Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau ym maes datblygu polisi, gwasanaeth neu gyfathrebu yn cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr gwyddor ymddygiad, ac nid oes angen iddynt fod felly. Fodd bynnag, gall gwyddor ymddygiad ychwanegu gwerth at ymdrechion bron pob ymarferydd a lluniwr polisi – mae cefnogi’r datblygiad hwnnw yn nod mawr i’r Uned. Mae datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gwyddor ymddygiad a sut i alluogi ei gymhwyso o fewn prosiect, tîm, neu sefydliad yn allweddol i gynyddu ei defnydd ar draws y system.


Mae diddordeb mewn gwyddor ymddygiad yn cynyddu’n gyflym, mae yna adnoddau, offer ac arweiniad gwych eisoes ar gael i chi ddysgu oddi wrthynt a’u cymhwyso yn eich ymarfer bob dydd. Yn ogystal â rhannu ein hadnoddau ein hunain, rydym wedi coladu’r hyn yr ydym wedi’i ganfod yn ddefnyddiol yn y tudalennau isod.


Rydyn ni wedi eu rhannu yn dibynnu ar ba gam yn y broses gwyddor ymddygiad rydych chi wedi’i gyrraedd, mae mwy o fanylion am y camau i’w cael yma.

Sylwer fod rhai o’r dolenni i wybodaeth bellach yn mynd â chi at wybodaeth gan sefydliadau eraill, lle nad oes fersiwn Gymraeg ar gael yn anffodus.  Ymddiheurwn am hyn.

Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
Gwella Lechyd a Llesiant: Canllaw i Ddefnyddio Gwyddor Ymddygiad mewn Polisi ac Ymarfer (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi yn egluro sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad a’i chymhwyso’n ymarferol Gweld yr adnodd
Gwerthusiad Gwell (Saesneg yn unig) Menter Gwerthuso Byd-eang Cydweithio byd-eang gyda'r nod o wella ymarfer a theori gwerthuso trwy gyd-greu, curadu a rhannu gwybodaeth Gweld tudalen we
Gwerthusiad mewn Iechyd a Llesiant (Saesneg yn unig) Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau Canllaw i helpu i gynyddu gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu wrth werthuso prosiectau iechyd a llesiant Gweld tudalen we
Gwerthuso Cynhyrchion Iechyd Digidol (Saesneg yn unig) Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau Canllaw i helpu unrhyw un sy'n datblygu neu'n rhedeg cynnyrch iechyd digidol i gynnal gwerthusiad Gweld tudalen we
Gwerthuso Ymyraethau Newid Ymddygiad Uned Gwyddor Ymddygiad Wedi'i ysgrifennu mewn cydweithrediad â'r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy'n nodi pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth i chi gynllunio sut i brofi a gwerthuso eich ymyriad newid ymddygiad. Gweld yr adnodd
Gwerthuso Ymyriadau Iechyd ar Sail Gwybodaeth am Ymddygiad a Diwylliant mewn Lleoliadau Cymhleth (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Fframwaith ar gyfer gwerthuso ymyriadau iechyd mewn lleoliadau cymhleth Gweld tudalen we
Mapio Effeithiau Tonnog (Saesneg yn unig) Cydweithrediad Ymchwil Gymhwysol NIHR y Gorllewin Hyfforddiant ar-lein yn ymdrin â beth yw mapio effeithiau crychdonni, pam y gall fod yn fuddiol a sut i gymhwyso'r fethodoleg yn ymarferol Gweld tudalen we
Pecyn Cymorth Ehangu Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Prifysgol Monash a Behaviour Works, Awstralia Pecyn cymorth i helpu ymarferwyr i ehangu eu hymyriadau Gweld tudalen we