Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddarllenwyr weld methodoleg yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a ddefnyddiwyd gan y tîm.

Awduron: Michael Fletcher, Laura Evans+ 3 mwy
, Lee Parry-Williams, Kathryn Ashton, Liz Green

Atal digartrefedd mewn unigolion sydd â phrofiad o ofal

Mae nifer a chyfradd y plant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae unigolion sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na phobl ifanc eraill.
Mae modelau ymarfer amrywiol i gefnogi pobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal gyda’r nod o atal digartrefedd. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi a dadansoddi modelau ymateb Cymru, y Deyrnas Unedig (DU) a rhai rhyngwladol mewn perthynas ag unigolion â phrofiad o ofal (16- 25 oed) ac atal digartrefedd, a nodi arfer addawol yn y maes hwn a meysydd pellach ar gyfer gwelliant.
Ceisiodd yr astudiaeth dulliau cymysg newydd hon roi llais I bobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth ryngwladol a phrofiad byw unigolion sydd â phrofiad o ofal, ac yn rhoi awgrymiadau gan ddarparwyr gwasanaethau ar fodelau gofal newydd a’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith.
Bydd o ddiddordeb i lunwyr polisi, ymarferwyr tai ac ymarferwyr gofal cymdeithasol fel ei gilydd.

Awduron: Claire Beynon, Laura Morgan+ 5 mwy
, Laura Evans, Oliver Darlington, Louise Woodfine, Lewis Brace, Manon Roberts

Diogelu lles meddyliol cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru.

Cynhaliwyd y MWIA gydag ymgysylltiad pobl ifanc, athrawon a darlithwyr a chefnogaeth Grŵp Cynghori Strategol gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru.

Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio at adferiad o’r pandemig, argyfyngau yn y dyfodol a gwella lles meddwl y boblogaeth yn y tymor hir.

Awduron: Nerys Edmonds, Laura Morgan+ 7 mwy
, Huw Arfon Thomas, Michael Fletcher, Lee Parry-Williams, Laura Evans, Liz Green, Sumina Azam, Mark Bellis

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru, Pwyslais ar: Gymunedau Gwledig

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Adam Jones, Mark Bellis

Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19

Mae’r pandemig wedi amlygu’n echblyg, ac mewn rhai enghreifftiau, wedi gwaethygu’r effeithiau o ran iechyd, lles ac anghydraddoldebau ar draws y boblogaeth sy’n deillio o benderfynyddion fel yr amgylchedd, y defnydd o dir, trafnidiaeth, yr economi a thai. Nod yr adroddiad hwn yw amlygu effeithiau iechyd cadarnhaol a negyddol polisïau cynllunio gofodol yn ystod y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru, dysgu o’r rhain, unrhyw ymyriadau cadarnhaol a chyd-fanteision er mwyn siapio amgylchedd mwy iach i bawb yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Sue Toner+ 7 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Tom Johnson, Gemma Christian, Cheryl Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch

Mae’r Asesiad o Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol hwn yn archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai a thai heb ddiogelwch, ac yn edrych ar bwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac sy’n teimlo’n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, a gallu cynnal to uwch eich pen ac atal digartrefedd yn y pen draw. Dyma’r trydydd mewn cyfres, sy’n canolbwyntio ar effaith y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru gan gynnwys y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’ ac effaith gweithio gartref ac ystwyth. Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â’r rhain a’r adrannau ar dai a gweithio gartref oddi mewn iddynt.

Awduron: Louise Woodfine, Liz Green+ 9 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Christian Heathcote-Elliott, Charlotte Grey, Yoric Irving-Clarke, Matthew Kennedy, Catherine May, Sumina Azam, Mark Bellis

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Yn yr adroddiad hwn rhoddir trosolwg strategol o effaith Brexit, y pandemig COVID-19 a’r newid yn yr hinsawdd, sy’n
ddigwyddiadau arwyddocaol, a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae’n nodi’r penderfynyddion allweddol a’r grwpiau poblogaeth y mae’r Her Driphlyg yn effeithio arnynt ac yn darparu enghraifft allweddol ar gyfer pob penderfynydd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Adam Jones, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Oherwydd y pandemig a pholisïau fel y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’, mae gweithio gartref ac ystwyth wedi dod yn angenrheidiol i lawer o sefydliadau a chyflogeion. Nod yr AEI yw nodi effaith y newid hwn mewn arferion gwaith a chyfleu effeithiau gwahaniaethol newid o’r fath ar sefydliadau, poblogaeth waith Cymru, eu teuluoedd a chymunedau lleol.

Awduron: Liz Green, Richard Lewis+ 5 mwy
, Laura Evans, Laura Morgan, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Mae’r HIA yn amlinellu effeithiau posibl y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (a elwir yn gyffredin yn ‘Gyfnod Clo’) ar iechyd a lles poblogaeth Cymru yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae’n defnyddio’r hyn a ddysgwyd o dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf a barn rhanddeiliaid arbenigol

Awduron: Liz Green, Laura Morgan+ 5 mwy
, Sumina Azam, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Louisa Petchey, Mark Bellis