Ysgogi Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles

Mae’r canllaw hwn yn nodi deg cyfle polisi allweddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mae cyfleoedd a nodwyd yn yr adroddiad yn mynd i’r afael â meysydd o faich a chost uchel yng Nghymru, gan sicrhau enillion economaidd yn ogystal ag elw cymdeithasol ac amgylcheddol, a chefnogi twf economaidd cynhwysol cynaliadwy. Bydd y canllaw yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru.

Awduron: Mariana Dyakova, Mark Bellis+ 4 mwy
, Sumina Azam, Kathryn Ashton, Anna Stielke, Elodie Besnier

Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd

Mae ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd (UE) (y cyfeirir ato’n anffurfiol fel “Brexit”) yn ddigwyddiad digynsail yn hanes y DU, ac mae tystiolaeth o effaith Brexit ar ystod eang o feysydd polisi naill ai’n anhysbys neu’n cael ei herio’n sylweddol. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) er mwyn deall goblygiadau posibl Brexit yn well ar gyfer iechyd a lles yng Nghymru yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Nerys Edmonds+ 5 mwy
, Laura Morgan, Rachel Andrew, Malcolm Ward, Sumina Azam, Mark Bellis

Gwneud Gwahaniaeth: Lleihau’r risg i iechyd sydd yn gysylltiedig â llygredd traffig ar y ffyrdd yng Nghymru

Mae’r gwaith hwn yn estyniad o adroddiad Gwneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n defnyddio tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i nodi camau i leihau llygredd aer sy’n gysylltiedig â thraffig ar y ffyrdd, risgiau ac anghydraddoldebau.

Awduron: Charlotte Grey, Huw Brunt+ 7 mwy
, Sarah Jones, Sumina Azam, Joanna Charles, Tom Porter, Angela Jones, Teri Knight, Sian Price

Datblygu cynaliadwy yng Nghymru a rhanbarthau eraill yn Ewrop – cyflawni iechyd a thegwch ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol

Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig (2015), a ategir gan fframwaith a strategaeth polisi Ewropeaidd WHO ar gyfer yr 21ain ganrif, Health 2020, yn garreg filltir ar gyfer datblygiad dynol a phlanedol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnig ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i weithredu’r agendâu hyn ar y lefelau cenedlaethol a rhanbarthol ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO.

Awduron: Cathy Weatherup, Sumina Azam+ 1 mwy
, Mariana Dyakova

Datblygu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy Iechyd ym Mhob Polisi: Astudiaethau achos o bob cwr o’r byd

Datblygwyd y Llyfr Astudiaeth Achos hwn, Datblygu’r Nodau Datblygu Cynaliadwytdrwy Iechyd ym mhob Polisi: Astudiaethau achos o bob cwr o’r byd fel canlyniad Cynhadledd Ryngwladol Iechyd ym Mhob Polisi Adelaide 2017 a noddwyd ar y cyd gan Lywodraeth De Awstralia a Sefydliad Iechyd y Byd.

Awduron: Cathy Weatherup, Sumina Azam+ 5 mwy
, Michael Palmer, Cathy Madge, Richard Lewis, Mark Bellis, Andrew Charles