26 Tachwedd 2021

Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch

Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) a’r Tîm Polisi yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch’. Mae’r Asesiad o Effaith ar […]

2 Tachwedd 2021

Adnodd newydd yn tynnu sylw at effeithiau newid yn yr hinsawdd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau. Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio […]

19 Hydref 2021

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Ddiogelwch Bwyd

Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Cyfarwyddiaeth ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) wedi cyhoeddi ail adroddiad byr sy’n datod rhai o effeithiau cronnus Brexit, COVID-19 a newid hinsawdd ar iechyd a lles yng Nghymru. Yn dilyn ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 […]

8 Hydref 2021

Pecyn cymorth newydd yn galluogi i iechyd gael ei gynnwys mewn cynllunio tir yn y dyfodol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.  Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau […]

1 Hydref 2021

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd

Heddiw cyhoeddodd dîm Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’.  Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg strategol o effeithiau cronnus a rhyng-gysylltiedig iechyd a llesiant oherwydd Brexit, pandemig COVID-19 a newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a’r […]

13 Medi 2021

‘Iechyd ym Mhob Polisi’ – Sbardun Allweddol ar gyfer Iechyd a Llesiant mewn Byd ar ôl y Pandemig COVID-19

Mae pandemig COVID-19 wedi codi proffil iechyd y cyhoedd ac wedi tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng iechyd a meysydd polisi eraill. Mae’r papur hwn yn disgrifio’r rhesymeg dros fecanweithiau Iechyd ym mhob Polisi (HiAP), a’r egwyddorion sy’n sail iddynt, gan gynnwys Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), profiadau, heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. […]

10 Awst 2021

Defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ddeall goblygiadau penderfyniadau polisi ar gyfer iechyd a llesiant ehangach: ‘polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ Covid-19 yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ neu’r ‘Cyfnod Clo’ mewn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru. Mae’n disgrifio’r broses a’r canfyddiadau, yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd ac yn trafod sut y defnyddiwyd y broses […]

10 Awst 2021

Adnodd Newydd i helpu i greu amgylcheddau iachach a mynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. Mae ‘Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach’ yn gyfres o ddogfennau sydd wedi’u datblygu gan arbenigwyr iechyd i gynorthwyo swyddogion polisi […]

8 Mehefin 2021

‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’

Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Alma Economics i adolygu’r dystiolaeth ymchwil ar effaith pandemig y Coronafeirws a mesurau cysylltiedig y llywodraeth ar lesiant meddyliol babanod, plant a phobl ifanc. Cafodd ‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’ ei gynnal gan ddefnyddio cyfres o ddata arolwg presennol ac astudiaethau ymchwil cyhoeddedig, […]