Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais

Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio’r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.

Fel rhan o’r broses o roi Fframwaith Cymru Heb Drais ar waith, bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i ddatblygu er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth hygyrch er mwyn deall, cefnogi a chynnal asesiad beirniadol o’r rhan y gall rhaglenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi dynion a bechgyn ei chwarae wrth atal trais. Ar hyn o bryd, mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dau adroddiad a ffeithlun:

-“Rydych chi wedi rhoi’r hyder i mi herio’r ffordd y mae bechgyn yn trin merched” Canfyddiadau Allweddol o Brosiectau ‘Profi a Dysgu’ yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau o grwpiau ffocws a gynhaliwyd fel rhan o brosiectau Profi a Dysgu Plan International UK. Yn bennaf, mae’n archwilio tystiolaeth o ymarfer ac o lenyddiaeth sy’n ymdrin â’r ffactorau galluogi a’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â dynion a bechgyn wrth atal trais.

-Buddsoddi mewn cynghreiriaid a chenhadon – ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais: Adolygiad o Raglenni yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhaglenni yng Nghymru sy’n anelu at ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais. Nodwyd y rhaglenni hyn gan weithwyr proffesiynol fel rhan o arolwg, ac mae’r adroddiad hwn yn darparu ystyriaethau i ymarferwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chomisiynwyr mewn perthynas â datblygu prosiectau, gan gynnwys gwerthuso, a rhoi prosiectau ar waith.

-Ffeithlunsy’n nodi’r ystyriaethau allweddol sy’n deillio o’r ddau adroddiad wrth gynllunio a gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.

Cliciwch yma i edrych ar y Pecyn Cymorth: https://cymruhebdrais.com/adnoddau

Awduron: Alex Walker, Lara Snowdon+ 4 mwy
, Shauna Pike, Bryony Parry, Emma Barton, Anne-Marie Lawrence

Archwilio parhad mathau o ACE rhwng cenedlaethau ymhlith sampl o garcharorion gwrywaidd o Gymru: Astudiaeth draws-adrannol ôl-weithredol

Archwiliodd yr astudiaeth hon barhad profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) rhwng y cenedlaethau mewn poblogaeth sy’n ymwneud â chyfiawnder gwrywaidd. Cwblhaodd 294 o dadau 18-69 oed mewn carchar yng Nghymru holiadur yn archwilio eu hamlygiad i ACEs. Roedd yr holiadur hefyd yn mesur amlygiad pob plentyn yr oeddent wedi eu tadogi i ACE. Canfu’r astudiaeth dystiolaeth o barhad mathau o ACE rhwng cenedlaethau. Canfuwyd bod amlygiad tadau i ACE yn cynyddu’r risg y byddai eu plant yn dod i gysylltiad ag ACE, i fwy nag un math o ACE ac ACE unigol fel ei gilydd.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 3 mwy
, Karen Hughes, Natasha Judd, Emma Barton

Atal trais rhywiol yn economi’r nos: Annog dynion i fod yn wylwyr gweithredol

Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy’n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu’n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu’r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.

Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .

Mae’r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o’r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau’r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.

Awduron: Alex Walker, Bryony Parry+ 2 mwy
, Emma Barton, Lara Snowdon

Cymru Heb Drais: Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.

Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.

Awduron: Alex Walker, Bryony Parry+ 2 mwy
, Emma Barton, Lara Snowdon

Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud

Datblygodd Uned Atal Trais Cymru ymgyrch atal trais, #DiogelDweud, mewn cydweithrediad ag Ymgyrch Good Night Out a gyda chefnogaeth gan Cymorth i Ferched Cymru. Nod yr ymgyrch oedd atal achosion o aflonyddu rhywiol a thrais yn yr economi liw nos wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio yng Nghymru.

Mae’r gwerthusiad hwn yn adrodd ar Gam Un yr ymgyrch, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Dangosodd y gwerthusiad, ar y cyfan, bod yr ymgyrch wedi bodloni ei bedwar amcan drwy annog tystion i ymddwyn mewn modd cymdeithasol gadarnhaol wrth ymateb i aflonyddu rhywiol yn yr economi liw nos.

