Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19 Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi
Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ym maes cynllunio gofodol gyda chydweithwyr ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl wrth adfer o bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn digwyddiad ‘Creu lleoedd a mannau iach: dull […]
Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch
Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) a’r Tîm Polisi yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch’. Mae’r Asesiad o Effaith ar […]
Adnodd newydd yn tynnu sylw at effeithiau newid yn yr hinsawdd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau. Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio […]
Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru Pwyslais ar: Ddiogelwch Bwyd
Heddiw mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Cyfarwyddiaeth ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) wedi cyhoeddi ail adroddiad byr sy’n datod rhai o effeithiau cronnus Brexit, COVID-19 a newid hinsawdd ar iechyd a lles yng Nghymru. Yn dilyn ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 […]
Pecyn cymorth newydd yn galluogi i iechyd gael ei gynnwys mewn cynllunio tir yn y dyfodol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau […]
Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd
Heddiw cyhoeddodd dîm Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) ‘Ymateb i her driphlyg Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’. Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg strategol o effeithiau cronnus a rhyng-gysylltiedig iechyd a llesiant oherwydd Brexit, pandemig COVID-19 a newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a’r […]
‘Iechyd ym Mhob Polisi’ – Sbardun Allweddol ar gyfer Iechyd a Llesiant mewn Byd ar ôl y Pandemig COVID-19
Mae pandemig COVID-19 wedi codi proffil iechyd y cyhoedd ac wedi tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng iechyd a meysydd polisi eraill. Mae’r papur hwn yn disgrifio’r rhesymeg dros fecanweithiau Iechyd ym mhob Polisi (HiAP), a’r egwyddorion sy’n sail iddynt, gan gynnwys Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), profiadau, heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. […]
Defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ddeall goblygiadau penderfyniadau polisi ar gyfer iechyd a llesiant ehangach: ‘polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ Covid-19 yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ neu’r ‘Cyfnod Clo’ mewn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru. Mae’n disgrifio’r broses a’r canfyddiadau, yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd ac yn trafod sut y defnyddiwyd y broses […]
Adnodd Newydd i helpu i greu amgylcheddau iachach a mynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. Mae ‘Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach’ yn gyfres o ddogfennau sydd wedi’u datblygu gan arbenigwyr iechyd i gynorthwyo swyddogion polisi […]