13 Tachwedd 2019

Cylchlythyr yr Hydref WHIASU

Hoffai tîm WHIASU rannu eu newyddion a’u cyflawniadau diweddaraf gyda chi dros yr ychydig fisoedd diwethaf, cliciwch yma i weld y cylchlythyr.

11 Hydref 2019

HIA Brexit – adroddiad byr newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw (saesneg yn unig)

Heddiw mae uned cymorth HIA Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru:  Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd – Adolygiad a Diweddariad Cyflym’.   Mae hwn yn adroddiad dilynol atodol byr ac yn adeiladu ar ddadansoddiad manwl, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn […]

4 Hydref 2019

Sesiynau Hyfforddiant HIA Cyflym

Mae dyddiadau newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y Sesiynau Hyfforddiant HIA Cyflym yn Ionawr a Mawrth 2020. Cliciwch yma am fwy o fanylion am y cwrs. Cliciwch yma i gael y furflen gofrestru. Os oes angen mwy o fanylion neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â Vicky Smith ([email protected])

30 Medi 2019

Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd

Mae’r Gyfarwyddiaeth Ymchwil a Thystiolaeth wedi rhyddhau adroddiad newydd ‘Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd’ Cliciwch yma i weld y datganiad i’r wasg ar gyfer yr adroddiad. Cliciwch yma i weld yr adroddiad

22 Awst 2019

POSTPONED: Introduction to Health Impact Assessment Training Session

Mae’r sesiwn a gynlluniwyd ar gyfer dydd Mawrth, 3ydd o Fawrth yng Ngogledd Cymru wedi’i gohirio nes bydd rhybudd pellach. Bydd dyddiadau newydd yn cael eu rhyddhau maes o law. Bydd y sesiwn yn cwmpasu:Dealltwriaeth sylfaenol o Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), beth ydyw a sut mae’n cael ei wneud; gwerthoedd ac elfennau sylfaenol HIA […]

2 Gorffennaf 2019

Cyhoeddwyd WHIASU Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd

Cyhoeddwyd WHIASU Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd Yr wythnos hon mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyfforddiant a meithrin gallu AEI. Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer […]

24 Mehefin 2019

Cyflwyniad WHIASU yn ystod y digwyddiad “Welsh Policy and Politics in Unprecedented Times

Cyflwyniad WHIASU yn ystod y digwyddiad “Welsh Policy and Politics in Unprecedented Times”. Cyflwynodd Nerys Edmonds o WHIASU gyflwyniad ar “Public Health Implications of Brexit: A HIA approach” yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Welsh Policy and Politics in Unprecedented Times”, ar y 24ain o fis Mai 2019 ym Mhrifysgol Abertawe. […]

5 Chwefror 2018

HIA Cynhwysfawr ar Ddarpariaeth Toiledau Cyhoeddus ar Ynys Mon

Cynhaliwyd yr HIA cyntaf erioed o strategaeth toiledau cyhoeddus ar Ynys Môn yn 2016 i lywio penderfyniadau mewn perthynas â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a hefyd yr angen i awdurdodau lleol baratoi strategaeth toiledau. Ers hynny mae wedi llywio Strategaeth Toiledau Llywodraeth Cymru yr ymgynghorir arni ar hyn o bryd ac mae’n cyfeirio […]

9 Tachwedd 2017

Newydd ei gyhoeddi – papur cyfnodolyn WHIASU/PRID ar HIA Fframwaith Economi’r Nos drafft Llywodraeth Cymru

Mae’r astudiaeth achos hwn yn amlinellu dull darpar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ail-ddatblygu fframwaith adweithiol presennol ar gyfer rheoli economi’r nos yng Nghymru. Drwy gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid yn y broses, llwyddwyd i ail-lunio amcanion rhagweithiol realistig sy’n cynnwys iechyd a llesiant ill dau. Mae’r erthygl hon yn amlygu manteision HIA, a […]