Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynnydd yn y diddordeb mewn trais fel mater iechyd y cyhoedd. Mae atal trais cyn iddo ddigwydd a datblygu strategaethau ymateb effeithiol yn allweddol i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac i wella iechyd a llesiant. Mae’r arolygiad cwmpasu systematig hwn yn archwilio rôl fframweithiau iechyd y cyhoedd mewn camau atal cychwynnol ar gyfer trais rhyngbersonol.
Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio’r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.
Fel rhan o’r broses o roi Fframwaith Cymru Heb Drais ar waith, bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i ddatblygu er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth hygyrch er mwyn deall, cefnogi a chynnal asesiad beirniadol o’r rhan y gall rhaglenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi dynion a bechgyn ei chwarae wrth atal trais. Ar hyn o bryd, mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dau adroddiad a ffeithlun:
-“Rydych chi wedi rhoi’r hyder i mi herio’r ffordd y mae bechgyn yn trin merched” Canfyddiadau Allweddol o Brosiectau ‘Profi a Dysgu’ yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau o grwpiau ffocws a gynhaliwyd fel rhan o brosiectau Profi a Dysgu Plan International UK. Yn bennaf, mae’n archwilio tystiolaeth o ymarfer ac o lenyddiaeth sy’n ymdrin â’r ffactorau galluogi a’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â dynion a bechgyn wrth atal trais.
-Buddsoddi mewn cynghreiriaid a chenhadon – ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais: Adolygiad o Raglenni yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhaglenni yng Nghymru sy’n anelu at ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais. Nodwyd y rhaglenni hyn gan weithwyr proffesiynol fel rhan o arolwg, ac mae’r adroddiad hwn yn darparu ystyriaethau i ymarferwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chomisiynwyr mewn perthynas â datblygu prosiectau, gan gynnwys gwerthuso, a rhoi prosiectau ar waith.
-Ffeithlunsy’n nodi’r ystyriaethau allweddol sy’n deillio o’r ddau adroddiad wrth gynllunio a gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.
Cliciwch yma i edrych ar y Pecyn Cymorth: https://cymruhebdrais.com/adnoddau
Awduron: Alex Walker, Lara Snowdon+ 4 mwy
, Shauna Pike, Bryony Parry, Emma Barton, Anne-Marie Lawrence
Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy’n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu’n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu’r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.
Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .
Mae’r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o’r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau’r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.
Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.
Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.
Mae Uned Atal Trais Cymru wedi datblygu’r canllawiau hyn, sy’n benodol i Gymru, er mwyn helpu partneriaid amlasiantaethol i gwblhau asesiadau o anghenion strategol i ddeall sut mae trais yn effeithio ar eu cymunedau, fel rhan o’r Ddyletswydd Trais Difrifol.
Datblygodd Uned Atal Trais Cymru ymgyrch atal trais, #DiogelDweud, mewn cydweithrediad ag Ymgyrch Good Night Out a gyda chefnogaeth gan Cymorth i Ferched Cymru. Nod yr ymgyrch oedd atal achosion o aflonyddu rhywiol a thrais yn yr economi liw nos wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio yng Nghymru.
Mae’r gwerthusiad hwn yn adrodd ar Gam Un yr ymgyrch, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Dangosodd y gwerthusiad, ar y cyfan, bod yr ymgyrch wedi bodloni ei bedwar amcan drwy annog tystion i ymddwyn mewn modd cymdeithasol gadarnhaol wrth ymateb i aflonyddu rhywiol yn yr economi liw nos.
Mae’r astudiaeth hon, a gyflawnwyd gan Uned Atal Trais Cymru (VPU) a Phrifysgol Caerwysg, yn archwilio profiadau ac ymddygiad rhai sy’n sefyll gerllaw trais a cham-drin domestig yn ystod y pandemig COVID-19.
