Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddarllenwyr weld methodoleg yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a ddefnyddiwyd gan y tîm.

Awduron: Michael Fletcher, Laura Evans+ 3 mwy
, Lee Parry-Williams, Kathryn Ashton, Liz Green

Hwyluswyr, Rhwystrau a Safbwyntiau ar Rôl Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd wrth Hyrwyddo a Defnyddio Asesiadau Effaith ar Iechyd – Arolwg Cwmpasu Rhithwir Rhyngwladol a Chyfweliadau Arbenigol

Mae gan sefydliadau iechyd y cyhoedd rôl bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo a diogelu iechyd a llesiant poblogaethau. Ffocws allweddol sefydliadau o’r fath yw penderfynyddion ehangach iechyd, gan groesawu’r angen i hyrwyddo ‘Iechyd ym mhob Polisi’ (HiAP). Offeryn gwerthfawr i gefnogi hyn yw’r asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA). Mae’r astudiaeth gwmpasu hon yn anelu at gefnogi sefydliadau iechyd y cyhoedd i hyrwyddo’n fwy llwyddiannus ar gyfer defnyddio asesiadau o’r effaith ar iechyd a’r HiAP er mwyn hyrwyddo a diogelu iechyd, llesiant a thegwch. Mae’n tynnu sylw at y galluogwyr a’r rhwystrau ar gyfer defnyddio HIA yng nghyd-destunau’r cyfranogwyr ac mae’n awgrymu rhai camau y gall sefydliadau iechyd y cyhoedd eu cymryd a’r unedau y gallant ddysgu ohonynt. Gall canlyniadau’r astudiaeth hon fod yn blatfform i helpu i wella gwybodaeth, rhwydweithiau ac arbenigedd, er mwyn helpu i gefnogi dull ‘Iechyd ym mhob Polisi’ a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n bodoli ym mhob cymdeithas.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 4 mwy
, Lee Parry-Williams, Mariana Dyakova, Timo Clemens, Mark Bellis

Archwilio gwerth cymdeithasol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd: Arolwg cwmpasu rhyngwladol a chyfweliadau arbenigol

Mae cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn iechyd cyhoeddus ataliol drwy ddarlunio nid yn unig yr effaith ar iechyd ond gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus yn hanfodol. Mae hyn yn cael ei gyfleu gan y cysyniad o Werth Cymdeithasol, sydd o’i fesur, yn dangos gwerth rhyngsectoraidd cyfunol iechyd y cyhoedd. Gall yr ymchwil hon lywio gwaith yn y dyfodol i ddeall sut i fesur gwerth cymdeithasol cyfannol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus, er mwyn cryfhau gallu ac effaith sefydliadol, yn ogystal â chyflawni cymdeithas fwy teg, a system iechyd ac economi fwy cynaliadwy, gan gyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn iechyd cyhoeddus, wrth i ni adfer o COVID-19.

Awduron: Kathryn Ashton, Liz Green+ 4 mwy
, Timo Clemens, Lee Parry-Williams, Mariana Dyakova, Mark Bellis

Diogelu lles meddyliol cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru.

Cynhaliwyd y MWIA gydag ymgysylltiad pobl ifanc, athrawon a darlithwyr a chefnogaeth Grŵp Cynghori Strategol gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru.

Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio at adferiad o’r pandemig, argyfyngau yn y dyfodol a gwella lles meddwl y boblogaeth yn y tymor hir.

Awduron: Nerys Edmonds, Laura Morgan+ 7 mwy
, Huw Arfon Thomas, Michael Fletcher, Lee Parry-Williams, Laura Evans, Liz Green, Sumina Azam, Mark Bellis

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru, Pwyslais ar: Gymunedau Gwledig

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Adam Jones, Mark Bellis

Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgil y pandemig COVID-19

Mae’r pandemig wedi amlygu’n echblyg, ac mewn rhai enghreifftiau, wedi gwaethygu’r effeithiau o ran iechyd, lles ac anghydraddoldebau ar draws y boblogaeth sy’n deillio o benderfynyddion fel yr amgylchedd, y defnydd o dir, trafnidiaeth, yr economi a thai. Nod yr adroddiad hwn yw amlygu effeithiau iechyd cadarnhaol a negyddol polisïau cynllunio gofodol yn ystod y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru, dysgu o’r rhain, unrhyw ymyriadau cadarnhaol a chyd-fanteision er mwyn siapio amgylchedd mwy iach i bawb yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Sue Toner+ 7 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Tom Johnson, Gemma Christian, Cheryl Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Does unman yn debyg i gartref? Archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai heb ddiogelwch

Mae’r Asesiad o Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol hwn yn archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai a thai heb ddiogelwch, ac yn edrych ar bwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac sy’n teimlo’n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, a gallu cynnal to uwch eich pen ac atal digartrefedd yn y pen draw. Dyma’r trydydd mewn cyfres, sy’n canolbwyntio ar effaith y pandemig COVID-19 ar boblogaeth Cymru gan gynnwys y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’ ac effaith gweithio gartref ac ystwyth. Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â’r rhain a’r adrannau ar dai a gweithio gartref oddi mewn iddynt.

Awduron: Louise Woodfine, Liz Green+ 9 mwy
, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Christian Heathcote-Elliott, Charlotte Grey, Yoric Irving-Clarke, Matthew Kennedy, Catherine May, Sumina Azam, Mark Bellis

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, teg a chydlynus.

Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader cyn agor yr adnodd hwn er mwyn cael elwa ar ei swyddogaethau’n llawn.

Awduron: Liz Green, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Edwin Huckle

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Yn yr adroddiad hwn rhoddir trosolwg strategol o effaith Brexit, y pandemig COVID-19 a’r newid yn yr hinsawdd, sy’n
ddigwyddiadau arwyddocaol, a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae’n nodi’r penderfynyddion allweddol a’r grwpiau poblogaeth y mae’r Her Driphlyg yn effeithio arnynt ac yn darparu enghraifft allweddol ar gyfer pob penderfynydd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Adam Jones, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Oherwydd y pandemig a pholisïau fel y ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’, mae gweithio gartref ac ystwyth wedi dod yn angenrheidiol i lawer o sefydliadau a chyflogeion. Nod yr AEI yw nodi effaith y newid hwn mewn arferion gwaith a chyfleu effeithiau gwahaniaethol newid o’r fath ar sefydliadau, poblogaeth waith Cymru, eu teuluoedd a chymunedau lleol.

Awduron: Liz Green, Richard Lewis+ 5 mwy
, Laura Evans, Laura Morgan, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Datblygiadau Diweddar mewn Gweithredu Asesu’r Effaith ar Iechyd ac Iechyd ym Mhob Polisi: Gwersi o Gynulliad Rhyngwladol yn Barcelona

Mae’r erthygl hon yn crynhoi trafodion o gynulliad rhyngwladol o arbenigwyr ym meysydd Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (AEIau) ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2019 yn Barcelona, Sbaen. Roedd y cyflwyniadau a’r trafodaethau panel yn cynnwys gwahanol fodelau, arferion gorau, a gwersi a ddysgwyd, gan gynnwys gan y llywodraeth, banciau rhyngwladol, melinau trafod, a’r byd academaidd. Trafododd y cyfranogwyr syniadau o bob cwr o’r byd ar gyfer cydweithredu traws-sector i hybu iechyd.

Awduron: Bethany Rogerson, Ruth Lindberg+ 8 mwy
, Fran Baum, Carlos Dora, Fiona Haigh, Arielle McInnis Simoncelli, Lee Parry-Williams, Genandrialine Peralta, Keshia M. Pollack Porter, Orielle Solar

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Mae’r HIA yn amlinellu effeithiau posibl y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (a elwir yn gyffredin yn ‘Gyfnod Clo’) ar iechyd a lles poblogaeth Cymru yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae’n defnyddio’r hyn a ddysgwyd o dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf a barn rhanddeiliaid arbenigol

Awduron: Liz Green, Laura Morgan+ 5 mwy
, Sumina Azam, Laura Evans, Lee Parry-Williams, Louisa Petchey, Mark Bellis

Effaith ar Iechyd a Gwerth Cymdeithasol Ymyriadau, Gwasanaethau a Pholisïau: Trafodaeth Fethodolegol o Asesu’r Effaith ar Iechyd a Methodolegau Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Mae asesu effaith gadarnhaol a negyddol polisïau, gwasanaethau ac ymyriadau ar iechyd a llesiant yn bwysig iawn i iechyd y cyhoedd. Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) yn fethodolegau wedi eu sefydlu sydd yn asesu’r effeithiau posibl ar iechyd a llesiant, yn cynnwys ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn dangos synergeddau, a gorgyffwrdd o ran eu hymagwedd. Yn y papur hwn, rydym yn archwilio sut gallai HIA ac SROI ategu ei gilydd i gyfleu a rhoi cyfrif am effaith a gwerth cymdeithasol ymyrraeth neu bolisi sydd wedi ei asesu.

Awduron: Kathryn Ashton, Lee Parry-Williams+ 2 mwy
, Mariana Dyakova, Liz Green

WHIASU Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd

Yr wythnos hon mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyfforddiant a meithrin gallu AEI. Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu.
Datblygwyd y fframwaith gydag ymgysylltiad ac adborth gan ymarferwyr AEI o Gymru a thu hwnt. Yn ogystal, cynlluniwyd gyda mewnbwn gan randdeilliaid allweddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, swyddogion cynllunio, ymarferwyr iechyd yr amgylchedd ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus.

Awduron: Nerys Edmonds, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Liz Green

Datblygu fframwaith i reoli’r economi nos yng Nghymru: dull Asesu Effaith ar Iechyd

Mae’r astudiaeth achos hwn yn amlinellu dull darpar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ail-ddatblygu fframwaith adweithiol presennol ar gyfer rheoli economi’r nos yng Nghymru. Drwy gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid yn y broses, llwyddwyd i ail-lunio amcanion rhagweithiol realistig sy’n cynnwys iechyd a llesiant ill dau. Mae’r erthygl hon yn amlygu manteision HIA, a gellir ei defnyddio i lywio datblygiadau polisi yn y dyfodol.

Awduron: Kathryn Ashton, Janine Roderick+ 2 mwy
, Lee Parry-Williams, Liz Green

Fframwaith ar gyfer Rheoli Economi’r Nos yng Nghymru

Mae economi’r nos yng Nghymru yn ymwneud â’r gweithgarwch economaidd sy’n digwydd rhwng 6pm a 6am. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau yn amrywio o fwytai a sefydliadau sy’n gweini bwyd, gwerthu alcohol, lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau gyda dawnsio ac adloniant, sinemâu a gweithgareddau hamdden eraill.

Awduron: Kathryn Ashton, Janine Roderick+ 2 mwy
, Lee Parry-Williams, Liz Green

Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrhau Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru yn parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r dulliau gweithredu pwysig sydd wedi bod yn sail i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yma.

Awduron: Liz Green, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Nerys Edmonds