Awduron: Alex Walker, Emma Barton+ 2 mwy
, Bryony Parry, Lara Snowdon

Asesiad o Anghenion Iechyd: Effaith COVID-19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Mae’r ymchwil, a gwblhawyd gan Uned Atal Trais Cymru gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at y ffordd y mae COVID-19 wedi arwain at nifer o heriau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys newidiadau i arferion bob dydd, tarfu ar addysg a llai o gyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod yr heriau hyn, ynghyd â ffactorau eraill megis bywyd cartref a phryderon am lesiant a oedd yn bodoli eisoes, yn debygol o fod wedi cynyddu’r risg o brofi trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn arbennig ymhlith y plant a’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed.

Awduron: Katie Cresswell, Emma Barton+ 3 mwy
, Lara Snowdon, Annemarie Newbury, Laura Cowley

Safbwyntiau’r heddlu ar effaith yr hyfforddiant wedi’i Lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME) ar draws Cymru

Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn fanwl ar brofiad yr heddlu yn ystod rhaglen genedlaethol o drawsnewid a newid diwylliannol. Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfweliadau gyda swyddogion yr heddlu a staff a dderbyniodd Hyfforddiant ACE TIME. Mae’n archwilio ei safbwyntiau ar effaith yr hyfforddiant ar eu gwybodaeth a’u hymarfer a’u hagweddau tuag at y gwasasnaeth Cydlynydd ACE a gyflwynodd yr hyfforddiant a’r cymorth parhaus i blismona gweithredol.

Awduron: Hayley Janssen, Sophie Harker+ 4 mwy
, Emma Barton, Annemarie Newbury, Bethan Jones, Gabriela Ramos Rodriguez

Adroddiad Interim Deall Effaith COVID-19 ar Drais ac ACE a Brofir gan Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effaith COVID-19 a’r mesurau diogelu iechyd cysylltiedig ar blant a phobl ifanc trwy adolygiad o’r llenyddiaeth sydd ar gael a dadansoddiad o ddata amlasiantaeth. Mae’n cyfleu effaith annheg a hirdymor y gallai’r pandemig ei gael ar blant a phobl ifanc, ac mae’n amlygu ystyriaethau ar gyfer lleddfu’r canlyniadau negyddol hyn.

Awduron: Annemarie Newbury, Emma Barton+ 2 mwy
, Lara Snowdon, Joanne C. Hopkins

Asesiad cyflym o ailagor bywyd nos gan gyfyngu COVID-19 ac atal trais

Er mwyn cefnogi gwaith asiantaethau partner i ailagor bywyd nos yn ddiogel yn dilyn y cyfnod clo COVID-19 cyntaf, cynhaliodd Uned Atal Trais Cymru ymchwil cyflym i asesu’r dystiolaeth a’r arfer gorau byd-eang oedd yn dod i’r amlwg ar gyfer ailagor bywyd nos tra’n rheoli COVID-19 ac atal trais. Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau allweddol o sut mae bywyd nos wedi ailagor ledled y byd, sut y gall mesurau i leihau risgiau COVID-19 effeithio ar risgiau trais, ac yn darparu ystyriaethau allweddol ar gyfer agor bywyd nos yng Nghymru.

Awduron: Hayley Janssen, Katie Cresswell+ 7 mwy
, Natasha Judd, Karen Hughes, Lara Snowdon, Emma Barton, Daniel Jones, Sara Wood, Mark Bellis

Mynd i’r afael â’r ‘pandemig cysgodol’ drwy ddull iechyd cyhoeddus o atal trais

Mae arbenigwyr o bob cwr o’r byd wedi rhybuddio am ganlyniadau niweidiol cyfnod clo COVID-19 a chyfyngiadau ymbellhau corfforol ar drais yn y cartref, gyda’r Cenhedloedd Unedig yn ei ddisgrifio fel pandemig cysgodol. Mae’r naratif arloesi cymdeithasol hwn yn archwilio’r ffordd y mae ymagwedd iechyd y cyhoedd tuag at atal trais yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Uned Atal Trais aml-asiantaeth Cymru.

