Creu cymunedau iachach mewn hinsawdd sy'n newid - clawr blaen

Creu cymunedau iachach mewn hinsawdd sy’n newid

Mae’r briff hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a phartneriaid, yn amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen ledled Cymru i gryfhau addasu i’r hinsawdd, diogelu iechyd, lleihau anghydraddoldebau a meithrin gwydnwch i effeithiau newid hinsawdd.

Mae’n nodi camau ymarferol ar draws sectorau i helpu i feithrin gwydnwch, lleihau anghydraddoldebau a chefnogi system iechyd sy’n barod ar gyfer yr hinsawdd.

Mae’n tynnu sylw at dri maes allweddol ar gyfer gweithredu:

• Cryfhau gwydnwch cymunedol a diogelu iechyd y cyhoedd
• Creu lleoedd iach sy’n wydn o ran yr hinsawdd
• Galluogi system iechyd sy’n barod ar gyfer yr hinsawdd

Awduron: Ann Jones, Tracy Evans+ 4 mwy
, Eurgain Powell, Jessica Stone, Helen Bradley, Rebecca Masters

Buddsoddi mewn Cymru Iachach: blaenoriaethu atal

Mae iechyd da yn hawl sylfaenol, ond yng Nghymru, mae canlyniadau iechyd yn amrywio’n annheg ar draws cymunedau. Mae’r adroddiad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn atal i helpu pawb i fyw bywydau hirach ac iachach. Mae rhaglenni atal effeithiol yn cynnig gwerth gwych am arian ac yn hanfodol ar gyfer blaenoriaethu cyllid cyhoeddus. Gallant fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gwrthdroi dirywiad iechyd y genedl, a hybu llesiant.

Mae’r adroddiad yn integreiddio canfyddiadau blaenorol ag ymchwil ddiweddar ar raglenni iechyd y cyhoedd gwerth am arian, gan amlygu ymyriadau llwyddiannus ar draws tri cham bywyd: y blynyddoedd cynnar, oedolion iach, a heneiddio’n iach. Mae’n amlygu bod yn rhaid i atal fod yn rhan o strategaeth ehangach i leihau anghydraddoldebau iechyd, gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a lleihau tlodi, gyda gwariant wedi’i dargedu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Awduron: Rebecca Masters, Ann Jones+ 6 mwy
, Anna Stielke, Rajendra Kadel, Sumina Azam, Jo Davies, Leah Jenkins, Aseel Dardur

Lleihau Allyriadau Carbon

Mae’r ffeithlun hon yn esbonio pam fod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sylweddol i iechyd. Mae’n cynnwys ffeithiau am newid hinsawdd ac yn awgrymu camau y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau ein heffaith i helpu i ddiogelu iechyd pobl yn ogystal ag iechyd y blaned.

Awduron: Ann Jones