Mae’r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn hysbysu, yn eirioli ac yn ysgogi i wneud y gorau o bolisïau ac arferion er mwyn gwella a diogelu iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Gan weithio ar draws y sefydliad a chyda’n partneriaid, rydym yn helpu i sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru ar flaen y gad o ran arweinyddiaeth ac eiriolaeth, tystiolaeth ar gyfer gweithredu, yn ogystal â rhoi cymorth iechyd y cyhoedd uniongyrchol i randdeiliaid er mwyn gwella effeithiolrwydd ac ansawdd gweithgareddau iechyd y cyhoedd ledled Cymru a thu hwnt. Rydym yn cefnogi staff a’r system iechyd y cyhoedd ehangach i ennill yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau trwy feithrin galluogrwydd a gallu, a defnyddio’r cyfleoedd sydd ar gael i gymhwyso’r dystiolaeth a’r arferion gorau diweddaraf er mwyn llywio penderfyniadau. Ein nod yw sicrhau bod dysgu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol o bolisïau, ymchwil ac arferion yn cael ei ddwyn ynghyd i gefnogi’r sefydliad ehangach a’n partneriaid yng Nghymru. Dynodwyd y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ ym mis Mawrth 2018, a chafodd ei hail-ddynodi am 4 blynedd arall ym mis Mawrth 2022. Dros raglen waith 4 blynedd, bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn datblygu, casglu a rhannu gwybodaeth ac offer ar y ffordd orau o fuddsoddi mewn gwell iechyd, lleihau anghydraddoldebau, adeiladu cymunedau cryfach a systemau cydnerth yng Nghymru, Ewrop a ledled y byd. Bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn llywio ac yn hyrwyddo polisïau mwy cynaliadwy, yn croesawu egwyddorion hawliau dynol, tegwch ac ymyriadau ar sail tystiolaeth; a helpu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am gynllun gwaith Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC). |
Uwch Dîm Rheoli Cyfeiriadur staff
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisïau ac Iechyd Ryngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd
Yn Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol/Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd
I gael rhagor o wybodaeth am y Gyfarwyddiaeth, cysylltwch â ni:
Caerdydd
Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Rhif 2 Capital Quarter,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ
Ffôn: +44 2920 227744
E-bost [email protected]
Gwefan: icccgsib.co.uk
Wrecsam
Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Tŷ Clwydian,
Parc Technoleg Wrecsam,
Wrecsam,
LL13 7YP
E-bost [email protected]
Gwefan: icccgsib.co.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.