17 Rhagfyr 2018

Ymweliad Astudio Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (RHN) WHO i Andalusia

Mae Cymru wedi bod yn agos-gysylltiedig â Rhwydwaith Iechyd ar gyfer Rhanbarthau (RHN) Ewrop WHO ers blynyddoedd lawer.  Mae aelodaeth o’r rhwydwaith yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu perthynas ag ystod o ranbarthau a gwledydd gwahanol yn Rhanbarth Ewrop WHO, gyda’r bwriad o rannu gwybodaeth am waith yng Nghymru a dysgu o brofiadau rhannau eraill […]

5 Medi 2018

Adroddiad newydd yn amlygu effaith niweidiol trawma yn ystod plentyndod ar addysg – a’r hyn sy’n amddiffyn rhai plant rhag hynny

Ar drothwy blwyddyn ysgol newydd, mae astudiaeth newydd wedi darganfod effaith trawma cynnar ar addysg plant a’u rhagolygon ar gyfer iechyd da yn y dyfodol. Fel rhan o’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMC Public Health, siaradwyd ag oedolion yng Nghymru am eu cysylltiad â chamdriniaeth yn ystod plentyndod a mathau eraill o drawma cynnar […]

16 Gorffennaf 2018

Lansio Canolfan Gydweithredol WHO ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’

Lansiwyd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y Gyfarwyddiaeth Ymchwil Polisi a Datblygiad Rhyngwladol ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ ar 14 Mehefin. Dynodwyd y gyfarwyddiaeth yn Ganolfan Gydweithredol swyddogol gan Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Mawrth eleni, gan olygu mai hon yw’r unig ganolfan gydweithredol a’r ganolfan gyntaf yn y byd […]

12 Mehefin 2018

Cyhoeddi adroddiad cynnydd newydd yr IHCC (2015-2017)

Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn amlygu ei chyflawniadau yn cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru. Mae Adroddiad Cynnydd diweddaraf yr IHCC yn amlinellu gwaith, cynnydd a chyflawniadau o 2015 i 2017 a wnaed gan yr IHCC a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru yn y maes hwn. […]

28 Mawrth 2018

Datganiad I’r Wasg: Cymru – yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’. Mae’r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o’r awdurdodau sy’n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu […]

23 Tachwedd 2017

Datblygu cynaliadwy yng Nghymru a rhanbarthau Ewropeaidd eraill

Mae Agenda’r Cenhedloedd Unedig 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, wedi ei hategu gan Iechyd 2020 (fframwaith polisi iechyd Ewropeaidd WHO) yn gerrig milltir ar gyfer datblygiad dynol a phlanedol. Mae datblygu cynaliadwy yng Nghymru a rhanbarthau Ewropeaidd eraill yn nodi cyfleoedd i weithredu’r agendâu hyn ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae’r cyhoeddiad yn canolbwyntio ar […]

31 Hydref 2017

Argraffiad newydd o Disease Control Priorities

Mae’r trydydd argraffiad o   Disease Control Priorities, (DCP3), yn crynhoi gwybodaeth sefydliadau ac   arbenigwyr o bob cwr o’r byd am iechyd byd-eang. Teitl y seithfed gyfrol yw:   Injury Prevention and Environmental Health. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i   wefan Disease Control Prioritiese. (Saesneg yn unig)

12 Hydref 2017

Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd Cymru

Mae 5ed rhifyn Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd Cymru, ‘Gwyliwch Affrica’ yn ôl gydag ystod amrywiol o straeon ysbrydoledig, arloesol, addysgiadol a heriol sydd yn procio’r meddwl o gyfandir Affrica. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwyliwch Affrica. (Saesneg yn unig)

30 Gorffennaf 2017

Adroddiad newydd yn archwilio effaith digwyddiadau diweithdra torfol ar iechyd, a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r effaith honno.

Yn ystod y flwyddyn yn dilyn colli swyddi o ganlyniad i ddigwyddiadau diweithdra torfol, gall gweithwyr brofi dwbl y risg o farwolaeth o drawiad ar y galon neu strôc, a chynnydd uwch eto o risg o glefydau cysylltiedig ag alcohol. Gall effeithiau andwyol ar iechyd bara am ddegawdau, gydag aelodau teuluoedd yn cael eu heffeithio […]

24 Gorffennaf 2017

Ysgol Haf Sefydliad Iechyd y Byd ar Iechyd Ffoaduriaid a Mudwyr

Yn ddiweddar, cynhaliodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ewrop yr Ysgol Haf 1af ar Iechyd Ffoaduriaid a Mudwyr, cwrs dwys, 5 diwrnod, gafodd ei gynnig o dan fantell Hyb Gwybodaeth Ewropeaidd WHO ar Iechyd a Mudo. Cynhaliwyd yr Ysgol Haf yn Syracuse, yr Eidal, ar 10–14 Gorffennaf 2017. Dewiswyd Syracuse fel lleoliad oherwydd lefel uchel […]