Gwyddor Ymddygiad Ar Waith | Uned Gwyddor Ymddygiad @ Iechyd Cyhoeddeus Cymru | Adolygiad 2024-25

Mae’r adroddiad hwn ar gyfer staff, timau a gwasanaethau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn nodi’r amrywiaeth o waith, ar draws yr ystod o flaenoriaethau, y mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n gweithgareddau allweddol. Mae’n cydnabod y partneriaid sydd wedi gweithio gyda ni, yn rhoi mewnwelediad i’r rhai sy’n ystyried gweithio gyda ni ac yn myfyrio ar ein heffaith yn ogystal â’n cyflawniad.

Awduron: Jason Roberts, Jennifer Thomas+ 2 mwy
, Jonathan West, Ashley Gould

BICI: Menter Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad Llyfr Gwaith

Mae’r llyfr gwaith rhyngweithiol hwn yn adeiladu ar fframwaith ‘SCALE’, a gyflwynwyd gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad am y tro cyntaf yn 2023. Mae’r llyfr gwaith yn cynnwys nifer o weithgareddau, sydd wedi’u cynllunio i helpu i’ch arwain trwy’r broses o ddatblygu darn o gyfathrebu trwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad.

Awduron: Alice Cline, Ashley Gould+ 2 mwy
, Jennifer Thomas, Melda Lois Griffiths

Dylanwad Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws y system iechyd cyhoeddus: Gwerthusiad mapio realaidd o’r crycheffeithiau

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at themâu allweddol i’w datblygu sy’n cynnwys meithrin perthnasoedd, datblygu gallu, a’r defnydd ymarferol o wyddor ymddygiad mewn polisi ac mewn ymarfer. Fel dull hanfodol o wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau, gall gwyddor ymddygiad helpu i wneud y gorau o bolisïau, gwasanaethau a chyfathrebu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwerthusiad hwn o effeithiau ehangach realaidd yn darparu argymhellion allweddol i ysgogi effaith barhaus.

Awduron: Jennifer Thomas, Alice Cline+ 3 mwy
, Ashley Gould, Kevin Harris, Lois Ryan

Newyddion Gwyddor Ymddygiad | Tachwedd 2024 | Rhifyn 01

Mae’r gyfres hon yn cynnwys adnoddau ymarferol i’ch cefnogi wrth gymhwyso gwyddor ymddygiad i’ch gwaith. Yn y rhifyn hwn, fe welwch amrywiaeth o astudiaethau achos, adnoddau, offer a chanllawiau i helpu i roi theori gwyddor ymddygiad ar waith a gwneud y gorau o ganlyniadau eich gwaith.

Awduron: Jason Roberts, Jennifer Thomas+ 2 mwy
, Ashley Gould, Robert West