Rydym yn ffocysu ar wneud y gorau o ddysgu o bolisi, ymarfer ac ymchwil rhyngwladol i gefnogi arloesedd iechyd y cyhoedd, datblygu synergeddau a gwella cyfleoedd gyda’r bwriad o greu pobl a sefydliadau ar draws y GIG sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac sy’n edrych tuag allan.
Llwyddiant sylweddol, sy’n cael ei alluogi gan y tîm ac sy’n sail iddo ar hyn o bryd, yw Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru a Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop ym meysydd tegwch iechyd, buddsoddiad mewn iechyd a lles, datblygiad cynaliadwy a ffyniant i bawb.
Mae ffrydiau gwaith allweddol ym mhortffolio’r Tîm Iechyd Rhyngwladol yn cynnwys:
- Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru a Phlatfform Datrysiadau, sy’n cymhwyso fframwaith arloesol Sefydliad Iechyd y Byd a methodoleg flaengar, gan ategu rôl Cymru fel dylanwadwr a safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd yn Ewrop ac yn fyd-eang
- Prosiectau Dangos Gwerth, sy’n amlygu gwerth cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd i lywio blaenoriaethau buddsoddi yng Nghymru a thu hwnt
- Dysgu a Sganrio’r Gorwel Rhyngwladol COVID-19, sy’n cynhyrchu gwybodaeth y gellir ei gweithredu i lywio ymateb ac adferiad iechyd y cyhoedd yng Nghymru
Ein Gwaith Arweinydd: Mariana Dyakova
Yr hyn rydym yn ei wneud:
Mae’r Tîm Rhyngwladol yn gweithio gydag ystod o bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gasglu a rhannu tystiolaeth a dulliau polisi i wella iechyd poblogaeth Cymru.
Yr hyn rydym wedi’i wneud:
Mae’r gwaith diweddar yn cynnwys: Cyhoeddi’r canllaw ‘Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant’ a phecyn cymorth i weithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yn GIG Cymru.
Mae’r meysydd gwaith allweddol cyfredol yn cynnwys: ymateb i’r brigiad o achosion COVID-19 trwy gyhoeddi Adroddiadau Sganio’r Rhyngwladol unwaith bob pythefnos ac asesiad o effaith COVID-19 ar degwch iechyd yng Nghymru, gan graffu ar y data, polisi a’r goblygiadau economaidd. Mae hyn yn rhan o Fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru yn ehangach.