn ceisio ei newid Gweld tudalen we