Iechyd Ryngwladol

Canolbwynt ar gyfer gwaith iechyd byd-eang, casglu gwybodaeth, rhannu gwybodaeth a rhwydweithio gweithredol ledled Cymru a’r byd.

Mae’r Tîm Iechyd Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o ddysgu cymhwysol o bolisi rhyngwladol, ymarferion ac ymchwil er mwyn cefnogi arloesedd iechyd cyhoeddus; datblygu pobl a sefydliadau sy’n gyfrifol dros fyd-eang ac ar draws y GIG; hwyluso cydweithredu a buddsoddi rhyngwladol yng Nghymru; a chryfhau effaith iechyd byd-eang Cymru ’trwy rannu ein hasedau a chyfrannu at ddiogelwch iechyd byd-eang a datblygu cynaliadwy.

Rydym yn rhannu profiad a gwybodaeth cymreig â rhanbarthau rhyngwladol tebyg, yn ogystal â chynorthwyo gyda hwyluso gweithgaredd iechyd mewn gwledydd incwm is a chanolig. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Rhaglen Cymru dros Affrica, Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, EuroHealthNet a phartneriaid cenedlaethol, y DU a rhyngwladol allweddol eraill, gan ddatblygu synergeddau a hyrwyddo cyfleoedd.

Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI)

Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn rhaglen waith unigryw yng Nghymru gyfan, sy’n dwyn ynghyd yr holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’n hyrwyddo ac yn hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol, gan weithredu fel canolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid gwybodaeth, cydweithredu a rhwydweithio ledled y DU, Ewrop a’r byd.

Uned Gwyddoniaeth Ymddygiadol

Mae’r Uned BeSci yn darparu arbenigedd ar wyddor ymddygiad, ac yn hyrwyddo ac yn galluogi ei chymhwyso’n gynyddol fel mater o drefn, i wella a diogelu iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r Uned yn cefnogi rhanddeiliaid yn y system iechyd y cyhoedd ehangach, i gyflawni newid sylweddol wrth wella canlyniadau iechyd a llesiant.

Polisi

Mae’r tîm Polisi’n cynhyrchu, yn cyfosod ac yn cyfathrebu mewnwelediad sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar weithredu yn effeithiol. Rydym yn defnyddio hyn i eiriol dros lunio polisïau sy’n diogelu ac yn hyrwyddo iechyd a llesiant pawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth ac arbenigedd hanfodol i gydweithwyr ar draws y gyfarwyddiaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eiriolaeth polisi ac ymateb i ymgynghoriadau polisi.

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU)

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn darparu gwasanaeth Cymru gyfan ac yn rhoi arweiniad, hyfforddiant, adnoddau, gwybodaeth a rhwydweithio mewn perthynas â phob agwedd ar Asesiadau Effaith ar Iechyd.

Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd

Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi ICC i ymwreiddio cynaliadwyedd ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym yn hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd ac yn cefnogi blaenoriaeth strategaeth ICC sef “Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus newid hinsawdd”.

Hwb Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod (ACE)

Sefydlwyd Canolfan ACE Cymru yn 2017 ac fe’i sefydlwyd i gefnogi cymdeithas Cymru i helpu i greu Cymru sy’n Ystyriol o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a gwneud Cymru’n arweinydd wrth fynd I’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), eu hatal a’u lliniaru. Rydym yn hyrwyddo rhannu syniadau a dysgu, a herio a newid ffyrdd o weithio, fel y gallwn gyda’n gilydd dorri’r cylch ACE. Mae Canolfan ACE Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Uned Atal Trais Cymru (VPU)

Wedi’i sefydlu yn 2019, mae Uned Atal Trais Cymru’n bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru a Heddlu De Cymru. Mae pob sefydliad yn cyfrannu cyllid ac arbenigedd i gefnogi ymagwedd iechyd y cyhoedd system gyfan o atal trais, gan weithio’n agos gyda sectorau gan gynnwys iechyd, plismona, addysg, awdurdodau lleol, llywodraethau a’r trydydd sector.

Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus

Mae Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus, a sefydlwyd yn 2017 ac a leolir yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, yn darparu adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer cymorth ymchwil, gwerthuso a datblygu polisi i’r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol a, drwy’r Gyfarwyddiaeth, i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach.