Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod byw mewn cartref oerach (ar dymheredd is na 18°C) yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys set o argymhellion ar y drefn wresogi foddhaol yng Nghymru.
Awduron: Rebecca Hill, Daniella Griffiths+ 5 mwy
, Hayley Janssen, Kat Ford, Nicholas Carella, Ben Gascoyne, Sumina Azam
Mae gweithio tuag at degwch iechyd yn dasg heriol ond un hollbwysig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio eich cefnogi yn y gwaith hwn, beth bynnag fo’ch rôl, drwy lunio ystod o offer cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’u datblygu i arwain y gwaith hwn mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o 22 o fframweithiau ac offer tegwch iechyd i gefnogi llywodraethau, sefydliadau ac unigolion i weithio tuag at degwch iechyd. Daethpwyd o hyd i fframweithiau ac offer trwy chwilio adnoddau rhyngwladol a chenedlaethol allweddol.
Awduron: Jo Peden, Rhiannon Griffiths+ 3 mwy
, Sara Southall, Rebecca Hill, Lauren Couzens (née Ellis)
Gall ymddiriedaeth mewn systemau iechyd a systemau eraill effeithio ar y nifer sy’n manteisio ar gyngor iechyd y cyhoedd ac sy’n ymgysylltu â gwasanaethau iechyd. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cynyddu risgiau unigolion o salwch, ac felly mae deall sut mae ACEs yn effeithio ar ymddiriedaeth mewn ffynonellau cyngor iechyd a chymorth arall yn bwysig i lywio ymgysylltiad â’r grŵp hwn sy’n agored i niwed. Archwiliodd yr astudiaeth hon y cysylltiadau rhwng ACEs ac ymddiriedaeth mewn cyngor iechyd, gwybodaeth arall a gwasanaethau cyhoeddus mewn sampl cynrychioliadol cenedlaethol o 1,880 o oedolion yng Nghymru.
Mae (ACEs) yn ystod Plentyndod yn brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel cam-drin plant a dod i gysylltiad ag anawsterau yn y cartref a thrais domestig, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl ac aelodau o’r teulu yn y carchar. Dadansoddodd yr astudiaeth ddata a gasglwyd gan 1,880 o oedolion sy’n byw ledled Cymru. Canfu fod y rhai a adroddodd am fwy nag un Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod niferus yn llawer mwy tebygol o ganfod na fyddent yn gallu ymdopi’n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw, yn annibynnol ar ffactorau gan gynnwys lefel incwm y cartref, statws cyflogaeth ac amddifadedd preswyl.
Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 4 mwy
, Katie Cresswell, Rebecca Hill, Kat Ford, Joanne C. Hopkins
Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gadw’n gynnes gartref yn ystod y gaeaf. Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau arolwg cenedlaethol ar gartrefi trigolion 18 oed a hŷn yng Nghymru rhwng Ionawr a Mawrth 2022 (cam un) ac a ailadroddwyd rhwng Ionawr a Mawrth 2023 (cam dau). Mae’r canfyddiadau’n defnyddio sampl o 507 o gyfranogwyr a gwblhaodd y ddau arolwg.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod tymereddau dan do o <18°C yn cael eu cysylltu ag effeithiau iechyd negyddol. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi, asesu a diweddaru tystiolaeth ar y cysylltiad rhwng tymereddau oer (h.y. <18°C) mewn cartrefi a’r canlyniadau iechyd a llesiant. Mae bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth gyfredol yn cael eu nodi, yn cynnwys ymchwil ar effeithiau tymereddau oer ar iechyd meddwl a llesiant, astudiaethau’n cynnwys plant ifanc ac effeithiau hir dymor tymerddau oer dan do ar iechyd.
Awduron: Hayley Janssen, Kat Ford+ 5 mwy
, Ben Gascoyne, Rebecca Hill, Manon Roberts, Mark Bellis, Sumina Azam
Mae cartrefi ledled Cymru a ledled y byd yn profi cynnydd mewn costau byw. Ers diwedd 2021,mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer eitemau sylfaenol fel bwyd ac ynni wedi bod yn fwy na’r cynnydd mewn cyflogau cyfartalog a thaliadau lles, gan arwain at ostyngiad mewn incwm gwario gwirioneddola. O ganlyniad, mae pwysau cynyddol ar gyllidebau cartrefi yn ei gwneud yn anoddach i bobl fforddio’r pethau sylfaenol a chyfeirir ato’n aml fel ‘argyfwng costau byw’. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a ddatblygwyd i ddeall sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd yng Nghymru; eu hymagweddau a’u penderfyniadau yn ymwneud â chostau byw cynyddol; a’u hymwybyddiaeth o gymorth a chynlluniau ariannol a mynediad iddynt.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r dystiolaeth lefel adolygiad sydd ar gael i arwain camau gweithredu ar leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn iechyd. Ceisiwyd tystiolaeth ar gyfer ymyriadau, rhaglenni a pholisïau iechyd y cyhoedd sy’n berthnasol i boblogaethau, grwpiau ac ardaloedd neu awdurdodaethau eraill a ddiffinnir yn ddaearyddol i archwilio a ydynt yn gwella canlyniadau iechyd pobl sy’n profi anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn ffafriol.
Mae animeiddiad Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) yn rhoi trosolwg o ymarferoldeb y platfform ac yn arwain y defnyddiwr fesul tudalen trwy bob adran ac adnodd. Mae’n arddangos yr Adnodd Data a’r Cynhyrchydd Adroddiadau hawdd eu defnyddio, y gellir eu teilwra i’r maes diddordeb a ddymunir i gynhyrchu allbynnau i lywio gwaith a llunio mewnwelediadau.
Awduron: Rebecca Hill, Jo Peden+ 7 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova, Daniela Stewart, James Allen, Golibe Ezenwugo, Anna Stielke, Kathryn Ashton
Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.
Mae’r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy’n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy’n gysylltiedig â’r termau hynny. Mae’r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol.
Bydd y tîm yn datblygu’r platfform dros amser er mwyn ychwanegu cynnwys a nodweddion ychwanegol.
Awduron: Rebecca Hill, Jo Peden+ 12 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova, Daniela Stewart, James Allen, Liz Green, Rebecca Masters, Leah Silva, Sara Cooklin-Urbano, Golibe Ezenwugo, Abigail Malcolm (née Instone), Jason Roberts, Rajendra Kadel
Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ar y naill law ac iechyd a llesiant ar y llaw arall.
Awduron: Hayley Janssen, Ben Gascoyne+ 4 mwy
, Kat Ford, Rebecca Hill, Manon Roberts, Sumina Azam
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol arolwg o oedolion sy’n byw yng Nghymru ynghylch eu canfyddiadau o ran newid hinsawdd ac iechyd. Er bod gwaith i ddeall a lliniaru newid hinsawdd yn magu momentwm yng Nghymru, prin yw’r wybodaeth o hyd am farn ac ymddygiad y boblogaeth. Mae data o’r fath yn hanfodol ar gyfer cyd-greu dulliau effeithiol a derbyniol o ymdrin â newid hinsawdd sy’n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd; targedu negeseuon a gwybodaeth allweddol; a sefydlu datrysiadau hirdymor ar draws Cymru a fydd yn parhau i gael eu cefnogi ar draws sawl cenhedlaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwn, datblygwyd arolwg cyhoeddus i geisio barn y boblogaeth am newid hinsawdd, ei berthynas ag iechyd, eu hymddygiad presennol sy’n ystyriol o’r hinsawdd, eu parodrwydd i gymryd rhan mewn camau gweithredu, a barn am ddatrysiadau polisi. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol yr arolwg, gan roi barn y boblogaeth ar newid hinsawdd ymhlith trigolion Cymru sy’n oedolion.
IMewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 olynol yng Nghymru, lansiodd Hyb Cymorth ACE Cymru yr ymgyrch #AmserIFodYnGaredig ym mis Mawrth 2021. Defnyddiodd yr ymgyrch ffilm fer a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol a’i hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol i annog newid ymddygiad er mwyn bod yn garedig. Mae’r llawysgrif hon yn gwerthuso ffilm yr ymgyrch #AmserIFodYnGaredig. Roedd y canfyddiadau’n awgrymu’n gryf y gall ffilm fod yn arf effeithiol i hybu newid ymddygiad er mwyn bod yn garedig ac y gall hyd yn oed ffilmiau sy’n ysgogi adweithiau emosiynol cryf gael eu dirnad yn gadarnhaol ac arwain at newid ymddygiad. Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn berthnasol i sut y gall negeseuon iechyd y cyhoedd addasu a defnyddio gofod ar-lein i dargedu unigolion a hyrwyddo newid ymddygiad.
Nod yr adroddiad hwn yw cryfhau’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o oblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) o’r Undeb Ewropeaidd
(UE) – ‘Brexit’ – i dlodi, ac iechyd a llesiant yng Nghymru.
Awduron: Sumina Azam, Katie Hardcastle+ 6 mwy
, Laura Morgan, Rebecca Hill, Michael Fletcher, Tom Johnson, Liz Green, Mark Bellis
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a/neu gael mynediad at wybodaeth. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn ein galluogi i brosesu data megis ymddygiad pori neu IDau unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl gael effaith andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.