Awduron: Lara Snowdon, Emma Barton+ 4 mwy
, Annemarie Newbury, Bryony Parry, Mark Bellis, Jo Hopkins

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndodl: astudiaeth ôl-weithredol i ddeall eu heffaith ar salwch meddwl, hunan-niwed ac ymgais i gyflawni hunanladdiad ym mhoblogaeth gwrywaidd carchardai yng Nghymru

Mae carcharorion mewn mwy o berygl o iechyd meddwl gwael ac ymddygiad hunan-niweidio, a hunanladdiad yw prif achos marwolaeth yn y ddalfa. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE), fel cam-driniaeth pan yn blentyn, yn rhagfynegyddion cryf o iechyd a lles meddwl gwael ond er gwaethaf lefelau uchel o ACE mewn poblogaethau troseddwyr, cymharol ychydig o astudiaethau sydd wedi archwilio’r berthynas rhwng ACE ac iechyd a lles meddwl carcharorion.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 3 mwy
, Karen Hughes, Emma Barton, Annemarie Newbury

Atal – Strategaeth i atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc yn Ne Cymru 2020-2023

Datblygwyd y strategaeth hon gan Uned Atal Trais Cymru. Fe’i dyluniwyd fel fframwaith ar gyfer atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc yn Ne Cymru. Y brif gynulleidfa yw llunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud ag atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc, ac ymateb iddo. Ei nod yw grymuso unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais, gyda chefnogaeth ac arweiniad yr Uned Atal Trais.

Awduron: Lara Snowdon, Emma Barton+ 1 mwy
, Annemarie Newbury

Gwerthusiad o’r hyfforddiant wedi’i lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME): cyflwyno’n genedlaethol i’r heddlu a phartneriaid

Nod rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd Cymru gyfan (E.A.T.) oedd datblygu ymateb systemau cyfan i bobl sy’n agored i niwed er mwyn galluogi’r heddlu a phartneriaid amlasiantaeth (MA) i adnabod arwyddion o fod yn agored i niwed ar y cyfle cyntaf ac i gydweithio i ddarparu mynediad i gefnogaeth y tu hwnt i wasanaethau statudol. Yn allweddol i gyflawni hyn oedd datblygu a darparu’r rhaglen hyfforddiant wedi’i lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME). Gwerthusodd yr adroddiad cyfredol gam un y broses o gyflwyno’r hyfforddiant ACE TIME (rhwng mis Medi 2018 a mis Ionawr 2019).

Awduron: Freya Glendinning, Emma Barton+ 7 mwy
, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Michelle McManus, Sophie Harker, Mark Bellis

Asesiad o Anghenion Strategol Trais Ieuenctid Difrifol yn Ne Cymru: Adroddiad Uchafbwyntiau

Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad o epidemioleg trais difrifol gan bobl ifanc yn ardal heddlu De Cymru. Mae hyn yn cynnwys y tueddiadau sydd wedi eu sefydlu a rhai sy’n datblygu mewn trais, y cohortau sydd fwyaf agored i gymryd rhan mewn trais, y ffactorau risg ac amddiffynnol ar gyfer trais ac effaith trais ar systemau gofal iechyd.

Awduron: Annemarie Newbury, Lara Snowdon+ 3 mwy
, Emma Barton, Becca Atter, Bryony Parry

Datblygu system wyliadwriaeth a dadansoddi arferol ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal trais: Safbwynt amlasiantaeth (model De Cymru)

Mae ymdrechion i atal trais yn lleol wedi defnyddio data adrannau achosion brys yn bennaf (ED) i lywio gweithrediadau’r heddlu. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos effeithiolrwydd rhannu data iechyd o ran atal trais. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth hon ac yn defnyddio data gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans ac adrannau brys tri bwrdd iechyd i ddarparu cynrychiolaeth gyfannol o drais ar lefel leol fel y gellir nodi ffactorau sy’n cyfrannu a’u defnyddio i lywio camau ataliol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sefydlu system wyliadwriaeth arferol leol i lywio atal trais.

