Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau ym maes datblygu polisi, gwasanaeth neu gyfathrebu yn cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr gwyddor ymddygiad, ac nid oes angen iddynt fod felly. Fodd bynnag, gall gwyddor ymddygiad ychwanegu gwerth at ymdrechion bron pob ymarferydd a lluniwr polisi – mae cefnogi’r datblygiad hwnnw yn nod mawr i’r Uned. Mae datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gwyddor ymddygiad a sut i alluogi ei gymhwyso o fewn prosiect, tîm, neu sefydliad yn allweddol i gynyddu ei defnydd ar draws y system.


Mae diddordeb mewn gwyddor ymddygiad yn cynyddu’n gyflym, mae yna adnoddau, offer ac arweiniad gwych eisoes ar gael i chi ddysgu oddi wrthynt a’u cymhwyso yn eich ymarfer bob dydd. Yn ogystal â rhannu ein hadnoddau ein hunain, rydym wedi coladu’r hyn yr ydym wedi’i ganfod yn ddefnyddiol yn y tudalennau isod.


Rydyn ni wedi eu rhannu yn dibynnu ar ba gam yn y broses gwyddor ymddygiad rydych chi wedi’i gyrraedd, mae mwy o fanylion am y camau i’w cael yma.

Sylwer fod rhai o’r dolenni i wybodaeth bellach yn mynd â chi at wybodaeth gan sefydliadau eraill, lle nad oes fersiwn Gymraeg ar gael yn anffodus.  Ymddiheurwn am hyn.

Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
Diagnosis ymddygiadol: Mapio mewnwelediadau a dewis swyddogaethau ymyrryd Yr Uned Gwyddor Ymddygiad (BSU) Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i flaenoriaethu pa rwystrau a/neu hwyluswyr i'w targedu yn seiliedig ar fewnwelediad ymddygiadol, cyn archwilio pa swyddogaethau ymyrryd a allai fod yn fwyaf priodol i'w mabwysiadu. Gweld yr adnodd
Fframwaith EAST (Saesneg yn unig) Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad Gwybodaeth am sut i wneud newid ymddygiad yn hawdd, yn ddeniadol, yn gymdeithasol ac yn amserol (EAST). Gweld tudalen we
Gwella Lechyd a Llesiant: Canllaw i Ddefnyddio Gwyddor Ymddygiad mewn Polisi ac Ymarfer (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi yn egluro sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad a’i chymhwyso’n ymarferol Gweld yr adnodd
Hyfforddiant Tacsonomeg Technegau Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Canolfan Newid Ymddygiad UCL Hyfforddiant ar dacsonomeg techneg newid ymddygiad Gweld tudalen we
Offeryn Theori a Thechnegau (Saesneg yn unig) Canolfan Newid Ymddygiad UCL Adnodd rhyngweithiol i ddeall y cysylltiadau rhwng technegau newid ymddygiad (BCTs) a'u mecanweithiau gweithredu (MoAs). Gweld tudalen we
Tacsonomeg Techneg Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Canolfan Newid Ymddygiad UCL Manylion 93 o dechnegau newid ymddygiad (BCTs) gyda labeli, diffiniadau ac enghreifftiau. Gweld tudalen we