Awduron: Alex Walker, Rachel A Fenton+ 5 mwy
, Lara Snowdon, Bryony Parry, Emma Barton, Catherine Donovan, Mark Bellis
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig athrais rhywiol (VAWDASV) yn broblem fawr o raniechyd cyhoeddus, cyfiawnder troseddol a hawliau dynol, gydag amrywiaeth o ddeilliannau andwyol iiechyd a lles trwy gydol oes. Yng Nghymru, un o amcanion allweddol y strategaeth VAWDASV genedlaethol yw gwneud ymyrryd ac atal yn gynnar yn flaenoriaeth, gan gydnabod bod atal yn hanfodol i dorri’r cylch trais mewn teuluoedd a chymunedau. Diben yr adolygiad hwn yw nodi arfer effeithiol ar gyfer atal VAWDASV a defnyddio’r dystiolaeth i lywio’r gwaith o adnewyddu’r strategaeth VAWDASV genedlaethol yng Nghymru yn 2021.
Mae’r ymchwil, a gwblhawyd gan Uned Atal Trais Cymru gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at y ffordd y mae COVID-19 wedi arwain at nifer o heriau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys newidiadau i arferion bob dydd, tarfu ar addysg a llai o gyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod yr heriau hyn, ynghyd â ffactorau eraill megis bywyd cartref a phryderon am lesiant a oedd yn bodoli eisoes, yn debygol o fod wedi cynyddu’r risg o brofi trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn arbennig ymhlith y plant a’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effaith COVID-19 a’r mesurau diogelu iechyd cysylltiedig ar blant a phobl ifanc trwy adolygiad o’r llenyddiaeth sydd ar gael a dadansoddiad o ddata amlasiantaeth. Mae’n cyfleu effaith annheg a hirdymor y gallai’r pandemig ei gael ar blant a phobl ifanc, ac mae’n amlygu ystyriaethau ar gyfer lleddfu’r canlyniadau negyddol hyn.
Er mwyn cefnogi gwaith asiantaethau partner i ailagor bywyd nos yn ddiogel yn dilyn y cyfnod clo COVID-19 cyntaf, cynhaliodd Uned Atal Trais Cymru ymchwil cyflym i asesu’r dystiolaeth a’r arfer gorau byd-eang oedd yn dod i’r amlwg ar gyfer ailagor bywyd nos tra’n rheoli COVID-19 ac atal trais. Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau allweddol o sut mae bywyd nos wedi ailagor ledled y byd, sut y gall mesurau i leihau risgiau COVID-19 effeithio ar risgiau trais, ac yn darparu ystyriaethau allweddol ar gyfer agor bywyd nos yng Nghymru.
Awduron: Hayley Janssen, Katie Cresswell+ 7 mwy
, Natasha Judd, Karen Hughes, Lara Snowdon, Emma Barton, Daniel Jones, Sara Wood, Mark Bellis
Mae arbenigwyr o bob cwr o’r byd wedi rhybuddio am ganlyniadau niweidiol cyfnod clo COVID-19 a chyfyngiadau ymbellhau corfforol ar drais yn y cartref, gyda’r Cenhedloedd Unedig yn ei ddisgrifio fel pandemig cysgodol. Mae’r naratif arloesi cymdeithasol hwn yn archwilio’r ffordd y mae ymagwedd iechyd y cyhoedd tuag at atal trais yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Uned Atal Trais aml-asiantaeth Cymru.
Awduron: Lara Snowdon, Emma Barton+ 4 mwy
, Annemarie Newbury, Bryony Parry, Mark Bellis, Jo Hopkins
Datblygwyd y strategaeth hon gan Uned Atal Trais Cymru. Fe’i dyluniwyd fel fframwaith ar gyfer atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc yn Ne Cymru. Y brif gynulleidfa yw llunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud ag atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc, ac ymateb iddo. Ei nod yw grymuso unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais, gyda chefnogaeth ac arweiniad yr Uned Atal Trais.
Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad o epidemioleg trais difrifol gan bobl ifanc yn ardal heddlu De Cymru. Mae hyn yn cynnwys y tueddiadau sydd wedi eu sefydlu a rhai sy’n datblygu mewn trais, y cohortau sydd fwyaf agored i gymryd rhan mewn trais, y ffactorau risg ac amddiffynnol ar gyfer trais ac effaith trais ar systemau gofal iechyd.
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a/neu gael mynediad at wybodaeth. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn ein galluogi i brosesu data megis ymddygiad pori neu IDau unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl gael effaith andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.