Awduron: Emma Barton, Sara Long+ 1 mwy
, Janine Roderick

Deall Tirwedd Plismona wrth Ymateb i Fregusrwydd: Cyfweliadau gyda swyddogion rheng flaen ledled Cymru

Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi ceisio deall y dirwedd o ran plismona bregusrwydd ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn cefnogi ymagwedd rhaglen E.A.T. Mae’n amlinellu realiti ymateb i unigolion sy’n agored i niwed ar gyfer swyddogion rheng flaen, y galluogwyr a’r rhwystrau wrth ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn archwilio cyflwyno’r hyfforddiant aml-asiantaeth Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd sydd yn wybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (hyfforddiant ACE TIME). Mae’r adroddiad hwn yn darparu’r cyd-destun unigol, sefyllfaol a sefydliadol i weld canfyddiadau ar ôl hyfforddiant ACE TIME a darparu argymhellion allweddol wrth baratoi i gyflwyno rhaglen genedlaethol trawsnewid a newid diwylliant o fewn plismona.

Awduron: Emma Barton, Michelle McManus+ 7 mwy
, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Felicity Morris, Bethan Morris, Jo Roberts

Symud o Arloesedd yr Heddlu i Raglen Genedlaethol o Drawsnewidiad

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg lefel uchel o’r siwrnai a’r trawsnewidiad o brosiect lleol PIF Heddlu De Cymru i Raglen Genedlaethol o newid Trawsnewidiol. Mae’n manylu ar fframwaith allweddol rhaglen E.A.T, ei nodau a’i hamcanion, rolau allweddol, y mecanweithiau cyflawni o fewn mesurau hyfforddiant a gwerthuso ACE TIME a ddefnyddir. Cyflwynir canfyddiadau astudiaeth beilot fach, sy’n ystyried cywirdeb y pecyn hyfforddi a’r taclau gwerthuso a ddatblygwyd i fesur effaith yr hyfforddiant cyn ei gyflwyno’n genedlaethol.

Awduron: Annemarie Newbury, Emma Barton+ 5 mwy
, Michelle McManus, Gabriela Ramos Rodriguez, Georgia Johnson, Hayley Janssen, Freya Glendinning

Gwerthusiad o Ymagwedd Ysgol Gyfan sy’n Wybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

Mae tystiolaeth eang o effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ar ddatblygiad plant a’r canlyniadau dilynol yn nes ymlaen mewn bywyd. Fodd bynnag, gall datblygu cadernid mewn plant helpu i amddiffyn rhag effeithiau trawma a lleihau’r risg o ganlyniadau gwael pan yn oedolion. Mae’r ymagwedd ysgol gyfan sy’n wybodus am ACE yn rhaglen sydd wedi’i datblygu i gyflwyno a gweithredu arferion sy’n wybodus am drawma mewn ysgolion. Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol o ymagwedd y peilot hwn.

Awduron: Emma Barton, Annemarie Newbury+ 1 mwy
, Jo Roberts

Mae ymagwedd rhannu data yn cynrychioli cyfraddau a phatrymau trais gydag ymosodiadau sydd yn anafu yn fwy cywir

Ymchwilio i weld a all rhannu a chysylltu data trais a gesglir fel mater o drefn ar draws systemau iechyd a chyfiawnder troseddol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o drais, sefydlu patrymau o dan-adrodd a llywio’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso mentrau atal trais yn well.

Awduron: Benjamin J. Gray, Emma Barton+ 4 mwy
, Alisha Davies, Sara Long, Janine Roderick, Mark Bellis