13 Mawrth 2020

Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a rhestrau gwirio ac offer rhyngweithiol newydd ar gael

Gweler isod Fframwaith Sicrwydd Ansawdd WHIASU, ynghyd â’n hoffer a’n rhestrau gwirio rhyngweithiol sydd newydd eu cynllunio. Fframwaith Sicrwydd Ansawdd WHIASU Templed Cwmpasu WHIASU Cofnod Gweithdy Asesu Effaith Iechyd WHIASU Rhestr Wirio Grwpiau Poblogaeth WHIASU Trosolwg o Asesiad yr Effaith ar Iechyd (HIA)

14 Chwefror 2020

Gweithdy Creu Lleoedd, Iechyd a Llesiant, Caerdydd.

Cyflwynodd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) y ‘Gweithdy Creu Lleoedd, Iechyd a Llesiant’ yng Nghaerdydd ar 30 Ionawr 2020. Roedd themâu’r diwrnod yn canolbwyntio ar ddarparu gwahanol enghreifftiau ac agweddau ar gydweithredu ac arfer da rhwng y meysydd iechyd a chynllunio gofodol. Cynhaliwyd dau weithgaredd grŵp rhyngweithiol er mwyn i gyfranogwyr drafod […]

10 Chwefror 2020

Dogfennaeth ar-lein o sefydliadoli a chydweithrediad aml-sectoraidd yr Asesiad Effaith Iechyd (HIA) yn Ewrop (Saesneg yn Unig)

Rydym yn hapus i’ch hysbysu, bod crynodebau a chyflwyniadau sefydliadoli “cydweithredu aml-sectoraidd Asesu Effaith Iechyd (HIA) a chydweithrediad aml-sectoraidd yn Ewrop” a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019 ym marseille ar-lein nawr.

17 Ionawr 2020

Cyhoeddi Astudiaeth Achos ar Ddefnydd WHIASU o’r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus

Heddiw cyhoeddodd Public Health England astudiaeth achos ar sut y defnyddiodd WHIASU y Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus i ddatblygu fframwaith sgiliau a gwybodaeth ar gyfer ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd. Dyma’r fframwaith sgiliau a gwybodaeth a llwybr datblygu’r gweithlu cyntaf i gael ei greu ar gyfer ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd Gallwch ddarllen […]

7 Ionawr 2020

Digwyddiad masnach, iechyd a llesiant

O ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr UE, bydd y DU yn datblygu ei bolisi masnach annibynnol am y tro cyntaf ers mwy na 40 mlynedd. Mae goblygiadau sylweddol yn ymwneud â hyn i ystod o benderfynyddion iechyd a llesiant yng Nghymru yn cynnwys safonau bwyd, diogelu’r amgylchedd, rheoliadau tybaco ac alcohol, yn ogystal ag […]

15 Tachwedd 2019

Gweithdy Creu Lleoedd, Iechyd a Llesiant

 Nod y gweithdy yw gwella, creu a chynllunio amgylchedau cynaliadwy iach trwy agenda iechyd y cyhoedd a chynllunio gofodol ar y cyd.  Mae hefyd yn ceisio pwysleisio arfer gorau ac archwilio modelau a chyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth cynaliadwy, wedi ei gydlynu yn y dyfodol. Cynulleidfa: Cynllunwyr gofodol, gwneuthurwyr polisïau, academyddion, ymarferwyr iechyd y cyhoedd, […]

13 Tachwedd 2019

Cylchlythyr yr Hydref WHIASU

Hoffai tîm WHIASU rannu eu newyddion a’u cyflawniadau diweddaraf gyda chi dros yr ychydig fisoedd diwethaf, cliciwch yma i weld y cylchlythyr.

11 Hydref 2019

HIA Brexit – adroddiad byr newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw (saesneg yn unig)

Heddiw mae uned cymorth HIA Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru:  Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd – Adolygiad a Diweddariad Cyflym’.   Mae hwn yn adroddiad dilynol atodol byr ac yn adeiladu ar ddadansoddiad manwl, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn […]

4 Hydref 2019

Sesiynau Hyfforddiant HIA Cyflym

Mae dyddiadau newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y Sesiynau Hyfforddiant HIA Cyflym yn Ionawr a Mawrth 2020. Cliciwch yma am fwy o fanylion am y cwrs. Cliciwch yma i gael y furflen gofrestru. Os oes angen mwy o fanylion neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â Vicky Smith ([email protected])